Staffnet+ >
Mae Hugh Smith yn aelod or Rhwydwaith Staff Amrywiol
Mae Hugh Smith yn aelod o'r Rhwydwaith Staff Amrywiol
04 Hydref 2022

Mae wedi bod yn bêl-droediwr proffesiynol, yn chwaraewr rygbi, yn ynad ac yn adeiladwr - felly mae Hugh Smith yn gwybod tipyn am amrywiaeth.
Mae’r Clerc Gwaith o fewn yr adran Gwasanaethau Ariannol hefyd yn rhan o grŵp Cyngor sy'n hyrwyddo achos pobl o ystod o leiafrifoedd ethnig.
Wedi'i ffurfio yn 2020, nod y Rhwydwaith Staff Amrywiol yw hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu cefndiroedd amrywiol staff a'r rhai sy'n byw o fewn ein cymunedau.
Mae'n ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb ac yn cynnig amgylchedd cymdeithasol a chefnogol i'r aelodau.
Fe wnaeth Hugh gofrestru yn fuan ar ôl ymuno â'r Fro o rôl debyg gyda Chyngor Caerffili ychydig flynyddoedd yn ôl.
Y newid hwnnw yw'r cam diweddaraf mewn gyrfa liwgar sydd wedi ei weld yn cael llwyddiant yn y byd chwaraeon, yn gweithio gyda throseddwyr ifanc a hyd yn oed yn gwasanaethu ar y farnwriaeth.
Ar ôl cyrraedd o St Kitts and Nevis yng nghanol y 1950au, fel rhan o'r genhedlaeth Windrush, ymgartrefodd rhieni Hugh yn ardal Butetown, Caerdydd ac fel person ifanc, daeth i sylw tîm pêl-droed y ddinas.
Dilynwyd hyn gyda chyfnod gyda'r cewri o Ogledd Llundain, Tottenham Hotspur, wrth iddo chwarae ochr yn ochr â llawer a aeth ymlaen i fod yn enwau mawr.
Fodd bynnag, er bod gan Hugh atgofion melys o'r cyfnod hwn, roedd pêl-droed yn y 1970au yn anodd gyda hiliaeth yn gyffredin.
"Wnes i erioed ymddangos yn y tîm cyntaf, ond roeddwn i'n chwaraewr proffesiynol oedd yn chwarae yn y tîm ieuenctid ac yn y tîm wrth-gefn," meddai'r cyn-ymosodwr.
"Dechreues i fel hyfforddai yng Nghaerdydd pan o'n i'n fachgen ysgol, wedyn ges i ddwy flynedd gyda Tottenham pan o'n i'n chwarae gyda phobl fel Mark Kendall a thipyn o gasgliad o sêr a dweud y gwir.
"Roedd 'na brofiadau gwych, fel aros dros nos mewn gwestai cyn gemau, roedd hynny'n grêt. Ond fe wnes i brofi hiliaeth yng Nghaerdydd, hyd yn oed o'r staff hyfforddi. Roedd mynd i Lundain ychydig yn haws achos roedd hi'n ddinas mwy amrywiol na Chaerdydd ar y pryd, ond roedd 'na ardaloedd o hyd na fyddech chi am fynd iddyn nhw.
"Roedd yna lawer o ddigwyddiadau annymunol yn ymwneud â'r hyfforddwyr yng Nghaerdydd. Chi'n edrych nôl nawr a meddwl 'sut lwyddon nhw i beidio cael eu dal yn gwneud hynna i gyd?' Roedd un dyn arbennig, roedd ei fab yn chwarae dros y clwb hefyd, a byddai'n gwneud sylwadau hiliol yn gyson. Roedd yn ddigwyddiad bob dydd.
"Mae'r unigolyn wedi marw nawr, ond ti'n edrych yn ôl ac yn meddwl 'sut wnes i ganiatáu i hynny gario mlaen', 'sut wnes i adael i rywun wneud hynny?' Roedd yn eithaf erchyll a dweud y gwir.
"Ar y pryd ro'n i'n blentyn 16 neu 17 oed ac roedd gan y bobl yma lawer o ddylanwad ar eich datblygiad a sut oeddech chi'n cael eich gweld o fewn y clwb pêl-droed. Roeddwn i'n un o bedwar chwaraewr du yn y tîm yng Nghaerdydd ac roedd pob un ohonom yn dod o’r ardal.
"Roedd yn anodd iawn, ond roedden ni i gyd yn cefnogi ein gilydd."
Un o'r grŵp hwnnw oedd ei ffrind gorau Anton Joseph, a aeth ymlaen i gynrychioli Dinas Caerdydd ar lefel uwch, ac roedd gan Hugh hefyd edmygedd enfawr o weithiwr arall yn y Cyngor.
Roedd Gerald Cordle, sydd bellach yn gweithio yn y tîm Priffyrdd, yn asgellwr dros Glwb Rygbi Caerdydd yr oedd pawb yn ei ofni cyn ddo symud i rygbi'r gynghrair a chael cap dros Brydain Fawr.
"Dwi'n gweld Gerald bron bob bore," gwenodd Hugh. "Dwi dipyn bach yn hŷn na fe, ond fe gawson ni ein magu yn yr un ardal. Aeth ymlaen i chwarae rygbi dros Gaerdydd ac roedd wir yn seren.
"Mae'n esiampl i bobl eraill yn Butetown ac, ar hyd y ffordd, rwy'n siŵr y byddai wedi cael yr un problemau ag a gefais i."
Roedd Hugh hefyd yn chwaraewr rygbi medrus, gan chwarae i Glwb Rygbi Butetown ac yna Clwb Rygbi Rhyngwladol Caerdydd, a oedd yn cael ei adnabod fel y ‘CIACs’, ochr yn ochr â'i frodyr Clyde ac Earl, tra bu'r brawd hŷn Carl, yn chwarae rygbi ieuenctid yno cyn cynrychioli Clwb Rygbi Caerdydd.
Ar yr adeg hon y dechreuodd Hugh yrfa mewn Llywodraeth Leol ar ôl cofrestru ar gynllun o'r enw Positive Action Training in Housing (PATH).
Cyngor Sir De Morgannwg oedd yn ei redeg dan gyfarwyddyd sefydliad yn Llundain a'r nod oedd recriwtio mwy o bobl o gefndiroedd lleiafrifol i'r sector.
Mae wedi aros yno fyth ers hynny, gan ymuno â'r Fro ar ôl cyfnodau gyda Chynghorau Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd, yn ogystal â Chaerffili.
Nawr mae Hugh yn gweithio ar y rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, gan gysylltu'n agos â Rheoli Adeiladu i fonitro ansawdd gwaith contractwyr, yn bennaf mewn perthynas ag adeiladu ysgolion.
Yn ystod ei gyfnod yn y diwydiant bu llawer o newidiadau mewn Llywodraeth Leol a'r byd ehangach.
Cafodd Cynghorau Cymru eu had-drefnu, tra, diolch byth, nid yw hiliaeth mor gyffredin ag yr oedd 40 neu 50 mlynedd yn ôl.
Ond mae anghydraddoldeb a rhagfarn yn parhau i fod yn broblemau real iawn, materion y mae'r Rhwydwaith Amrywiol yn ceisio eu taclo yn y Fro.
"Dwi ddim wedi bod i wylio Dinas Caerdydd nawr ers amser hir," meddai Hugh.
"Aethon ni i wylio gêm yn erbyn Leeds United pan oedd ffrind i fi yn chwarae, Sanchez Watt, mae ei dad o Gaerdydd.
"Roedden ni yn y brif eisteddle ac roedd 'na bedwar neu bump o ddynion yn gweiddi camdriniaeth eiriol hiliol gyson yn erbyn chwaraewyr Leeds. Sefais i fyny a'u herio nhw a chawsant eu tynnu oddi yno, ond aeth fy mab fyth yn ôl i wylio gêm eto. Roedd ond yn ifanc bryd hynny.
"Dwi'n weddol newydd i'r Rhwydwaith Amrywiol oherwydd dim ond ers dwy flynedd a hanner dwi wedi bod gyda'r Awdurdod, ond daeth y grŵp at ei gilydd gyntaf i edrych ar rai o'r materion sy'n effeithio ar leiafrifoedd du ac ethnig.
"Dydyn nhw ddim yn faterion dadleuol, mae llawer ohonyn nhw i'w wneud gyda recriwtio, gan ddod â phobl i mewn ar lefel y gallan nhw ddysgu gwahanol rolau.
"Mae cyfarfodydd y grŵp yn agored iawn ac mae ystod eang o bobl yn gysylltiedig ag e gydag amrywiaeth eang o sgiliau. Nid yw pob un yn dod o grŵp du a lleiafrifoedd ethnig. Mae 'na ymgynghorwyr sy'n gweithio gyda'r grŵp sydd ddim o'r cefndir yna."
Tra gyda Chyngor Caerdydd, fe dreuliodd Hugh beth amser yn gweithio gyda throseddwyr ifanc hefyd.
Mae'r profiad hwn wedi ei helpu i ddeall y math o gefnogaeth sydd ei angen ar bobl er mwyn llwyddo.
"Mae'n rhaid i ni ddeall bod angen i bobl sy'n dod i mewn i'r sefydliad gael y cyfleoedd ac mae angen eu hannog hefyd ynglŷn â hyfforddi," ychwanegodd.
"Rwy'n gweithio ym maes adeiladu’r Cyngor ac, ar wahân i gydweithwyr yn yr adran Rheoli Adeiladu ac ardaloedd eraill o'r ganolfan adeiladu o fewn yr awdurdod, dwi ond yn ymwybodol o efallai dri neu bedwar o bobl o gefndiroedd amrywiol.
"Mae'n ymwneud â hyfforddiant ac ymwybyddiaeth. Dydw i ddim am awgrymu eich bod yn dod â rhywun i mewn dim ond oherwydd eu cefndir. Mae angen i chi gael pobl gyda'r sgiliau cywir a'r wybodaeth gywir.
"Dydyn ni ddim yn gweld unrhyw dirfesurwyr meintiau amrywiol ar y safle, er enghraifft. Dydyn ni ddim yn gweld unrhyw reolwyr safle amrywiol. Rwyf wedi cyfarfod â dau reolwr prosiect o gefndiroedd amrywiol, a oedd yn cael eu cyflogi gan ein contractwyr. Fel arfer y gweithlu rydych chi'n ei weld o gefndir amrywiol yw gosodwyr awyru, gosodwyr brics, labrwyr neu lanhawyr ar y safle.
"Mae yna rywbeth sy’n rhwystro'r llwybr ac mae llawer ohono yn ymwneud â chred. Fel grŵp amrywiol mae'n rhaid i ni gredu y gallwch fynd ymlaen i wneud swyddi ar lefel uwch. Mae angen i’r unigolion hyn feddwl yn gadarnhaol ymysg ei gilydd, ond mae hyder yn beth bregus.
"Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cynnig cyfleoedd cyfartal i bobl o gefndiroedd penodol, ond hefyd eu bod nhw'n teimlo mewn sefyllfa i'w cymryd nhw."
Mae'r rhwydwaith Amrywiol yn agored i unrhyw un. Ceir rhagor o wybodaeth a ffurflen aelodaeth ar eu Tudalen staffnet.