Staffnet+ >
Oracle Fusion: Anfonebau ac iProcurement
Oracle Fusion: Anfonebau ac iProcurement
Bydd y ffordd y caiff archebion eu codi ac anfonebau eu talu yn newid yn fuan.
Fel rhan o'r trosglwyddiad, mae angen i ni sicrhau bod pob anfoneb agored ar y system yn cael eu cysoni a'u talu erbyn 21 Hydref.
Os byddwch yn anfon eich anfonebau i'r tîm canolog, sicrhewch eu bod yn cael eu cyflwyno erbyn 12pm ar 17 Hydref 2022.
Sicrhewch hefyd fod yr holl gymeradwyaethau iProcurement a derbynebau iProcurement yn gyfredol os ydynt yn berthnasol.
Bydd modd i'r tîm mewnbwn o bell fewnbynnu anfonebau hyd at 12pm ar Dydd Gwener 21 Hydref 2022. Sicrhewch fod pob daliad yn cael ei ryddhau erbyn yr amser hwn.
Mae disgwyl i'r system dalu fod ar gael o 1 Tachwedd 2022.
Ni fydd unrhyw daliadau'n cael eu gwneud rhwng 21 Hydref a Dydd Mawrth 1 Tachwedd heblaw am daliadau brys iawn gyda chymeradwyaeth ar lefel Cyfarwyddwr.
Os ydych yn ddefnyddiwr iProcurement neu ddefnyddiwr cyfrifon sy'n daladwy eisoes, cysylltir â chi ynghylch trefniadau hyfforddi yn fuan.
Os ydych am anfon cyfathrebu allan at gyflenwyr rheolaidd mae math awgrymedig o eiriau wedi'i chynnwys isod;
"Oherwydd gosod system caffael a thaliadau integredig newydd, mae amser segur wedi’i gynllunio ar gyfer prosesu anfonebau rhwng 21 Hydref a 1 Tachwedd 2022.
I gynorthwyo i dalu'n gyflym i unrhyw anfonebau sy'n weddill, sicrhewch fod unrhyw anfonebau sy'n ddyledus yn cael eu cyflwyno ynghyd ag unrhyw nodiadau credyd sydd heb eu cyflwyno erbyn 17 Hydref 2022."
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: Creditors@ValeofGlamorgan.gov.uk.
Os hoffech chi wybod mwy am sut y gallai Oracle Fusion eich helpu chi yna cysylltwch â ni.
E-bostiwch: fusion@valeofglamorgan.gov.uk
