Yr Wythnos Gyda Rob
04 Tachwedd 2022
Annwyl gydweithwyr,
Rwy'n gobeithio eich bod yn cadw’n dda wrth i chi ddarllen neges yr wythnos hon, a bod y rhai ohonoch a allai fod yn ei darllen fore dydd Llun wedi mwynhau eich amser i ffwrdd dros yr egwyl hanner tymor.
Rwy'n falch o allu rhannu y gwnaeth yr undebau llafur llywodraeth leol dderbyn y cynnig cyflog cenedlaethol ar gyfer 2022/23 ddydd Mawrth yr wythnos hon. Bydd y cynnig am gyflog yn golygu y bydd pob cydweithiwr yn derbyn £1,925 yn ychwanegol eleni. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 10.5% i gydweithwyr ar ddechrau ein graddfa gyflog ac ar gyfartaledd bydd yn golygu bod bob cydweithiwr yn cael tua 7% o gynnydd. Bydd y cynnydd yn cael ei ôl-ddyddio i fis Ebrill 2022 a dylai cydweithwyr weld y cynnydd yn eu taliadau cyflog ym mis Tachwedd. Mae'r dyfarniad eleni yn cynnwys cynnydd o 4% i lwfansau fydd hefyd yn cael eu hôl-ddyddio. Roedd y cynnig cyflog cenedlaethol hefyd yn cynnwys cynnydd i wyliau blynyddol. Rydym yn adolygu sut mae hyn yn effeithio ar gynllun gwyliau blynyddol y Cyngor, na fydd o bosibl yn berthnasol i bob aelod o staff gan ei fod yn seiliedig ar ofyniad absenoldeb gofynnol y mae rhai staff eisoes yn ei dderbyn.
Rwy'n falch iawn o'r berthynas gadarnhaol ac adeiladol sydd gan y sefydliad hwn gyda'r undebau sy'n cynrychioli ein staff ac yn gwybod ein bod i gyd yn rhannu'r nod o gael y fargen orau bosibl i gydweithwyr. Er y bydd y cytundeb hwn yn golygu y bydd llawer o gynghorau'n cael gwared ar eu gradd sydd â'r cyflogau isaf o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, rwy'n falch ein bod wedi cymryd y cam hwn yn ôl yn 2019, ynghyd â chynyddu'r cyflogau i'r hyn sy'n cyfateb i'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl ym mis Gorffennaf 2022.

Wedi dweud hynny, rwy'n gwybod na fydd y cynnydd yn talu'n llawn am y cynnydd mewn costau byw i lawer o gydweithwyr. Fel cyflogwr mae'r Cyngor yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi cydweithwyr. Fel rhan o'r gefnogaeth hon, bydd gweminar arbennig y Learning Café 'Managing the Cost of Living Increase' yn cael ei chynnal ddydd Mawrth.
Wedi'i chyflwyno gan Better With Money, bydd y sesiwn ar-lein awr o hyd yn edrych ar sut i reoli'r cynnydd mewn costau byw a sut i leihau straen arian. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal am 12pm hanner dydd dros Microsoft Teams. Mae mynychu'r sesiwn yn cael ei ystyried yn rhan o'ch diwrnod gwaith ac nid oes angen i chi gymryd gwyliau na gwneud yn iawn am unrhyw amser. Gallwch gofrestru trwy iDev a bydd recordiad hefyd ar gael i'w weld wedyn.
Mae effaith y cynnydd mewn costau byw yn ganolog i'n holl gynllunio at y dyfodol, yn enwedig datblygiad ein Cynllun Cyflawni Blynyddol a'n Cyllideb ar gyfer 2023/24. Cafodd Adroddiad Hunan-Asesu Blynyddol y Cyngor ei gymeradwyo gan y Cabinet a'i ystyried gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ym mis Hydref a bydd nawr yn mynd i'r Cyngor Llawn yr wythnos nesaf. Mae'r Hunan-Asesu yn adlewyrchu ein cynnydd cadarnhaol dros y deunaw mis diwethaf er gwaethaf heriau sylweddol ac mae bellach yn siapio trafodaeth ar Gynllun Cyflawni Blynyddol y flwyddyn nesaf.
Fel y soniais yr wythnos ddiwethaf mae ein ffocws, yn gwbl briodol, ar ddiogelu ein dinasyddion mwyaf bregus yn ystod yr argyfwng costau byw, cynnal momentwm wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ac ar sicrhau ein bod yn parhau i fod yn sefydliad gwydn o ystyried y pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau a'n cyllidebau. Yn y cyd-destun hwn y cyfarfu’r UDA yr wythnos ddiwethaf i ddechrau'r broses o adolygu'r pwysau ar ein cyllidebau yn fforensig a nodi strategaeth i ymateb i'r hyn a fydd yn gyfnod sylweddol o her yn ystod y misoedd nesaf.
Byddwn yn ailymgynnull ddydd Mawrth ar gyfer sesiwn diwrnod llawn ar gyllidebau a byddaf yn rhoi gwybod i chi i gyd wrth i'n dull o weithredu at 2023/24 ddatblygu. Mae timau rheoli'r gyfarwyddiaeth hefyd yn cyfarfod i nodi ffyrdd o leihau pwysau costau a nodi meysydd posibl ar gyfer cynilion a hoffwn ddweud diolch ymlaen llaw i bob un ohonoch y gwn fydd yn cyfrannu at y trafodaethau hyn.
Mae gennym hanes rhagorol o reoli ariannol doeth yn y Fro ac mae hyn i raddau helaeth oherwydd ein dull cydweithredol a chyfunol. Does dim modd cael sicrwydd ynghylch beth yn union fydd yr her ar gyfer y flwyddyn nesaf nes y clywn o San Steffan a Bae Caerdydd yn ddiweddarach y mis hwn ar ffigyrau'r setliad ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae'r gwaith sy'n cael ei wneud nawr yn golygu y byddwn yn y sefyllfa gryfaf bosib i ymateb, a gwneud hynny'n gyflym, pan ddaw'r manylion hwnnw'n glir.

Bydd cydweithio â phartneriaid a grwpiau cymunedol wrth wraidd beth bynnag a wnawn. Mae Value in the Vale, y cynllun gwirfoddoli ar ei newydd wedd a lansiodd fis diwethaf yn enghraifft wych o hyn. Mae Value in the Vale, y cynllun Vale Time-Banking gynt, yn rhoi cyfleoedd i drigolion y Fro wirfoddoli ar gyfer sefydliadau lleol ac yn eu gwobrwyo am eu hamser. Lansiwyd gwefan newydd yn gynharach y mis hwn ac mae'n rhoi manylion am gyfleoedd gwirfoddoli, yn caniatáu i sefydliadau recriwtio gwirfoddolwyr ac yn rhoi i bobl sydd wedi treulio amser yn gwirfoddoli yr opsiwn i gyfnewid dyfarniadau. Mae’n adnodd gwych. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chlywed gan ddau o'n cydweithwyr ymroddgar yn y Gwasanaethau Tai a wnaeth y cyfan yn bosibl mewn darn sy'n fyw ar StaffNet+ ar hyn o bryd.

Wrth edrych i'r dyfodol, yr wythnos ar ôl nesaf yw Wythnos Diogelu Genedlaethol ac mae cofrestru bellach ar agor ar gyfer llu o sesiynau sy'n cael eu cynnal ar draws yr wythnos. Y thema eleni yw 'Pethau Sylfaenol Ymarfer Diogelu - Yn ôl i'r Hanfodion'. Caiff yr wythnos ei chydlynu gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth ymhlith y gymuned a gweithwyr proffesiynol, ac atgyfnerthu'r negeseuon presennol ynghylch diogelu plant ac oedolion mewn perygl. Mae nifer o'n cydweithwyr wedi bod yn rhan o gynllunio ar gyfer yr wythnos a bydd rhai yn arwain neu'n cyfrannu i ddigwyddiadau. Diogelu yw cyfrifoldeb pawb ac felly byddwn yn eich annog i edrych ar y rhaglen a chofrestru ar gyfer unrhyw beth sydd o ddiddordeb.

Yn olaf, dw i bob amser yn ceisio rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cydweithwyr am waith da'r Cyngor ond weithiau nid yw'n bosibl ffitio'r cyfan i mewn i'm crynodebau wythnosol. Gallwch bellach ddal i fyny ar unrhyw beth y gallech fod wedi'i golli yn ein crynodebau fideo misol. Wedi'i rhannu gyda thrigolion drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, mae'r crynodebau newyddion yn cwmpasu ein holl eitemau newyddion allanol. Mae crynhoad y mis hwn yn cwmpasu Lansio Hyb Bwyd Llanilltud Fawr, agor ein datblygiad tai cyngor diweddaraf i denantiaid, a'r gwaith adnewyddu Lloches Cliff Hill sydd bellach ar y gweill. Edrychwch arno a diolch i bob un ohonoch am wneud darnau newyddion da fel y rhain yn bosibl. Peidiwch ag anghofio, os oes gennych newyddion cadarnhaol neu arfer da i'w rannu, rhannwch ef gyda mi a chyda'ch cydweithwyr. Mae bob amser yn wych clywed am y gwaith cadarnhaol sy'n digwydd ar draws y sefydliad ac yn well fyth pan fyddwn yn ei gyfathrebu, ac yn bwysig yn dysgu ohono.
Fel bob amser diolch am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr i chi i gyd.
Rob.