Penodi: Nid rhedeg Cyfarwyddiaethau yn unig y mae Marcus Goldsworthy yn ei wneud

Pan nad yw Marcus Goldsworthy yn goruchwylio Cyfarwyddiaeth Cyngor newydd sbon, mae'n mwynhau rhedeg rhywbeth arall – hanner marathonau!

Marcus Goldsworthy Running

Mae Cyfarwyddwr Lleoedd newydd y Cyngor wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau yn Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â nifer o rasys 10k, ac mae hefyd yn mwynhau golff - yn chwarae oddi ar 10 - a cherdded ar hyd glannau’r Fro.

Amser cyflymaf Marcus dros 13.1 milltir yw 1:46 sy’n barchus iawn, er ei fod yn mynnu bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Lance Carver, yn gyflymach.

"Dyw fy nghorffolaeth ddim yn ddelfrydol ar gyfer rhedeg gan fy mod yn 6'5" o daldra," gwenodd Marcus, gan dynnu sylw at y ffaith mai nid yn ddiweddar y cyflawnwyd ei amser gorau.

Cafodd y cyn Bennaeth Adfywio a Chynllunio ei ddyrchafu'n ddiweddar i'w swydd newydd yn dilyn ad-drefnu Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor a oedd yn cynnwys penodi Tom Bowring hefyd yn Gyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol.

I Marcus, hwn oedd y cam diweddaraf mewn gyrfa 24 mlynedd gyda Chyngor Bro Morgannwg, er ei fod wedi gweithio mewn llywodraeth leol yng Nghymru ers 1991.

Ar ôl mynychu Prifysgol Caerdydd, ymunodd Marcus â Chyngor Bwrdeistref Rhondda fel Myfyriwr-Gynllunydd ym 1991.

Yna dechreuodd swydd fel Swyddog Cynllunio Iau gyda Chyngor Casnewydd wrth orffen diploma ôl-raddedig mewn Cynllunio cyn symud i Gyngor Bwrdeistref Port Talbot fel Swyddog Cynllunio.

Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, bu Marcus yn gweithio i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac fe'i penodwyd yn Uwch Swyddog Cynllunio yn y Fro ym 1998.

O'r fan honno daeth yn Arweinydd Tîm ar gyfer Gorfodi Cynllunio, yn Rheolwr Gweithredol Cynllunio, yn Bennaeth Adfywio a Chynllunio ac yna, y mis diwethaf, yn Gyfarwyddwr Lleoedd.

"Mae wedi bod yn fwy o daith graddol nag esgyniad aruthrol," meddai Marcus yn gellweirus, a ddechreuodd yn ei swydd newydd ar 25 Ebrill.

"Yn wreiddiol fe wnes i gais i Gyngor Bro Morgannwg i fod yn Fyfyriwr-Gynllunydd ym 1991 ond ches i ddim fy newis.

"Mae'n dangos y bu gen i ddiddordeb erioed mewn gweithio ym Mro Morgannwg ac nad yw eich gyrfa bob amser yn mynd mewn llinell syth.

"Dwi wastad wedi bod yn hoff o’r Fro. Yn fy marn i, mae'n un o'r cynghorau mwyaf deniadol, yn weledol ac o safbwynt proffesiynol.

"Pan oeddwn i'n fyfyriwr, roedd nifer o bobl yn garedig iawn, gan roi llawer o’u hamser i'm helpu gyda fy nhraethawd hir.

"Rhoddodd Jane Crofts, a oedd ar y pryd yn Arweinydd Tîm ar gyfer Rheoli Datblygu, a'r Rheolwr Gweithredol Tom Dunnon, lawer iawn o gefnogaeth i mi fel myfyriwr i orffen y darn hwnnw o waith."

Yn ddiddorol, roedd traethawd hir Marcus yn canolbwyntio ar sut y gallai ynni adnewyddadwy bweru'r grid cenedlaethol a, dros 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae cynaliadwyedd wrth wraidd ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr.

Mae'r cylch gwaith yn cynnwys edrych ar fentrau lleihau carbon - yn unol ag ymrwymiad Prosiect Sero'r Cyngor - ond hefyd ar sut y gellir tyfu'r economi leol a defnyddio tir yn gynaliadwy.

Marcus Goldsworthy Dog

"Roedd cynaliadwyedd yn ystyriaeth yn y maes cynllunio amser maith yn ôl, ymhell cyn iddo ddechrau cael ei ystyried o safbwynt newid yn yr hinsawdd," meddai Marcus.

"Ysgrifennais fy nhraethawd hir cyntaf am fuddion ynni gwynt ac roedd hynny ym 1990, felly mae hynny'n dweud ychydig wrthych am sut mae cynllunwyr wedi bod yn edrych ar botensial ynni adnewyddadwy ers amser maith!

"Fy niddordeb erioed yw sut y gallwn ddefnyddio ein hadnoddau'n gynaliadwy a gwneud y defnydd gorau o'r hyn sydd gennym o ran tir.

"Mae'r Fro mewn lleoliad pwysig iawn wrth ymyl prifddinas Cymru. Mae hefyd rhwng y cymoedd a thir diwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr.

"Pwysigrwydd y rôl hon mewn gwirionedd yw sicrhau bod cynaliadwyedd a lleihau allyriadau carbon wrth wraidd yr hyn a wnawn fel Cyngor. Dylai hefyd fod wrth wraidd yr hyn a wnawn o ran hyrwyddo a chefnogi datblygiad yn y Fro.

"Mae gennym lawer o gymunedau gwledig yn y Fro yn ogystal â'r prif ardaloedd trefol ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod y rhain i gyd yn gallu byw'n gynaliadwy yn y dyfodol. Mae'n rhaid i ni hefyd greu swyddi i bobl a lleoedd da iddyn nhw fyw a mwynhau eu hunain."

Er bod ei deulu yn dod o Ben-y-bont ar Ogwr, cafodd Marcus ei eni ym Mansfield a'i fagu yn Swydd Rhydychen.

Er gwaethaf y blynyddoedd cynnar hynny a dreuliwyd yr ochr draw i Afon Hafren, mae'n Gymro balch sydd bellach yn byw yn ôl ar gyrion y Fro ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd ei ddiddordeb yn y byd ffisegol ei ennyn gan hanes teuluol o ffermio ac ystyriodd gwrs gradd mewn tirfesur cyn dewis cynllunio trefol yn lle hynny.

"Rydyn ni ar drothwy newid aruthrol o ran y ffordd rydyn ni'n teithio, sut rydyn ni'n gweithio ac, yn wir, sut rydyn ni'n defnyddio tanwydd ar gyfer ein tai, ein busnesau a'n cerbydau," meddai Marcus.

"Mae'r holl bethau hyn yn dod atom ar yr un pryd ac mae'n bwysig bod defnydd tir a sut rydym yn defnyddio ein hasedau yn cael ei wneud mewn ffordd mor gynaliadwy â phosibl a’n bo yn newid i economi carbon niwtral cyn gynted ag y gallwn.

"Mae'r rôl hon yn ganolog o ran cydlynu hynny ac mae gan adrannau eraill y Cyngor ran bwysig i'w chwarae hefyd.

"Mae gwaith sy'n ymwneud â'r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd, y Strategaeth Teithio Llesol a'r Strategaeth Goed yn rhai o elfennau pwysig hynny.

"Yna mae gennym y Cynllun Datblygu Lleol newydd, a fydd yn rhoi pwyslais newydd a chryfach ar ddatblygu cynaliadwy.

"Bydd ffocws agos iawn ar sut rydym yn datblygu cymunedau cynaliadwy, busnes cynaliadwy a thwf cynaliadwy.

"Yn olaf, un maes allweddol fydd sut y gall Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ddatblygu safle Aberddawan i greu ynni gwyrdd. Hefyd, sut rydym yn meithrin perthynas â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan i hwyluso codi’r gwastad a'r Gronfa Ffyniant a Rennir, sy'n cynnwys cymorth gwerth miliynau o bunnoedd y bydd y Cyngor yn ceisio'i sicrhau ar gyfer y Fro."

Mae'n amlwg bod llawer o waith i'w wneud ac mae llawer o bethau y mae Marcus am eu cyflawni.

Ond ychydig wythnosau ar ôl dechrau’r swydd, mae'n ymddangos bod y dyn hanner marathon wrth ei fodd yn ei rôl newydd.

Gellir gwneud ceisiadau ar gyfer digwyddiad Holi ac Ateb gyda Marcus sy'n cael ei gynnal ar 7 Mehefin.