Yr Wythnos gyda Miles
13 Mai 2022
Annwyl gydweithwyr,
Mae Rob yn cael ychydig ddyddiau haeddiannol i ffwrdd i ailwefru’r batris ar ôl yr etholiadau lleol prysur ac felly mae’n fraint i fi gamu i’r adwy heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf wythnosol i chi i gyd am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd ar hyd a lled y Cyngor.
Dylwn ddechrau gyda diolch enfawr i bawb a weithiodd tan yr oriau mân fore Sadwrn diwethaf i gwblhau cyfrif yr etholiad. Crëwyd y tîm cyfrif o blith cydweithwyr ar draws y Cyngor. Nid ar chwarae bach y mae cyfrif 44547 o bapurau pleidleisio dan lygaid barcud dwsinau o arsylwyr ac asiantau cyfrif . Rydym yn hynod ddiolchgar am waith y tîm ac i bawb y tu ôl i'r llenni a sicrhaodd fod diwrnod yr etholiad a'r cyfrif wedi bod mor ddidrafferth.
Hoffwn ddiolch yn benodol i Rachel Starr-Wood ein Rheolwr Cofrestru Etholiadol a y Tîm Cofrestru Etholiadol yn cyfan. Mae gwaith y tîm yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddiwrnod yr etholiad. Gwn fod llawer o negeseuon diolch wedi dod i law gan y rhai a helpwyd yn y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio. Dywedodd un yn benodol, gan un o'n cynghorau cymuned, fod y tîm yn "hollol wych". Mae hynny'n swnio'n gwbl gywir i fi.
Ar ran y sefydliad cyfan, hoffwn ddiolch i'r cynghorwyr sydd wedi ein gadael am eu hymdrechion i sicrhau bod Cyngor Bro Morgannwg yn parhau i fod yn un o'r awdurdodau lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru. Ar yr un pryd hoffwn groesawu'r aelodau newydd a'r aelodau sy'n dychwelyd a fydd yn arwain ac yn craffu ar ein gwaith am y pum mlynedd nesaf.
Ynghyd â'm cydweithwyr yn yr UDA rwyf wedi cwrdd â llawer o'n cynghorwyr newydd yr wythnos hon ac roedd eu brwdfrydedd dros eu rolau a'u hawydd amlwg i weithio gyda ni fel swyddogion i fynd â'r Cyngor hwn i'r lefel nesaf yn amlwg i bawb. Roedd parhau â'n perfformiad uchel a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n trigolion yn bwnc cyffredin. Fe'm calonogwyd yn arbennig o gael nifer o sgyrsiau cadarnhaol am yr amgylchedd a sut y gall y Cyngor weithio i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â ffyrdd y gallwn gefnogi preswylwyr a staff orau wrth i gostau byw gynyddu. Teimlaf y bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf, er yn heriol, yn arwain at gyflwyno llawer o atebion arloesol i gadw a gwella ein gwasanaethau ac y bydd yr atebion hyn yn cael eu datblygu law yn llaw â'r cymunedau lleol rydym yn eu gwasanaethu.
Rwy'n gwybod bod Rob yn hoffi defnyddio'r negeseuon hyn i dynnu sylw at beth o'r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ledled y Cyngor. Rwyf am barhau â'r traddodiad gwych hwnnw a sôn yn benodol hefyd am rai o fy nghydweithwyr gwych yn Amgylchedd a Thai.
Yn gyntaf, Kate Hollinshead a Helen Pembridge yn ein timau Tai a GRhR sydd wedi bod yn cydlynu'r ymdrech weithredol enfawr sydd ei hangen i'n galluogi i ddechrau gosod ffoaduriaid o Wcráin gyda theuluoedd lletyol. Mae'r sefyllfa ofnadwy yn Wcráin yn parhau i ddominyddu'r newyddion ac mae'r argyfwng dyngarol mae’r ymosodiad yn dorcalonnus. Mae ein Cyngor wedi gorfod sefydlu prosesau a systemau newydd mewn cyfnod byr iawn ac rwy'n falch iawn ein bod bellach yn barod i helpu newydd-ddyfodiaid o Wcráin i ymgartrefu yn y DU ac i gefnogi cymunedau sy'n dymuno cynnig cymorth i'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro ofnadwy. Mae ymateb y Fro i'r argyfwng yn ganolog i helpu teuluoedd i ymgartrefu yn eu cymunedau a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, iechyd y cyhoedd a chymorth arall, gan gynnwys mynediad at gwnsela trawma.
Mae ein timau wedi bod yn trefnu ac yn cynnal ymweliadau â lletywyr ar gyfer arolygiadau eiddo ac estyn cymorth lles a rhoi croeso i deuluoedd o Wcráin, gan weithio'n aml drwy’r benwythnosau a’r tu hwnt i oriau arferol i gael pethau ar waith cyn gynted â phosibl.
Anfonodd y bos un e-bost ymlaen ata i cyn ei egwyl ac rwy'n falch iawn o allu diolch ar ei ran i Andrew Evans yn ein tîm Gwasanaethau TGCh am yr holl waith y mae wedi'i wneud i gefnogi cydweithwyr, yn enwedig y rhai yn Dysgu a Sgiliau a gysylltodd â’r i'r Prif Weithredwr i ganu clodydd Andrew. Dywedon nhw "Mae Andrew bob amser yn bwyllog, yn gyfeillgar, ac yn rhoi sicrwydd i bawb. Mae e’n hapus bob amser i fynd gam ymhellach na’r disgwyl i helpu." Gwaith gwych Andrew. Mae bob amser yn wych clywed am seren yn nhîm y Fro.
Hoffwn hefyd ganu clodydd Karen Davies a'r tîm Byw'n Iach am eu holl waith yn cynllunio a chyflwyno'r gweithgareddau Gaeaf Llawn Lles a gweithgareddau’r Haf o Hwyl sydd ar y gweill. Ar hyn o bryd mae'r rhaglen yn cynnwys 17 o gynlluniau. Ar adeg pan fo helpu pobl i gynyddu eu gweithgarwch corfforol yn bwysicach nag erioed, a chynnig cynlluniau lleol i blant a phobl ifanc lle gallant wneud hynny am ddim yn hanfodol, mae gwaith y tîm yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
Bydd digwyddiadau'r haf sydd ar y gweill yn agored i bawb a byddwn yn sicrhau bod y staff i gyd yn ymwybodol o'r gweithgareddau gwych fydd ar gael i’r teulu. Yn y cyfamser, os ydych chi am fod yn fwy actif, mae ein Hyrwyddwyr Lles wedi llwyddo i negodi aelodaeth canolfan hamdden am bris gostyngol ar gyfer y staff i gyd. Ar ben hyn mae ystod eang o ddosbarthiadau i grwpiau bach, yn ogystal ag ymarfer corff a gwiriadau rheolaidd gyda staff sydd wedi'u hyfforddi'n llawn, ar gael drwy'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, sydd hefyd yn cael ei redeg gan ein tîm Byw'n Iach. Mae hyn am gost isel hefyd, sef dim ond £2 y sesiwn, ac wedi'i gynllunio i helpu pobl i gyflawni nodau realistig. Gallwch siarad ag un o'r tîm am fwy o wybodaeth os oes gennych ddiddordeb.
Mewn newyddion arall am wasanaethau, hoffwn longyfarch Craig Handley, sef Rheolwr Gorfodi newydd y Cyngor sy'n ymdrin â gorfodi parcio sifil a throseddau gwastraff. Roedd Craig yn arfer bod yn oruchwylydd yn y tîm Gorfodi ac fe'i dyrchafwyd i swydd rheolwr y gwasanaeth ar 16 Mawrth 2022. Mae Craig wedi dangos ymroddiad ac ymrwymiad enfawr yn ystod ei gyfnod byr yn y swydd ac mae wedi cael effaith sylweddol ar ddal pobl sy'n tipio'n anghyfreithlon a chludwyr gwastraff anghyfreithlon. Ers iddo ddechrau ym mis Mawrth 2022 mae wedi cyhoeddi tua 25 o hysbysiadau cosb benodedig am droseddau gwastraff ac mae ganddo 40 o droseddau gwastraff gweithredol eraill yn destun ymchwiliad. Da iawn Craig.
Ac i gloi, hoffwn sôn am y timau gwastraff ac ailgylchu yn y Gwasanaethau Cymdogaeth a phawb sy'n eu cefnogi am eu hymdrechion parhaus ac oriau ychwanegol ar adeg anodd iawn. Mae'r prinder gyrwyr HGV cenedlaethol yn cael effaith enfawr ar eu gwaith ond wythnos ar ôl wythnos maen nhw’n canfod ffyrdd o ymestyn eu hunain ymhellach a sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ar breswylwyr lle bynnag y bo modd. Daliwch ati, bawb yn y tîm.
Diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon ac am roi o'ch amser i ddarllen fy neges. Bydd Rob yn ôl wrthi yr wythnos nesaf. Bydd hefyd yn cynnal ei sesiwn Hawl i Holi nesaf ddydd Mercher nesaf a gallwch gyflwyno'ch cwestiynau drwy StaffNet.
Miles.