Cwpan y Byd Pêl-droed 2022 - Canllawiau i Weithwyr / Rheolwyr

 

Fel y gwyddoch chi i gyd erbyn hyn, mae gemau Cwpan y Byd Pêl-droed  2022 yn cael eu cynnal yn Qatar gyda'r gêm gyntaf ddydd Sul 20 Tachwedd 2022 a'r rownd derfynol ddydd Sul 18 Rhagfyr 2022.

Gan fod Qatar 3 awr o flaen parth amser y DU, mae'r rhan fwyaf o'r gemau'n digwydd yn ystod oriau gwaith safonol. Dylai cydweithwyr sy'n dymuno gwylio neu ddilyn y gemau ystyried siarad gyda'u rheolwr ar y cyfle cyntaf i ystyried yr opsiynau isod fel y bo'n briodol.

Dylai gweithwyr gyflwyno ceisiadau am wyliau blynyddol, absenoldeb di-dâl, amser fflecs neu TOIL cyn gynted ag y bo'n ymarferol i osgoi siom. Cofiwch y bydd angen i chi gael oriau mewn credyd cyn gwneud cais am absenoldeb fflecs neu TOIL. Bydd angen i'ch rheolwr sicrhau bod digon o bobl wrth gefn i ddarparu gwasanaethau.

Dylai Rheolwyr ystyried faint o geisiadau absenoldeb y gellir eu cymeradwyo tra'n sicrhau bod digon o bobl yn gweithio i ddarparu gwasanaethau a dylech annog ceisiadau cynnar am wyliau blynyddol, absenoldeb fflecs, absenoldeb di-dâl a TOIL. Gallai fod yn ddefnyddiol i Reolwyr drefnu system rota ar gyfer ceisiadau am wyliau.

Ar gyfer gweithwyr shifft, efallai y gallech drafod cyfnewid shifftiau gyda chydweithwyr ac yna trafod a chadarnhau hynny gyda'ch rheolwr i’w adolygu. Mae rheolwyr yn cael eu hannog, lle bo modd, i ganiatáu i weithwyr gyfnewid shifftiau yn wirfoddol. Cadwch gofnodion o unrhyw shifftiau sy’n cael eu cyfnewid.

Efallai y gall eich rheolwr gymeradwyo ceisiadau am ddechrau a gorffen yn gynnar y tu hwnt i’r trefniadau Amser Fflecs arferol i'ch galluogi i wylio'r gemau. Os nad ydych yn rhan o’r Cynllun Amser Fflecs efallai y byddai'n bosibl i chi weithio eich amser yn ôl mewn blociau o hanner awr neu awr y dydd dros oriau gwaith arferol o fewn rheswm ac yn amodol ar ofynion y gwasanaeth. Mae dal angen i chi gymryd seibiant cinio pan fyddwch yn gweithio dros 6 awr.

Gan ystyried y wybodaeth hon, rydym yn eich atgoffa o bolisi'r Cyngor mewn perthynas â Rheoli Presenoldeb ac yn benodol cam-drin y cynllun salwch/absenoldeb anawdurdodedig.