Staffnet+ >
Y Fro yn fuddugol yng Ngwobrau Diogelu Bwrdd Diogelu Caerdydd ar Fro
Y Fro yn fuddugol yng Ngwobrau Diogelu Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro
Cafodd Cyngor Bro Morgannwg ei gydnabod am ei 'Ymrwymiad Eithriadol i ddiogelu plant' yng Ngwobrau Cydnabod Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro yn ddiweddar.
Wedi'i gynnal ar ddydd Gwener 18 Tachwedd, roedd y gwobrau eleni yn cynnwys pum categori a oedd yn dathlu amrywiaeth o gyfraniadau eithriadol i ddiogelu, ac yn cydnabod y rhai sydd wedi cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.
Ar ôl i'r Fro gofnodi'r derbyniad uchaf o Brydau Ysgol am Ddim yng Nghymru yn ystod mis Medi a mis Hydref 2022, roedd ein Tîm Cymwys ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim (cPYADd) hefyd wedi cipio'r wobr am 'Ymrwymiad Eithriadol i ddiogelu plant' yn y gwobrau.
Yng nghyfnod cynnar y pandemig, aeth grŵp bach iawn o swyddogion ati'u hunain yn wirfoddol i sicrhau bod prydau ysgol am ddim, boed hynny ar ffurf dosbarthu bwyd, taliadau neu dalebau archfarchnadoedd, yn cael eu danfon i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Gweithredodd y tîm yn gyflym, gan lwyddo i sicrhau’r 2,000 o dalebau archfarchnad cyntaf yn ystod pythefnos cyntaf y pandemig.
Gweithredodd y tîm yn gyflym, gan lwyddo i sicrhau’r 2,000 o dalebau archfarchnad cyntaf yn ystod pythefnos cyntaf y pandemig.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae tîm cPYADd wedi cyhoeddi dros 150,000 o daliadau unigol, gyda gwerth cyfartalog o tua £40 fel cyfnewid ar gyfer prydau ysgol i fwy na 4,000 o'n disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.
Bu gwaith tîm cPYADd y Fro yn allweddol i gefnogi teuluoedd bregus mewn cyfnod o galedi sylweddol.
Roedd y gwobrau, a gyflwynwyd gan gyd-gadeiryddion y Bwrdd Diogelu, Lance Carver a Tracey Holdsworth, ynghyd â'r Uwch-arolygydd Tim Morgan o Heddlu De Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Plant Caerdydd, Deborah Driffield, yn derfyn addas i Wythnos Genedlaethol Diogelu.
Caiff yr wythnos ei chydlynu gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth ymhlith y gymuned a gweithwyr proffesiynol, ac atgyfnerthu'r negeseuon presennol ynghylch diogelu plant ac oedolion mewn perygl. Ochr yn ochr â rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau, trefnodd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro raglen o weithdai a chynadleddau ar gyfer preswylwyr a gweithwyr proffesiynol.