Yr Wythnos gyda Rob

27 Mai 2022

Annwyl gydweithwyr,

Fel y gŵyr llawer ohonoch eisoes, cytunwyd ar arweinyddiaeth wleidyddol newydd y Cyngor yr wythnos hon yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nos Lun. 

Burnett, Lis

Y Cynghorydd Lis Burnett, arweinydd y Grŵp Llafur, a fydd yn arwain ein Cabinet newydd ar ôl ei chadarnhau yn Arweinydd newydd y Cyngor.  Bydd Lis yn arwain Cabinet gwleidyddol wyth person sy'n cyfuno aelodau etholedig o’r grwpiau Llafur a Llanilltud yn Gyntaf.

Mae'r Cabinet yn cynnwys pum menyw a thri dyn, gyda'r Cynghorydd Burnett, y Dirprwy Arweinydd Bronwen Brooks, Rhiannon Birch, Mark Wilson, Margaret Wilkinson a Ruba Sivagnanam yn dod o Lafur a Gwyn John ac Eddie Williams yn cynrychioli Grŵp Llanilltud yn Gyntaf. 

Mae portffolios newydd y Cabinet wedi newid o'r rhai o dan y cyfnod blaenorol.  Gallwch weld dadansoddiad llawn o ba aelodau Cabinet sydd bellach yn arwain ar eich maes gwaith ar ein gwefan

Byddaf yn rhannu gyda chi sylwadau'r Arweinydd i'r wasg yr wythnos hon sydd, yn fy marn i, yn gosod y cywair ar gyfer yr hyn sydd i ddod dros y pum mlynedd nesaf.

"Rwf wrth fy modd o gael fy ethol yn Arweinydd newydd Cyngor Bro Morgannwg.

"Mae hyn yn gyfnod cyffrous wrth i ni geisio bwrw ymlaen i gyflawni ein maniffesto uchelgeisiol sy'n cynnwys prosiectau seilwaith mawr ynghyd ag ymrwymiad i adfywio a'n menter Prosiect Sero i fod yn garbon niwtral.

"Mae'r Cabinet newydd yn adlewyrchu fy nymuniad am well cydbwysedd rhwng y rhywiau ac amrywiaeth nid yn unig mewn gwleidyddiaeth ond ym mhob swydd â phŵer.

"Mae'n bwysig bod arweinyddiaeth wleidyddol ardal yn cynrychioli'n briodol y bobl y mae'n eu gwasanaethu a bydd hynny'n ystyriaeth allweddol wrth symud ymlaen.

"Mae llawer wedi'i gyflawni yn y Fro dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd.

"Bydd cyfranogiad y cyhoedd yn ganolog i newid yn y dyfodol, gyda thrigolion yn cymryd rhan weithredol yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt."

Mater arall y gallech fod wedi'i weld yr wythnos hon yw adleoli rhai dosbarthiadau dros dro yn Ysgol Gynradd y Bont-faen yn y Bont-faen. Mae'r mesur dros dro yn ganlyniad anfwriadol yn sgil buddsoddiad sylweddol yn adeilad yr ysgol. Mae mwy na £400k yn cael ei fuddsoddi yn yr ysgol ac yn ystod y gwaith, amlygwyd problemau gyda rhai o'r nenfydau. Diogelwch disgyblion a staff wrth gwrs yw ein blaenoriaeth absoliwt ac felly penderfynwyd addysgu pedwar grŵp blwyddyn mewn lleoliadau amgen dros weddill tymor yr haf. 

Llwyddwyd i roi'r trefniadau amgen hyn ar waith yn gyflym dros ben diolch i waith caled cydweithwyr ar draws ein timau Dysgu a Sgiliau, Eiddo, TGCh ac Adnoddau Dynol, ymhlith llawer o rai eraill, yr wyf yn siŵr. Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ar ddisgyblion yr ysgol. 

Gan feddwl hefyd am y gefnogaeth y mae ein timau'n ei chynnig i ddisgyblion, nid oes amheuaeth gennyf y bydd llawer ohonoch wedi'ch cynhyrfu gan adroddiadau am y digwyddiad bwlio hiliol sy'n ymwneud â Raheem Bailey.  Mae'n gwbl annerbyniol i berson ifanc, neu yn wir unrhyw berson, gael ei hun yn y sefyllfa hon.  Rwy'n falch bod y Cyngor hwn a'n hysgolion yn cymryd safiad o ddim goddefgarwch llwyr tuag at fwlio o unrhyw fath. Gwn fod y digwyddiad yn gyferbyniad mawr i'r gwaith sy'n cael ei wneud yn ein hysgolion i greu amgylchedd diogel lle mae plant a phobl ifanc yn ddiogel ac yn gallu mwynhau dysgu.

Os oes unrhyw un ohonoch wedi cael eich effeithio gan y newyddion yr wythnos hon, cofiwch fod cymorth ar gael drwy Gofal yn Gyntaf a'n Rhwydwaith Amrywiaeth.

Hoffwn ddiolch eto i gydweithiwr sydd wedi gweithio'n agos gyda mi dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf.  Ar ôl ysgwyddo rôl y Pennaeth Digidol ynghyd â rôl Pennaeth Strategaeth, Dysgu Cymunedol ac Adnoddau yn Dysgu a Sgiliau, bydd Trevor Baker yn symud yn ôl i ganolbwyntio ar ei swydd wreiddiol o'r wythnos nesaf ymlaen. Ni fu rôl gwasanaethau TGCh o ran cefnogi ein holl waith erioed yn bwysicach ac fel sefydliad symudwyd yn gyflymach yn ystod 2020 i'n galluogi i ymateb i heriau'r pandemig.  Mae'r cyflymder hwnnw wedi'i gynnal ers hynny a hoffwn ddiolch i Trevor am ei frwdfrydedd a'i ymrwymiad i'r sefydliad a'r cyfan y mae wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ogystal â Nick Wheeler a'r holl gydweithwyr hynny yn yr adran TGCh sydd wedi ei gefnogi mor fedrus.  Diolch bawb.

Staff Awards 2022 Eng

Fel y byddwch wedi gweld yn neges yr holl staff ddoe mae amser o hyd i chi ddangos eich gwerthfawrogiad o'ch cydweithwyr drwy eu henwebu ar gyfer un o'n dyfarniadau staff.  Mae dwsinau o gynigion eisoes wedi'u gwneud. Mae ystod eang o gategorïau i gwmpasu pob maes o'n gwaith ac mae hyn yn ffordd wych o sicrhau y gydnabyddiaeth y mae gwaith cydweithwyr yn ei haeddu

Atebais gwestiynau ar hyn yn ogystal ag ar rywfaint o waith sy'n mynd rhagddio’n gyflym mewn ymateb i'r costau byw cynyddol a'r ffordd o weithio yn y dyfodol yn fy sesiwn Hawl i Holi yn gynharach y mis hwn. Mae recordiad o’r sesiwn hon bellach ar gael i'w gweld yn iDev i unrhyw un a hoffai wybod mwy. Yr oedd llawer o'r cwestiynau'n ymwneud â 'gweithio hybrid' ac yn fy neges yr wythnos diwethaf, nodais fod mwy o wybodaeth i ddilyn.  Ar hyn, gobeithiwn gyflwyno ein hegwyddorion Gweithio Hybrid newydd i gyfarfod Cabinet cynnar o'r weinyddiaeth newydd.  Bydd hyn yn amlygu sut rydym am weithio mewn byd ôl-covid, gan gydnabod yr ystod o broffesiynau sydd gennym ar draws ystod o ddisgyblaethau.  Nod hyn fydd rhoi eglurder a strwythur ar sut rydym yn gweithio ar ôl covid. I'r rhai sydd wedi bod yn gweithio gartref yn bennaf yn ystod pandemig Covid, bydd hyn yn golygu dychwelyd i'r swyddfa mewn ffordd wahanol, gyda chymysgedd o weithio mewn swyddfa a chartref, bob amser gyda buddiannau gorau ein dinasyddion a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu wrth wraidd unrhyw benderfyniadau a wnawn.

Yn y cyfamser, mae ein swyddfeydd ar agor, ac mae croeso i staff fynychu gwaith ar unrhyw adeg, gellir lletya pob aelod o staff sy'n dymuno gweithio o'r swyddfa a gall eich rheolwyr llinell drafod y trefniadau hyn gyda chi. 

Mae ein hasesiadau risg yn cael eu hadolygu'n barhaus ac mae agweddau fel cyfyngiadau ar niferoedd mewn ystafelloedd a'r gofyniad i wisgo masg/gorchudd wyneb bellach wedi'u dileu.  Rydym yn parhau i fod yn ystyriol o anghenion yr holl staff ac felly gofynnwn i'n holl aelodau staff fod yn barchus a dangos dealltwriaeth i'w cydweithwyr sydd efallai am barhau i ddewis cadw pellter cymdeithasol neu wisgo masg. I'r perwyl hwn, mae'r negeseuon ynghylch golchi dwylo yn aros ac mae cyflenwad digonol o geliau llaw a weips ar gyfer y rhai a fyddai’n dymuno eu defnyddio.

Yn olaf, hoffwn eich atgoffa hefyd y bydd ein dau Gyfarwyddwr newydd, Tom Bowring a Marcus Goldsworthy yn ateb cwestiynau gan staff ym mis Mehefin. Gallwch gyflwyno unrhyw beth yr hoffech ei roi i Tom a Marcus cyn y sesiwn a gwn eu bod yn edrych ymlaen at y sesiynau fel cyfle i siarad am y camau pwysig nesaf wrth gyflawni ein hymrwymiadau. 

Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich gwaith caled yr wythnos hon.

Diolch yn fawr bawb.

Rob.