Wythnos Diogelu Genedlaethol - Sylfeini Ymarferion Diogelu

Cynhelir Wythnos Diogelu Genedlaethol rhwng 14 a 18 Tachwedd eleni.

Thema'r Wythnos Diogelu Genedlaethol eleni yw 'Sylfeini Ymarferion Diogelu - Yn ôl i'r Hanfodion'.

Caiff yr wythnos ei chydlynu gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru, a nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth ymhlith y gymuned a gweithwyr proffesiynol, ac atgyfnerthu'r negeseuon presennol ynghylch diogelu plant ac oedolion sydd mewn risg.

Mae mesurau diogelu yn hanfodol wrth atal cam-drin a diogelu iechyd, lles, a hawliau dynol pobl, a'u galluogi i fyw yn rhydd rhag niwed ac esgeulustod.  

Ochr yn ochr â rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau, mae Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro wedi trefnu amserlen o weithdai a chynadleddau sydd wedi'u hanelu at drigolion a gweithwyr proffesiynol.

Gan fod diogelu yn llywio llawer o waith y Cyngor, gwahoddir cydweithwyr i gymryd rhan yn y rhaglen.

Cyflwynir y sesiynau gan ystod o sefydliadau a gwasanaethau gan gynnwys, yr NSPCC, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Gofal Cymdeithasol Cymru, Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro, y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ac Uned Atal Trais Cymru.

Ewch i’r Rhaglen Wythnos Diogelu 2022 er mwyn archebu eich lle:

Rhaglen Wythnos Diogelu 2022