Person ifanc o’r Barri yn dod yn Brif Weinidog Cymru i hyrwyddo grym merched

Mae person ifanc, sydd wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bro Morgannwg i wella diogelwch ar y stryd, wedi treulio diwrnod fel Prif Weinidog Llywodraeth Cymru’n ddiweddar.

Jaime - First Minister

Siaradodd Jaime gyda Mark Drakeford am y gwaith mae’n ei wneud i fynd i’r afael ag aflonyddwch rhywiol cyhoeddus yn rhan o ymgyrch i ddathlu a chydnabod grym merched.

Dathlwyd Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn gynharach yr wythnos hon ac yn rhan ohono, cynhaliwyd digwyddiad Meddiannu Diwrnod y Merched, a roddodd gyfle i ferched gael blas ar swyddi gwleidyddol, technoleg, cyfryngau a busnes pwysig.

Treuliodd Jaime 24 awr fel pennaeth Llywodraeth Cymru, gan baratoi ar gyfer cwestiynau’r Prif Weinidog, mynd i gyfarfod y grŵp Ymwybyddiaeth o Drosedd Gasineb a mynd i sesiwn tynnu lluniau gyda Chwpan y Byd.

“Ces i gyfle i siarad â Mark Drakeford a gofyn iddo sut beth yw paratoi ar gyfer cwestiynau’r Prif Weinidog ac roedd hynny’n brofiad diddorol iawn,” dywedodd Jaime.

“Fy hoff beth oedd y cyfarfod trosedd gasineb gyda Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt oherwydd ei fod yn ddiddorol iawn gwrando ar y gwahanol sefydliadau, siarad am y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud a gallu rhannu’r gwaith dwi wedi bod yn ei wneud.

Jaime - First Minister 1

“Y brif neges roeddwn i am ei chyfleu o’m gwaith oedd pwysigrwydd gweld merched mewn rolau gwleidyddol pwysig. Dwi’n meddwl ei bod yn wych bod dau o’r Gweinidogion y siaredais â nhw heddiw yn fenywod.

“Siaradais ychydig am y gwaith dwi wedi bod yn ei wneud i Ei Llais Cymru ar aflonyddwch rhywiol cyhoeddus ac arolwg a ryddhaom yn ddiweddar.

“Dwi’n meddwl ei bod mor bwysig bod merched â’r sedd honno wrth y bwrdd ac yn cael lleisio eu barn oherwydd mae’n rhywbeth nad oedd gyda ni. Nawr ei bod gyda ni, mae’n bwysig defnyddio pob llwyfan y gallwn i ledaenu’r neges ac i rannu ein meddyliau a’n barn.”

Mae Jaime yn aelod o grŵp merched y Cyngor, Ei Llais Cymru ac mae hefyd yn Gennad Hawliau ar gyfer yr Awdurdod, gan godi ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc. 

Mae hefyd wedi bod yn rhan o brosiectau cyfranogiad y Gwasanaeth Ieuenctid ers y tair blynedd diwethaf.

Mae’r Cyngor yn bwriadu cynnig profiadau tebyg i’r un a gafodd Jaime yn y dyfodol. I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch valeyouthservice@valeofglamorgan.gov.uk