Oracle Fusion yn dod y mis Tachwedd hwn

Bydd y ffordd y mae'r holl staff yn cael gafael ar wybodaeth am eu manylion personol, eu cyflog a llawer mwy yn newid cyn bo hir.

Mae disgwyl i'n system newydd sy’n seiliedig ar y cwmwl, Oracle Fusion, lansio'r mis Tachwedd hwn, gan ddisodli'r system Oracle bresennol. System gwybodaeth reoli ar draws y Cyngor fydd hon a fydd yn cefnogi’r ffordd rydym yn cyflawni ein prosesau ariannol ac AD, gan eu gwneud yn fwy hyblyg fel y gallwn ddarparu profiad defnydd hyd yn oed gwell i drigolion, staff a chyflenwyr.  

Gallwch ddefnyddio Oracle Fusion i weld eich porth hunanwasanaeth Oracle, gweld gwybodaeth bersonol, adrodd am dreuliau a llawer mwy. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyfle cyn bo hir i weld eich slip talu.

Gan fod y system newydd yn seiliedig ar y cwmwl,  bydd staff yn gallu mewngofnodi gan ddefnyddio dyfeisiau gwaith a phersonol, gyda dull mewngofnodi untro fel na fydd angen i chi osod a chofio sawl cyfrinair.  

Bydd gwybodaeth yn cael ei hychwanegu at yr hyb wrth i ni nesáu at lansio Oracle Fusion

Ochr yn ochr â gwella gwasanaethau i staff, un o nodau allweddol y strategaeth ddigidol yw gwella profiad cwsmeriaid.

Os hoffech chi wybod mwy am sut y gallai Oracle Fusion eich helpu chi, yna cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni:

E-bost: fusion@valeofglamorgan.gov.uk