Dathlu Wythnos Ailgylchu fel un o’r ALlau gorau

Yr Wythnos Ailgylchu hon, rydyn ni'n falch o godi proffil ein timau Gwastraff ac Ailgylchu gwych, y mae eu gwaith caled wedi ennill lle i Fro Morgannwg ymysg ailgylchwyr gorau Cymru.

Recycle Week Wales PosterHydref 17-23 yw Wythnos Ailgylchu. Y thema eleni yw 'Wynebu’r Gwir', sy'n ceisio herio camdybiaethau a mythau ynghylch ailgylchu, a thargedu halogiad i wella ymddygiadau ailgylchu.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r awdurdod wedi gwneud newidiadau helaeth i wella ansawdd ein hailgylchu. Nôl yn 2020, dilynodd y Barri esiampl y Fro Wledig, gan ddod yr ail ardal yn y sir i symud i'r system ailgylchu didoli ar garreg y drws.

Dechreuodd trigolion ddefnyddio bagiau oren, bagiau gwyn a chadis llwyd newydd, ochr yn ochr â’r bagiau glas, cadis gwastraff bwyd gwyrdd a bagiau gwastraff gardd gwyrdd.  

Gellir ailgylchu mwy o'r deunydd a gesglir bellach, gan leihau effaith niweidiol gwastraff domestig ar yr amgylchedd naturiol. Mae'r ymddygiad hwn yn braenaru'r ffordd i'n helpu i gyflawni ein nodau Prosiect Sero o ddod yn garbon sero-net erbyn 2030.

Ar wythnos gyfartalog, mae ychydig llai na 1,000 tunnell o ddeunydd, sy'n cyfateb i bwysau mwy na 166 o Eliffantod Affricanaidd, bellach yn cael ei gasglu wrth drigolion Bro Morgannwg.

Yn adroddiad y llynedd, trigolion y Fro oedd ail ailgylchwyr gorau Cymru. Rydym hefyd yn un o'r ychydig awdurdodau sydd eisoes wedi rhagori ar darged Llywodraeth Cymru o gyfradd ailgylchu 70% erbyn 2024-25.

Mae cynhyrchiant gwastraff bag du cyfartalog y sir hefyd yn sylweddol is na’r cyfartaledd cenedlaethol - 342kg o gymharu â 401kg.
Mae'r ystadegau gwych hyn yn dyst i ymdrechion ein tîm i ymgysylltu â thrigolion ar-lein ac mewn sioeau teithiol, yn ogystal â'r criwiau sydd wedi cymryd yr amser i stopio a sgwrsio â thrigolion ar eu rowndiau.