Staffnet+ >
Cyngor Bro Morgannwg yn ail-arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog
Cyngor Bro Morgannwg yn ail-arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Er mwyn arddangos y teyrngarwch hwn, mae Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bronwen Brooks wedi ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ochr yn ochr â'r Brigadydd Dawes, Maer Cyngor Bro Morgannwg, Susan Lloyd-Selby a Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, Abigail Warburton, yn y Plasty ar ddydd Llun 14 Tachwedd.
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gwirfoddol y gall sefydliadau ei weithredu i ddangos eu cefnogaeth i Gymuned y Lluoedd Arfog. Mae ei egwyddorion yn sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg a gyda pharch.
Yn 2011, Bro Morgannwg oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i lansio Cyfamod Cymunedol sy'n ategu Cyfamod y Lluoedd Arfog ar lefel leol. Mae'n annog cymunedau lleol i gefnogi'r lluoedd arfog yn eu hardal ac i hybu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o faterion sy'n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog.

Daw'r ail-arwyddo wrth i'r Cyngor dderbyn Gwobr Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn Aur (ERS). Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwr yn cynnwys gwobrau efydd, arian ac aur i sefydliadau sy'n addo, yn dangos neu’n eirioli cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog ac sy'n cyd-fynd â'u gwerthoedd gyda Chyfamod y Lluoedd Arfog.
Mae gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Fro’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth di-duedd ac am ddim i aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog ym Mro Morgannwg. Mae’r gwasanaeth yn ymwneud â llawer o feysydd, gan gynnwys Budd-daliadau, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyllid, Cyflogaeth a Thai.
Mae rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Cyngor Cyn-filwyr Bro ar gael ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.