Yr Wythnos Gyda Rob
18 Tachwedd 2022
Annwyl gydweithwyr,
Ddoe fe gyflwynodd Canghellor y Trysorlys ei Ddatganiad yr Hydref i Senedd San Steffan. Mae'n ymddangos ar yr wyneb y bydd toriadau go iawn i wariant cyhoeddus, er nad oedd llawer o fanylion ynglŷn â lle y byddai'r rhain yn cael eu gwneud.
Ni fyddwn yn gwybod gydag unrhyw sicrwydd beth mae hyn yn ei olygu i'n cyllideb tan fis nesaf pan fydd ffigyrau’r setliad y bydd cynghorau yng Nghymru yn eu derbyn gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadarnhau. Fodd bynnag, mae'n debygol iawn erbyn hyn y bydd y flwyddyn ariannol nesaf yn dod â heriau cynilo ar raddfa nad ydym wedi eu gweld o'r blaen.
Er bod cydweithwyr yn yr Uwch Dîm Rheoli a minnau'n gweithio i ddod o hyd i'r ffordd orau o lywio hyn rwyf am gynnig rhywfaint o sicrwydd i staff ar ddau fater.
Yn gyntaf, rwy'n gwybod bod costau cynyddol ynni, tanwydd a bwyd yn bryder nid yn unig i'n trigolion ond i lawer o gydweithwyr hefyd. Bydd pawb yn edrych ar gostau eu cartrefi a hyd yn oed i'r rhai nad ydynt yn cael eu gorfodi'n syth i dorri eu gwariant, bydd y drafodaeth gyson a'r sylw yn y cyfryngau i'r argyfwng costau byw yn effeithio ar les emosiynol a meddyliol pobl.

Fel cyflogwr rydym yn ymfalchïo yn y gefnogaeth rydym yn ei chynnig i'n staff. Mae llawer iawn o gymorth eisoes ar gael trwy ein canolfan Costau Byw a Care First a byddwn yn ehangu hyn dros y gaeaf. Ochr yn ochr â hyn, mae ein rhwydwaith hyrwyddwyr lles yn cydlynu gweithgareddau ar draws y Cyngor. I ffwrdd o'r gwaith mae ein hymgyrch Croeso Cynnes yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am ddim sy'n agored i bawb. Mae ein partneriaid undebau llafur hefyd yn cefnogi eu haelodau mewn sawl ffordd.
Yn ail, mae yna nifer o sylwebwyr sy'n cyflwyno'r her ddiweddaraf i'n sector ni fel dechrau'r diwedd i gynghorau. Yn fy meddwl i, ni allai hyn fod ymhellach o'r gwir. Mae angen gwasanaethau cyhoeddus nawr yn fwy nag erioed.
Wrth i gymunedau baratoi ar gyfer amseroedd caled maen nhw'n gwneud hynny gan wybod y bydd ein gwasanaethau yno pan fydd eu hangen arnynt. Bydd ein staff yn gweithio'n ddiflino i gefnogi'r rhai sydd ein hangen fwyaf. Gall y gefnogaeth rydyn ni'n ei chynnig i ddinasyddion y Fro drwy ein gwasanaethau a mentrau fel y rhaglen Croeso Cynnes wneud gwahaniaeth sylweddol. Yn syml iawn, nid yw’r gwasanaethau cyhoeddus na bod yn was cyhoeddus erioed wedi bod yn bwysicach. Un o'n gwerthoedd yw 'Balch' ac wrth i ni fynd i’r afael â’r heriau presennol yn uniongyrchol, dylai pawb fod yn falch drwy chwarae eu rhan wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i'n trigolion a'n cymunedau.
Yn bwysicaf oll ni fydd y sefyllfa rydyn ni ynddi ar hyn o bryd yn para am byth. Does dim dwywaith y bydd hi'n anodd, ond does gen i ddim amheuaeth chwaith y byddwn yn goresgyn yr her hon yn yr un modd ag yr ydym wedi goresgyn cymaint o heriau eraill, fel Cyngor cryfach a mwy gwydn. Un sydd wrth wraidd y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae'r gwerthoedd a fydd yn ein harwain bob amser yn amlwg yn ein gwaith a'r wythnos hon, fel bob wythnos, mae gen i ddigon o newyddion diweddar i ddewis ohonynt i ddangos hyn.

Ar ran ein partneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), rydym ar hyn o bryd yn arwain ymgynghoriad ar yr ail Gynllun Lles ar gyfer y Fro a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2023.
Mae’r BGC yn dod â sefydliadau'r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ar draws Bro Morgannwg ynghyd i weithio mewn partneriaeth er dyfodol gwell. Mae'r Cynllun Lles newydd yn nodi tri Amcan Lles newydd a'r meysydd blaenoriaeth y bydd y BGC yn canolbwyntio arnynt dros y blynyddoedd nesaf. Y rhain yw Bro fwy gwydn a gwyrdd, Bro fwy actif ac iach a Bro fwy cyfartal a chysylltiedig.
Hoffai'r BGC glywed gan gynifer o bobl â phosibl i ganfod a yw'r blaenoriaethau cywir wedi'u nodi yn y Cynllun i wella lles lleol. Fel staff, gallwch rannu eich barn drwy fynd i'r dudalen prosiect bwrpasol a chwblhau ein harolwg.

Bydd cefnogi'r rhai sydd ein hangen bob amser yn ganolog i'n gwaith. Yn unol â hyn yn gynharach yr wythnos hon, ail-lofnododd y Cyngor Gyfamod y Lluoedd Arfog yn dilyn seremoni yng Nghastell Caerdydd. Mae hwn yn addewid gwirfoddol sy'n dangos ymrwymiad i gefnogi'r rhai sydd neu wedi gwasanaethu a sicrhau eu bod nhw’n cael eu trin â thegwch a pharch.
Wrth edrych ymlaen at wythnos nesaf bydd gwaith yn cael ei wneud ar draws y sefydliad ar gyfer Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar 24 Tachwedd. Mae'n ddiwrnod sy'n helpu i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn ymwybodol o'u hawliau, yn ymwybodol o ble a sut i gael gafael ar gymorth ac i wella ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr. Bydd cydweithwyr o'n tîm AD yn cynnal sesiwn galw heibio ar gyfer gofalwyr di-dâl yn yr Ystafell Hyfforddiant Codi a Chario yn y Ganolfan Gwasanaethau Busnes (Hood Road, CF625QN) rhwng 10am a 2pm. Mae croeso i bawb fynychu.
Yn olaf, rwy'n siŵr bod llawer ohonoch yn edrych ymlaen at Gwpan y Byd sy’n cychwyn y penwythnos hwn. Mae'n bencampwriaeth hanesyddol i Gymru ac rwy'n gwybod y bydd llawer o staff eisiau dilyn cynnydd eu tîm yn agos. Er mwyn helpu pobl i weithio'n hyblyg o amgylch gemau a rheoli ceisiadau am absenoldeb blynyddol mae ein cydweithwyr mewn Adnoddau Dynol wedi cynhyrchu canllawiau i weithwyr a rheolwyr. C'mon Cymru!
Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon wrth sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'n cymunedau.
Diolch yn fawr.