Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 11 Tachwedd 2022
Yr Wythnos Gyda Rob
11 Tachwedd 2022
Annwyl gydweithwyr,
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio ei ymgyrch Croeso Cynnes ar gyfer hydref a gaeaf 2022/23.

Mae Croeso Cynnes yn rhan allweddol o'n gwaith i gefnogi dinasyddion yn ystod yr argyfwng costau byw. Diolch i feddylfryd arloesol llawer o'n cydweithwyr yn ogystal â rhai o'n partneriaid cymunedol mae'r cynllun yn agor lleoliadau ar draws y Fro i greu rhwydwaith o fannau cymunedol.
Bydd pob un o’r mannau’n cynnig lle cynnes a chroesawgar i bobl ddod at ei gilydd heb unrhyw gost, mwynhau amrywiaeth o weithgareddau, a chael cymorth costau byw.
Wrth lansio'r cynllun yr wythnos hon dywedodd yr Arweinydd: "Mae'r argyfwng costau byw yn gorfodi llawer o bobl i wneud penderfyniadau amhosib. Yn syml, ni ddylai gorfod dewis rhwng talu biliau ynni neu brynu bwyd fod yn dderbyniol i unrhyw un mewn unrhyw gymuned."
Rwy'n gwybod y bydd y sylwadau hyn yn taro tant gyda llawer o bobl. Ar adegau fel hyn rôl ein sefydliad yw gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai sydd ein hangen. Roedden ni wastad yn gwybod, wrth i ni symud i mewn i'r Hydref a'r Gaeaf y byddai'r angen am ein gwasanaethau yn tyfu. I fynd i’r afael â hynny, roedden ni eisiau cynyddu'r cymorth sydd ar gael, ond hefyd i ddod o hyd i ffordd i ddod â'n cymunedau at ei gilydd hefyd.
Mae'r cynllun Croeso Cynnes yn ganlyniad i fisoedd o waith caled. Trwy gydol yr haf bu timau ar draws y Cyngor yn gweithio i baratoi gwasanaethau i ddarparu cyngor a chymorth i'r rhai sydd ei angen.

Gan ddechrau'r wythnos hon bydd dros 20 o leoliadau yn cynnig Croeso Cynnes i drigolion. Ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael mae dosbarthiadau coginio, gweithgareddau i blant, sesiynau crefft, a'r cyfan ochr yn ochr â chyfle i gael diod gynnes mewn lle cynnes. Gellir gweld manylion yr hyn sydd ar gael gan ddefnyddio map rhyngweithiol ar yr Hyb Costau Byw ar-lein. Mae'r Hyb hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut i gael gafael ar grantiau cymorth costau byw a sut i gael cyngor a chefnogaeth arall gan y Cyngor ac ystod o bartneriaid.
Roedd llawer o gydweithwyr yn rhan o'r gwaith sydd wedi gwneud lansiad Croeso Cynnes yn bosibl. Hoffwn ddiolch iddynt i gyd wrth roi sylw arbennig i Andreas Piers-Plumley yn ein tîm Strategaeth a Phartneriaeth ac Amy Auton yn ein tîm Cyfathrebu. Dim ond yn ddiweddar y mae Andreas wedi ymuno â'r Cyngor ac mae wedi gosod safon uchel iawn iddo'i hun drwy gydlynu darn o waith ag effaith sylweddol. Yn y cyfamser bydd gwaith Amy, ochr yn ochr â chydweithwyr yn ein tîm Gwasanaethau TGCh, i sicrhau mynediad ar-lein hawdd i holl gymorth Costau Byw a gynigir gennym yn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu cael mynediad i'n gwasanaethau. Diolch yn fawr.
Rydym yn disgwyl i nifer y mannau sy'n cael sylw yn yr ymgyrch Croeso Cynnes dyfu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf wrth i ni weithio gyda grwpiau cymunedol lleol a rhai o'n partneriaid gwirfoddol a'r trydydd sector i'w helpu i ddatblygu eu cynlluniau eu hunain. Efallai y bydd ffyrdd hefyd y gall mwy o'n gwasanaethau gefnogi'r fenter ac os gallwch feddwl am ffordd y gallai eich tîm gymryd rhan, cysylltwch â ni i roi gwybod i mi.
Dydw i byth yn colli golwg ar y rôl bwysig mae'r Cyngor yn ei chwarae yn y gymuned ac yn gynharach heddiw roeddwn yn falch o fod yn rhan o wasanaeth blynyddol Dydd y Cofio y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig. Fel bob amser roedd yn deyrnged addas i bersonél y lluoedd arfog ac yn cael ei gynnal yn rhagorol gan y Maer. Roedd hyn diolch i waith caled ein tîm Gwasanaethau Democrataidd yn ogystal â'r holl staff a'r aelodau etholedig hynny a gymerodd ran yn y gwasanaeth ac a wnaeth gadw tawelwch am 11am.
Cafodd y gwasanaeth coffa eleni fwy o effaith drwy ddadorchuddio dwy fainc goffa newydd Yng Ngerddi Gladstone yr wythnos diwethaf. Wedi'u hariannu ar y cyd gan y Fro a Chyngor Tref y Barri, mae'r meinciau yn cynnwys dyluniad coffa arbennig o filwyr a phabïau yn ogystal â phlac wedi'i bersonoli.
Yn ogystal â chydweithwyr yn y Gwasanaethau Democrataidd, hoffwn ddiolch i'r rhai yn ein tîm Gwasanaethau Cymdogaeth a arweiniodd ar y prosiect hwn am sicrhau bod y Fro yn cyflawni ei ddyletswyddau o arweinyddiaeth ddinesig unwaith eto.
Yn olaf, hoffwn ddweud diolch i'n tîm Cyflogres. Yr wythnos diwethaf fe rannais y newyddion bod cynnig cyflog cenedlaethol newydd wedi ei gytuno. Yn yr amser ers hynny mae’r tîm wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr y bydd cydweithwyr yn gweld y codiad cyflog, a saith mis o ôl-daliadau, yn eu taliadau cyflog ym mis Tachwedd. Maent wedi symud yn gyflym iawn i wneud i hyn ddigwydd, ar yr un pryd â chyfrannu’n helaeth at y gwaith o gyflwyno Oracle Fusion ochr yn ochr â chydweithwyr o’r adran Cyllid. Mae eu hawydd i wneud y gwaith mewn pryd ar gyfer taliadau'r mis hwn yn dweud cyfrolau am eu proffesiynoldeb a'u hawydd i wneud y gorau i'w cydweithwyr. Diolch yn fawr bawb.
Fel pob amser, diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr iawn.
Rob.