Galw am Hyrwyddwyr Oracle Fusion

Bydd y ffordd y mae'r holl staff yn cael gafael ar wybodaeth am eu cyflog, eu manylion personol, a llawer mwy yn newid cyn bo hir.

Mae disgwyl i'n system newydd sy’n seiliedig ar y cwmwl, Oracle Fusion lansio'r mis Rhagfyr hwn, gan ddisodli'r system Oracle bresennol.

Gallwch ddefnyddio Oracle Fusion i weld eich slipiau cyflog, gwybodaeth bersonol, cofnodi treuliau a llawer mwy.

Ydych chi'n giamster ar dechnoleg? Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am System Oracle Fusion Newydd y Fro?  Os felly, dyma’r cyfle gwirfoddoli i chi o bosibl!

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Pencampwyr Oracle Fusion i fod yn gymorth rheng flaen i ni ar lawr gwlad.  Rydym yn chwilio am grŵp o wirfoddolwyr cyfeillgar ac amyneddgar sy'n dda am esbonio cyfrifiaduron, heb ddefnyddio jargon a chanddynt frwdfrydedd dros bopeth digidol. 

Fusion Homepage

Sut gallwch chi gefnogi:

Cymorth rheng flaen gyda chwestiynau System Oracle Fusion, megis;

  • Materion Llywio
  • Newid Gwybodaeth Bersonol
  • Llenwi Ffurflenni
  • Cael Mynediad at Dreuliau
  • Cael Mynediad at Slipiau Cyflog

Bydd gofyn i chi fynychu sesiwn hyfforddi hanner diwrnod rhwng y 21 a 25 Tachwedd, byddwch yn cael hyfforddiant llawn i sicrhau eich bod yn gyfforddus gyda'r system cyn Mynd yn Fyw a bydd gennych fynediad at yr holl gymorth a'r gefnogaeth sydd ei angen arnoch.

Mynegwch eich diddordeb drwy e-bostio eich enw, teitl swydd a thîm i: fusion@bromorgannwg.gov.uk cyn 11 Tachwedd 2022.

Am fwy o wybodaeth am Oracle Fusion, sicrhewch eich bod yn ymweld â'r hyb.

Os hoffech chi wybod mwy am sut y gallai Oracle Fusion eich helpu chi yna cysylltwch â ni.

E-bost: fusion@valeofglamorgan.gov.uk