Bywyd fel gofalwr maeth yn gweithio yn yr ALl

Foster Wales Logo

Ar ôl cael ei magu mewn teulu maeth, fe wnaeth gweithiwr cymdeithasol Rachael y penderfyniad i fod yn ofalwr maeth swyddogol wyth mlynedd yn ôl. Dyma ei stori hi.

Beth ysgogodd eich diddordeb mewn maethu?

"Ces i fy magu mewn teulu maeth. Rydw i hefyd yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig i Gyngor Caerdydd. Roedd dod yn weithiwr cymdeithasol a gofalwr maeth ill dau wedi'u hysbrydoli gan fy mam. Roedd yn gefnogaeth a seibiant iddi, felly mae wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd."

Oedd unrhyw beth yn dy ddal di'n ôl wrth ystyried maethu am y tro cyntaf?

"I mi, un o'r pethau oedd ceisio gwneud fy ngwaith fel gweithiwr cymdeithasol a gwneud y maethu. Gan y gallai fod yn anodd o bosib bod ar ddwy ochr y ffens. Gweithio'n llawn amser mewn capasiti gwaith cymdeithasol a cheisio cydbwyso hynny â bod yn ofalwr maeth. Roeddwn i'n poeni am roi'r hyn sydd ei angen ar y plant a chael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith."

Camsyniad cyffredin o faethu yw na allwch weithio’n llawn amser a bod yn ofalwr maeth. Mae stori Rachael yn dangos ei bod yn bosib, ac mae'r awdurdod yn croesawu ymgeiswyr sy'n gweithio'n llawn amser. Mae'r broses yn ymwneud ag a ydych chi'n teimlo y gallwch chi.

Sut mae maethu yn ffitio o amgylch eich bywyd gwaith?

"Mae'r awdurdod lleol yn fy nghefnogi’n llawer iawn. Os nad oeddent, dydw i ddim yn credu y gallwn i fod yn ofalwr maeth. Mae cael rhywfaint o gefnogaeth gan fy nheulu a ffrindiau yn fy helpu i hefyd, os yw plentyn yn sâl neu fy mod i angen gwarchodwr am awr neu ddwy maen nhw'n gallu fy helpu gyda hynny. Mae'r awdurdod lleol yn fy nghefnogi'n ymarferol gyda gofal plant hefyd."

Mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun, rydyn ni yma i'ch cefnogi ar bob rhwystr. Fel awdurdod lleol, mae gennym dîm profiadol i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud maethu yn llwyddiant.

Beth mae maethu yn ei olygu i chi?

"I mi, mae’n golygu’r gallu i gynnig cartref diogel i blant. Mae rhoi cariad diamod iddyn nhw a gwneud iddyn nhw deimlo fel rhan o'r teulu yn bwysig iawn i mi. Rydw i'n teimlo braint fy mod i'n gallu cynnig hynny ar sail hirdymor, yn enwedig i blant hŷn oherwydd nhw yw'r plant lle mae'r angen am ofalwyr. Rydw i'n teimlo'n falch o allu eu gwahodd nhw i'n cartref."

Mae nifer o wahanol fathau o faethu, o seibiant i'r tymor hir. Darganfyddwch beth fyddai'n gweddu orau i'ch ffordd o fyw yma.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried maethu?

"I ddod draw a gwrando. Mae'n gymaint mwy hyblyg a chynhwysol na mae pobl yn ei feddwl. Pan fydda i’n cael sgyrsiau gyda phobl am faethu, maen nhw'n aml yn cymryd nad oes modd iddyn nhw wneud hynny am eu bod yn sengl, maen nhw'n ysmygu, neu wedi bod mewn trafferth fel plentyn ac mae ganddynt record heddlu ac ati. Pethau fel 'na. Mae cymaint o anffodion y mae pobl yn meddwl eu bod yn golygu na fydden nhw'n cael eu derbyn. Byddwn i wastad yn dweud wrth bobl am godi'r ffôn a rhoi cynnig arni. Dydych chi ddim yn colli unrhyw beth drwy wneud cais. Mae plant wir yn cael budd o bobl y gallent gysylltu â nhw ac sydd â phrofiad bywyd. Peidiwch byth â meddwl nad ydych chi'n ddigon da."

Os yw stori Rachael wedi eich ysbrydoli i ddarganfod mwy, ewch i'r dudalen hon i gysylltu â ni a chael sgwrs anffurfiol am faethu.