Oracle Fusion: Mae’r dyddiad cau ar gyfer anfonebau ac archebion iProcurement wedi'i ymestyn  

Nid oes angen anfonebau erbyn 21 Hydref mwyach a bydd system iProcurement yn parhau ar-lein. 

A new staggered approach to the rollout of the Council’s new, cloud based, Oracle Fusion system has been agreed.   

Cytunwyd ar ddull o gyflwyno system Oracle Fusion newydd y Cyngor, fydd yn gweithredu ar y cwmwl, fesul cam.   

Roedd disgwyl cael gwared ar system daliadau presennol Oracle ar 21 Hydref 2022 er mwyn gallu trosglwyddo gwybodaeth cyflenwyr, ond bydd bellach yn parhau ar-lein nes y clywir yn wahanol.   

Tra bod y system yn parhau ar waith mae modd cyflwyno pob anfoneb o hyd yn y ffordd arferol. Bydd iProcurement hefyd yn parhau i fod ar gael i'r holl ddefnyddwyr presennol.   

Bydd dyddiad newydd i fynd â’r system Oracle Fusion yn fyw yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd terfynau amser newydd ar gyfer cyflwyno anfonebau a chodi archebion iProcurement yn cael eu rhannu yn unol â hyn.   

Bydd cyflwyno system newydd Oracle Fusion yn galluogi mwy o gydweithwyr i gael mynediad i'r modiwlau hyfforddi hunanwasanaeth a fydd ar gael yn fuan. Os ydych chi'n ddefnyddiwr iProcurement neu gyfrifon taladwy presennol, byddwn yn cysylltu â chi ynghylch trefniadau hyfforddi yn fuan.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r tîm Credydwyr: creditors@valeofglamorgan.gov.uk  

Os hoffech wybod mwy am sut y gallai Oracle Fusion eich helpu yna cysylltwch â ni: fusion@valeofglamorgan.gov.uk