Diwrnod Hawliau Gofalwyr - 24 Tachwedd 2022

 

Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2022 yn cael ei gynnal ar 24 Tachwedd. Mae'n ddiwrnod sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r angen am ofalwyr yn ogystal â thynnu sylw at y gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud.

Pwrpas y diwrnod hefyd yw helpu i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn ymwybodol o'u hawliau ac yn ymwybodol o ble a sut i gael gafael ar gymorth.

I nodi'r diwrnod, rydym yn cynnal sesiwn galw heibio ar gyfer gofalwyr di-dâl yn yr Ystafell Hyfforddiant Codi a Chario yn Uned 5, Canolfan Gwasanaethau Busnes, Hood Road, CF625QN ddydd Iau 24 Tachwedd rhwng 10am a 2pm. 

Bydd gennym ystod eang o offer ar gael i ofalwyr eu gweld a’u profi sy'n cynorthwyo gyda thasgau fel helpu pobl i mewn ac allan o gadair, symud ar y gwely, i mewn ac allan o gar a delio â chwympiadau. Mae'r digwyddiad yn agored i bwy sy'n dymuno.

Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr hefyd yn gyfle i atgoffa staff o'r gefnogaeth sydd ar gael os ydynt yn gofalu am ffrind neu aelod o'r teulu.  

Os yw hyn yn cynnwys helpu person i symud a hoffech wybod pa gymorth neu offer a allai fod ar gael neu i ddysgu technegau a allai wneud tasgau'n haws, gellir trefnu sesiwn un-i-un gydag Elspeth Cameron. 

Bydd y rhain hefyd yn cael eu cynnal yn yr Ystafell Hyfforddiant Codi a Chario felly mae cyfle i weld yr offer a gellir rhoi canllawiau ar sut i gael gafael ar gymorth pellach os yw'n briodol.  Gallwch drefnu’r apwyntiad hwn yn ystod oriau gwaith gyda chaniatâd eich rheolwr llinell.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Polisi Gofalwyr a'r cymorth sydd ar gael ar Staffnet.