Yr Wythnos gyda Rob
20 Mai 2022
Annwyl Gydweithwyr,
Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn ar ddiwedd wythnos brysur arall.
Cyn imi fyfyrio ar rywfaint o waith a chyflawniadau nodedig y saith diwrnod diwethaf, roeddwn am edrych ymlaen at yr wythnos nesaf.
Ddydd Llun, yn y Cyfarfod Blynyddol, bydd y Cyngor yn ethol ei Arweinydd newydd, Dirprwy Arweinydd, Aelodau'r Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau.
Mae hwn yn foment arwyddocaol i'r Awdurdod yn dilyn yr etholiad yn gynharach y mis hwn ac yn un sy'n nodi dechrau gweinyddiaeth newydd i'r Cyngor.
I mi'n bersonol, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r weinyddiaeth wleidyddol newydd i barhau i gyflawni nodau canolog ein Cynllun Corfforaethol (2020 i 2025) a'r Cynllun Cyflawni Blynyddol cyfredol, sy'n cynnwys nifer o brosiectau seilwaith sylweddol, ymrwymiad i adfywio a ffyrdd newydd, modern o weithio.
Mae'r Cynllun Cyflawni Blynyddol yn nodi'r gwaith sydd i'w wneud dros y flwyddyn nesaf i gyflawni ein pedwar nod allweddol, sef:
-
Gweithio gyda a thros ein cymunedau.
-
Cefnogi dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy.
-
Cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned.
-
Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd.
Gwnaed rhywfaint o waith diddorol gan gydweithwyr yn y gyfarwyddiaeth Lleoedd newydd yn ddiweddar a oedd yn cynnwys gweithdy ar y ffordd orau o fuddsoddi a chlustnodi'r £14 miliwn sy'n dod o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan.
Bydd y gwaith hwn yn parhau dros y misoedd nesaf fel y gallwn wneud y defnydd gorau posibl o'r cyllid er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau allweddol, yn enwedig ar yr adeg pan fo’n cymunedau yn wynebu heriau sylweddol o ystyried costau byw cynyddol.
Mae'r rhaglen ar gyfer cyflawni Cynllun Datblygu Lleol Newydd y Cyngor hefyd wedi cyrraedd carreg filltir bwysig ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Roedd Adroddiad yr Adolygiad a'r Cytundeb Cyflawni yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach yn y flwyddyn cyn i'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r newidiadau arfaethedig gael eu hystyried a'u cymeradwyo gan y Cabinet a'r Cyngor Llawn.
Bydd y CDLl Newydd yn cynnwys fframwaith ar gyfer polisi cynllunio'r Cyngor tan 2036 a glasbrint ar gyfer sut olwg fydd ar y Fro yn y dyfodol.
Yn ogystal ag ymrwymiad i gynllunio dyfodol y Fro ac adfywio ein cymunedau, rydym hefyd wedi ymrwymo i barhau â thrawsnewidad digidol y Cyngor.
Ar y pwnc hwnnw, mae'n wych gweld bod cynnydd cyflym yn cael ei wneud o ran paratoi Oracle Fusion yn barod i'w weithredu yr haf hwn.
Mae'r platfform newydd yn cynrychioli gwaith uwchraddio sylweddol i systemau Adnoddau Dynol, cyflogres a chyllid y Cyngor a bydd yn newid y ffordd y mae staff yn cael gafael ar wybodaeth am eu cyflog, eu manylion personol a llawer mwy.
Nawr yng nghamau olaf y profion, pan fydd yn fyw bydd y platfform yn rhoi porth hunanwasanaeth i bob cyflogai gyflwyno gwahanol geisiadau adnoddau dynol. Bydd hefyd yn darparu system lawer gwell i reolwyr adolygu a gweithredu ar y ceisiadau hyn, cynnig ffordd haws o gwblhau llawer o dasgau sydd angen ffurflen BM ar hyn o bryd a bydd yn symleiddio ein proses gaffael.
Bydd y system newydd yn seiliedig ar y cwmwl ac felly bydd staff yn gallu mewngofnodi gan ddefnyddio dyfeisiau gwaith a phersonol, gyda’r sefydlu yn golygu mewngofnodi unwaith fel na fydd angen i chi gofio cyfrineiriau lluosog.
Mae hyn yn rhan allweddol o Strategaeth Ddigidol y Cyngor. Dylai yrru effeithlonrwydd drwy wneud tasgau'n haws i'w cwblhau a bydd hefyd yn arbed arian i'n sefydliad.
Rwy'n gwybod bod James Rees a thîm o bob rhan o'r Cyngor wedi gweithio'n galed iawn ar y system newydd hon a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am yr ymdrechion hynny. Bydd eu gwaith yn helpu i sefylu’r Cyngor fel arloeswr sector cyhoeddus yn y maes hwn.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Oracle Fusion ar Staffnet, tra dylid e-bostio unrhyw gwestiynau i Fusion@valeofglamorgan.co.uk.
Bu'r wythnos hon yn un heriol iawn i staff a disgyblion Ysgol Gynradd y Bont-faen. Mae buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud yn adeiladwaith yr adeilad ac oherwydd amgylchiadau nas rhagwelwyd ac er budd iechyd a diogelwch plant a staff, daeth yn angenrheidiol cau rhannau o'r ysgol tra bod gwaith adeiladu'n mynd rhagddo.
Yn sgil hyn mae llawer o grwpiau blwyddyn yn gorfod cael eu haddysgu oddi ar y safle mewn lleoliadau eraill tan ddiwedd tymor yr haf.
Hoffwn gofnodi fy niolch i'n holl swyddogion ar draws Dysgu a Sgiliau a'n timau Eiddo sydd wedi gweithio'n galed ochr yn ochr â'r pennaeth - Julia Adams - a staff yr ysgol. Maent wedi trefnu ymateb effeithiol iawn ac wedi sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ar addysg disgyblion. Da iawn i bawb am ymateb i'r her. Diolch yn fawr i chi gyd.
Mwynheais fy sesiwn Hawl i Holi yr wythnos hon yn fawr iawn, pan gafodd staff gyfle i ofyn eu cwestiynau i mi ar amrywiaeth o faterion. Gobeithio fy mod wedi gallu rhoi atebion i'r rhan fwyaf ohonynt a gallu egluro rhai materion.
Roedd llawer o gwestiynau'n ymwneud â'n graddfeydd cyflog a'r argyfwng costau byw sy'n wynebu llawer o fewn ein cymunedau ar draws Bro Morgannwg yn ogystal â llawer o'r rhai sy'n gweithio o fewn y Cyngor. Roedd hwn yn fater a drafodwyd yn syth ar ôl y sesiwn Hawl i Holi, pan gyfarfûm â'm Tîm Arweinyddiaeth Strategol. Mae'r Cyngor eisoes yn cyflawni ei rwymedigaeth gyfreithiol i dalu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o £9.50 yr awr i bawb sy'n 23 oed a throsodd a gobeithiaf y gallwn symud yn gyflym i dalu'r Cyflog Byw Cenedlaethol o £9.90 yr awr ac yn ei dro geisio achrediad Cyflog Byw Cenedlaethol. Byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol ar unwaith ar y rhai ar y graddau cyflog isaf yn ein sefydliad, ac mae llawer o'r rolau hynny'n rhan-amser eu natur.
Roedd thema arall yn ymwneud â gweithio hybrid, gyda llawer sydd ar hyn o bryd yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gweithio gartref yn gofyn a yw bellach yn dderbyniol dychwelyd i'r gwaith i'n swyddfeydd. Yr ateb syml ac uniongyrchol yw yn bendant - ydy. Rwyf nawr yn y swyddfa y rhan fwyaf o ddyddiau ac wedi sylwi bod llawer mwy o'm cydweithwyr o bob adran hefyd yn treulio mwy o amser yn y gweithle. O ystyried lefel y drafodaeth ar y mater hwn yn ystod y sesiwn Hawl i Holi, fe fyddaf yn cyhoeddi mwy o gyngor ar hyn yn ystod yr wythnos i ddod, ond yn fyr, os bydd unrhyw un sy'n gweithio gartref yn teimlo ei bod yn fuddiol dychwelyd i'r swyddfa i weithio, yna ni ddylai hynny fod yn broblem mewn unrhyw ffordd.
Mae mentrau fel y sesiynau Hawl i Holi yn bwysig iawn i mi. Mae'n bwysig fy mod i a gweddill yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn hygyrch i staff ac rwy'n gobeithio y bydd digwyddiadau fel y rhain yn ein helpu ni i glosio at ein gilydd.
Mae slotiau yn y dyfodol wedi'u trefnu gyda’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol Newydd, Tom Bowring, a Marcus Goldsworthy, a benodwyd yn Gyfarwyddwr Lleoedd yn ddiweddar. Edrychwch ar y wefan am ragor o wybodaeth.
Edrychaf ymlaen at drafod y nifer o ddarnau gwaith cyffrous sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan Gabinet newydd y Cyngor yn y dyfodol agos iawn, unwaith y caiff ei gyhoeddi Ddydd Llun.
Wrth inni sefyll ar ddechrau tymor gwleidyddol newydd o bum mlynedd, gobeithiaf y byddwch yn rhannu fy mrwdfrydedd dros y dasg sydd o'n blaenau oherwydd, gydag ysgogiad ac egni o'r newydd, ein nod yw adeiladu Cymunedau Cryf â Dyfodol Disglair.
Gobeithio y cewch benwythnos braf ac ymlaciol.
Diolch yn fawr,
Rob