Lansio Cynllun Gwirfoddoli wedi'i Ailwampio yn y Fro

Mae Gwerth yn y Fro, cynllun Bancio Amser y Fro gynt, yn rhoi cyfleoedd i drigolion y Fro wirfoddoli ar gyfer sefydliadau lleol ac yn eu gwobrwyo am eu hamser. 

Lansiwyd gwefan newydd yn gynharach yn y mis sy'n siop un stop ar gyfer gwirfoddolwyr a sefydliadau partner. Mae'n rhoi manylion cyfleoedd gwirfoddoli, yn caniatáu i sefydliadau recriwtio gwirfoddolwyr ac yn rhoi i bobl sydd wedi treulio amser yn gwirfoddoli yr opsiwn i gyfnewid gwobrau. 

Gall gwobrau fod yn unrhyw beth o baned o goffi a thafell o gacen i driniaeth harddwch neu barsel o nwyddau ymolchi. Mae awr o'u hamser yn rhoi hawl i ddefnyddwyr gael un wobr, gyda chap o 10 gwobr y mis. 

Arweiniwyd y prosiect gan Lianne Young, sy'n Swyddog Ymgysylltu a Gwirfoddoli Digidol sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Tai. Dechreuodd Lianne weithio ar y prosiect ym mis Mehefin eleni ac mae wedi cyflawni llawer iawn mewn cyfnod byr iawn.  

Mae Lianne wedi bod yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi ariannu'r prosiect, yn ogystal ag ymgysylltu â gwirfoddolwyr presennol a recriwtio sefydliadau partner sy'n cynnig cyfleoedd neu wobrau i wirfoddoli er mwyn sefydlu'r prosiect. 

Roedd Lianne am ganmol Mark Ellis, ei chydweithiwr yn y gwasanaethau Tai a sefydlodd yr hen gynllun Bancio Amser. Wrth siarad am y prosiect yn ddiweddar dywedodd Lianne,


  "Fe wnaeth Bancio Amser wir roi sylfaen i ni sefydlu Gwerth yn y Fro. Fydden ni ddim lle'r ydym ni hebddo. Ond yr adborth gan wirfoddolwyr presennol oedd nad oedd y gwobrau a gynigir drwy Tempo bob amser yn berthnasol nac yn hygyrch iddynt. Y gwahaniaeth rhwng Gwerth yn y Fro a'r hen gynllun Bancio Amser yw bod hwn yn economi gylchol. Mae'r holl gyfleoedd a'r gwobrau gwirfoddoli gyda sefydliadau sydd wedi eu lleoli ym Mro Morgannwg."

Mae'r tîm sy'n gyfrifol am Werth yn y Fro hefyd wedi ffurfio partneriaeth gyda Chyrsiau'r Fro i roi'r dewis i wirfoddolwyr wneud cwrs hyfforddiant achrededig. Mae'r cwrs cyntaf eisoes yn llawn.  iaradodd un cyfranogwr, Kimberley, am sut y daeth i gymryd rhan yn â Gwerth yn y Fro.

Kimberley at Fonmon"Fe wnes i gyfarfod Lianne am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf, fe wnaethon ni sgwrsio'n fyr am y dyfodol ac fe ofynnodd beth hoffwn i ei wneud. Dywedais efallai rhywfaint o waith neu hyfforddiant gwirfoddol. Ar y pryd, doedd gen i ddim nodau na chyfeiriad go iawn. O fewn wythnos, daeth Lianne yn ôl ataf gyda chyfle i helpu gyda chodi sbwriel yng Nghastell Ffwl-y-mwn, a agorodd y drws yn gyflym am gyfle arall i weithio gyda'r sefydliad sy'n darparu gweithgareddau awyr agored yno.

"Roeddwn i'n gwybod yn syth bod Lianne yn berson hynod o galonogol ac ysgogol. Roeddwn i'n teimlo ei bod hi wedi mynd â fi o dan ei hadain ac yn cydnabod fy mhotensial ac rwy'n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd y daeth hi o hyd iddyn nhw oherwydd eu bod wedi gwneud cymaint dros fy hyder a'm hunan-barch."

Ychwanegodd Lianne, "Oherwydd bod y prosi  ect wedi cael ei ariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mae'n bwysig bod manteision i wirfoddolwyr yn ehangach na'u gwobrwyo am eu hamser. Mae gwirfoddoli yn brofiad cyfannol sydd hefyd yn gallu bod o fudd i iechyd, lles, lleihau ynysigrwydd cymdeithasol a gwella sgiliau."

Dywedodd Farida Aslam, Uwch Reolwr Cymdogaeth, "Dwi'n falch iawn o'r gwaith mae Lianne wedi'i wneud i sefydlu Gwerth yn y Fro mewn cyfnod mor fyr. Er bod y cynllun Bancio Amser yn llwyddiant mawr, roedd y gwobrau a gynigir trwy Tempo yn genedlaethol ac yn gyfyngedig ac felly nad oeddent bob amser yn hygyrch i wirfoddolwyr sydd wedi'u lleoli yma yn y Fro. Yn seiliedig ar adborth gan wirfoddolwyr presennol, rydym wedi partneru gyda busnesau lleol gwych i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli a gwobrau sy'n iawn ar ein stepen drws. Mae'r cynllun hwn hefyd ar agor i'r cyhoedd felly gall unrhyw un gymryd rhan."

Ewch i www.valueinthevale.com i ddysgu mwy.