Allech chi ddod yn deulu maeth yn y Fro?

Mae Rich a Tania ill dau yn eu 50au. Maen nhw'n maethu dau blentyn o'u cartref yn y Barri – dyma eu stori.

Mae Rich a Tania wedi bod yn briod ers 13 mlynedd ac mae gan y ddau eu plant eu hunain o berthnasoedd blaenorol. Maent wedi maethu gyda'i gilydd ers dros 10 mlynedd, gan ddarparu gofal a chariad i nifer o blant lleol.

"I ni, doedd hi ddim yn teimlo'n iawn i fynd lawr y llwybr o gael mwy o blant ein hunain. Felly, edrychon ni ar faethu yn lle hynny a chysyllton ni â thîm maethu ein Hawdurdod Lleol. Mae wedi rhoi cyfle i ni ofalu a meithrin eto."

Mae Rich a Tania wrth eu bodd yn rhan o dîm Maethu Cymru Bro Morgannwg. Rydyn ni wastad wedi bod yno ar eu cyfer, pryd bynnag yr oedd angen cymorth arnynt.

"O'r pethau mawr fel yr hyfforddiant ffurfiol, i’r pethau bach fel bod ar ben arall y ffôn neu alw heibio pan fyddwn ni'n cael diwrnod gwael, maen nhw yma i ni bob amser."

"Mae angen cartref diogel arnynt, ond mae angen lle arnynt hefyd i fod yn blant."

Nid oedd Rich a Tania yn siŵr beth i'w ddisgwyl wrth gofrestru i fod yn ofalwyr maeth am y tro cyntaf, ond 10 mlynedd yn ddiweddarach mae wedi newid popeth. Maen nhw bellach yn fwy ymroddedig nag yr oeddent erioed yn meddwl y byddent.

"Rwy'n credu ein bod ni ychydig yn naïf i ddechrau - roedden ni'n meddwl y gallen ni helpu gwahanol blant oedd angen cartref am ychydig fisoedd a ddim ymrwymo i unrhyw beth hirdymor. Ond yna fe wnaethom gwrdd â Charlie ac mae hi wedi bod gyda ni ers hynny."

Aeth Charlie at Tania a Rich am y tro cyntaf pan oedd hi'n saith oed; mae hi'n 17 nawr. I ddechrau, roedd hi'n swil ac yn ddagreuol, ond nawr mae hi wir yn ffynnu. Mae Tania a Rich yn gwybod ei bod yn fwy na darparu cartref yn unig.

"O'r diwrnod cyntaf rydym wedi rhoi cartref cynnes i Charlie gyda bwyd da ar y bwrdd a threfn reolaidd. Ond mae rhaid i chi ei wneud yn hwyl hefyd, roedd angen cartref diogel arni ond hefyd y lle i fod yn blentyn. Yr un peth gyda'r bachgen ifanc sy'n byw gyda ni nawr, sy'n ein cadw’n brysur!"

"Mae'n fraint gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

"Yn y pen draw, mae maethu wedi dod â'r gorau allan o bawb – a dyna'n union sut y dylai fod.

"Rydym mor ddiolchgar i dîm maethu Awdurdod Lleol Bro Morgannwg am roi cyfle i ni fod yn deulu maeth. Mae'n fraint gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau'r plant hyn. Hoffwn i gredu ei fod wedi dod â'r gorau allan ohonof i hefyd."

Eisiau bod yn deulu maethu?

Os ydych chi'n teimlo wedi eich ysbrydoli gan ymrwymiad Rich a Tania i faethu ac eisiau cymryd y camau cyntaf tuag at fod yn ofalwr maeth eich hun, rydym am glywed gennych. Cysylltwch â ni heddiw a gallwn ddechrau pennod newydd yn eich bywyd.

Cyswllt

E-bost: fostercare@valeofglamorgan.gov.uk / megparry@valeofglamorgan.gov.uk

Ffon: 01446 729600

Wefan: Valeofglamorgan.fosterwales.gov.wales