Yr Wythnos Gyda Rob

14 Hydref 2022

Annwyl Gydweithwyr,

Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn. Hoffwn ddechrau gyda diweddariad ar y broses i bennu’r gyllideb ar gyfer 2023/24 a ddechreuodd gydag adroddiad cychwynnol i’r Cabinet yn gynharach y mis hwn.

Ni fyddwn yn gwybod i sicrwydd beth fydd ein sefyllfa ariannol y flwyddyn nesaf tan y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei ffigwr setliad llywodraeth leol fis Rhagfyr. Rydym yn gwybod fodd bynnag ein bod yn wynebu pwysedd sylweddol ar ein gwariant, a gaiff ei yrru i raddau helaeth gan gynnydd mawr mewn chwyddiant cyffredinol a chost ynni.

Cllr Burnett BBC News

Efallai i rai ohonoch weld Arweinydd y Cyngor yn siarad ar Wales Today neithiwr. Dwedodd y Cynghorydd Burnett: “Y cwestiwn mawr i ni yw sut i warchod y gwasanaethau hanfodol yna sy’n amddiffyn ein pobl mwyaf agored i niwed a sut allwn ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o wneud pethau i allu cynnal y gwasanaethau eraill.” Mae hyn yn ddatganiad cywir a realistig o’r sefyllfa rydym ynddi.

Yn dilyn yr adroddiad i’r Cabinet ar 6 Hydref  fe gadeiriais sesiwn gyda’r holl brif swyddogion i adolygu ein sefyllfa yr wythnos ddiwethaf.  Mae ein tîm Cyllid yn cyflwyno briff manylach i’r Uwch Dîm Arwain yr wythnos nesaf.

Yn y cyfamser, carwn sicrhau pob un ohonoch fod llawer o gydweithwyr yn gweithio ar hyn o bryd i werthuso pa ddewisiadau a allai fod ar gael ac fe fyddaf yn gweithio gyda’r Arweinydd a’r Cabinet i adolygu’r dewisiadau hyn.

Does dim dwywaith y bydd yn rhaid i ni unwaith eto ganfod ffyrdd newydd o weithio ond mae ein record ni ar Ail-siapio, trawsnewid ac ymateb i’r pandemig yn dangos y gallwn wneud hyn. Rydym yn ffodus ein bod mewn sefyllfa ariannol cymharol gryf gyda’n hanes o reoli ariannol darbodus. Fel rhan o’r gwerthusiad hwn byddwn hefyd yn ystyried canlyniadau’r Arolwg Staff, sy’n cael eu dadansoddi ar hyn o bryd, a sut y gallwn gyflawni ar ein hymrwymiadau i breswylwyr fel y rhai a wnaed yn Prosiect Sero a sut y byddwn yn cefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw.

Yn erbyn y cefndir hwn rydym yn gweld o wythnos i wythnos bwysigrwydd cynyddol ein gwaith yn cefnogi cymunedau sy’n teimlo effaith yr argyfwng costau byw. Cyfeiriais yn ystod wythnosau diweddar at fenter newydd yr Hydref a’r Gaeaf hwn ac rwy’n falch o allu rhannu gyda chi ein bod ni ond ychydig wythnosau cyn lansiad yr ymgyrch Croeso Cynnes ledled y Fro. Bydd Croeso Cynnes yn cynnig ystod o weithgareddau, lleoliadau a gwasanaethau y gall ein preswylwyr gyrchu unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt drwy’r rhain. Bydd Tîm y Fro yn arwain o’r blaen fel arfer ond bydd hyn yn bartneriaeth gwirioneddol gyda’n cydweithwyr eraill yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.

Wellbeing Network Event

Roedd yr ystod o bartneriaid sy’n gweithio i gynnig gwasanaethau i deuluoedd, plant a phobl ifanc yn y Fro i’w gweld yn amlwg yr wythnos hon yn y digwyddiad Rhwydwaith Llesiant a gynhaliwyd gan ein tîm Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo’r Barri. Gwn gan y rhai a fynychodd fod hwn yn ddigwyddiad da a chwaraeodd ran allweddol yn helpu ein cydweithwyr a’r rheiny yn gweithio mewn mannau eraill i ddeall pa gymorth sydd ar gael yn y Fro a sut i gyfeirio dinasyddion tuag ato. Diolch i bawb a wnaeth hyn yn bosibl ac i’r rheiny a neilltuodd eu hamser i fynychu.

World Mental Health Day

Cynhaliwyd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yr wythnos hon hefyd. Ymhlith pethau eraill Ddydd Llun gwelwyd ymhlith gweithgareddau eleni ddychweliad y gêm bêl-droed flynyddol i ddefnyddwyr gwasanaethau a drefnwyd gan ein tîm Gwasanaethau Oedolion. Yn yr ornest eleni trechodd tîm aml anabledd cryf Barry Town United dîm Vale Madrid o 9 - 4. Gwn fod y gêm yn golygu llawer i bawb ynghlwm â’r digwyddiad a charwn ddiolch i Simon Colston, Sam Small a Gareth Newberry am eu gwaith yn trefnu hyn.

Community Radio Awrds Logo

Carwn hefyd longyfarch ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir gyda’u gwaith arloeos i estyn llaw i fusnesau drwy gyfrwng eu podlediad Holi’r Rheoleiddiwr yn cael ei enwebu ar gyfer Podlediad y Flwyddyn yn y Gwobrau Radio Cymunedol. Mae’r sioe, a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad â’r Tîm Diwydiant yn y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a Radio Bro yn yn enghraifft ragorol o ganfod dulliau newydd i’r Cyngor gyrraedd busnesau a defnyddwyr. Mae fformat y podlediad yn cynnwys sgyrsiau gyda swyddogion mewn gwahanol rannau o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir sydd ag arbenigedd mewn amrywiol feysydd, felly mae’n ymdrech tîm go iawn hefyd. Rwy’n dymuno’r gorau i’r tîm cyn y cyhoeddir yr enillydd, ond waeth beth fydd y canlyniad, mae ‘Holi’r Rheoleiddiwr’ yn fformiwla llwyddiannus, sy’n cyfleu egwyddorion rheoliadol sy’n aml yn gymhleth, mewn modd tawel, hwylus i gynulleidfa lawer yn fwy.

Speak Out Survey

I orffen, hoffwn eich cyfeirio chi at arolwg staff Speak Out a lansiodd ar StaffNet+ yr wythnos hon Mae’r arolwg wedi ei gynllunio i amlygu themâu cyffredin ac i nodi meysydd i’w gwella er mwyn sicrhau fod polisi chwythu’r chwiban y Cyngor yn parhau i amddiffyn cyllid ac enw da’r sefydliad wrth gadw ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid yn ddiogel.

Mae’n ddarn hynod bwysig o waith i sicrhau fod ein cydweithwyr yn teimlo eu bod wedi eu cefnogi a bod ein preswylwyr yn teimlo wedi eu diogelu. Gwahoddir holl staff Cyngor Bro Morgannwg i gwblhau’r arolwg, p'un a ydych yn gweithio mewn rôl rheng flaen, mewn swyddfa neu gartref, neu yn un o'n hysgolion.  Cwta bum munud fydd hi’n ei gymryd ac mae’r ymatebion yn ddienw.

Fel bob amser diolch am eich ymdrechion yr wythnos hon.  Diolch yn fawr bawb.

Rob.