Yr Wythnos gyda Rob
06 Mai 2022
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio bod pawb yn cadw’n iawn a bod y rhai ohonoch sydd wedi cael wythnos fyrrach oherwydd gŵyl y banc wedi gallu gwneud y gorau o'r penwythnos hir.
Byddwch i gyd erbyn hyn, gobeithio, wedi gweld y newyddion gwych am gyfansymiau terfynol ein hymgyrch Milltiroedd dros Wcráin. Teithiwyd 4,297.64 o filltiroedd a chodwyd £13,923 ar gyfer y Pwyllgor Argyfyngau Brys - dau gyfanswm anhygoel. Mae wedi bod yn anhygoel gweld staff yn dod at ei gilydd i gefnogi'r ymgyrch.
Er y gallai hyn fod wedi rhoi ffocws i ymdrechion llawer o bobl, rwy'n ymwybodol bod llawer o'n cydweithwyr hefyd wedi rhoi eu cefnogaeth mewn ffyrdd eraill, naill ai drwy roddion unigol, cymryd rhan mewn mentrau codi arian eraill neu mewn ambell achos drwy ddarparu cymorth uniongyrchol. Dim ond yr wythnos hon y cysylltodd aelod o staff â mi sydd wedi darparu cymorth yn y modd hwn ac roedd yn wych gallu cael sgwrsio am y ffyrdd eraill y mae ein cydweithwyr wedi ymateb i'r argyfwng yn Wcráin. Mae unrhyw gefnogaeth i achos mor deilwng wrth gwrs yn rhywbeth i’w ddathlu a bod yn falch ohono, felly sut bynnag y dewisoch chi gymryd rhan, rwy'n falch o gyfraniadau pawb – da iawn bawb.
Hoffwn yr wythnos hon roi sylw unigol i Martine Coles, ein Rheolwr Grwpiau Agored i Niwed yn yr adran Dysgu a Sgiliau. Mae Martine yn rhoi cymorth gwych i bobl ifanc ac i ysgolion ledled y Fro ac fe gysylltodd un o'n penaethiaid, Janet Haywood, yr wythnos hon i ddweud:
"Diolch yn fawr i Martine Coles am y gefnogaeth y mae'n ei rhoi, bob amser ar ddiwedd y ffôn gyda dull "gallu gwneud" hwyliog. Budd plant unigol a theuluoedd sydd bob amser flaenaf ym meddwl Martine ac mae'n aml yn barod i fynd y filltir ychwanegol mewn rhai sefyllfaoedd anodd. Diolch Martine, mae eich gwaith yn cael ei werthfawrogi'n fawr!"
Mae'n wych clywed cydweithwyr yn siarad am ei gilydd mewn termau mor fendigedig.
Hoffwn ddiolch hefyd i gydweithwyr yn ein tîm Gwasanaethau Ariannol sydd wedi gweithio'n gyflym iawn dros y pythefnos diwethaf i gael y rownd gyntaf o daliadau cymorth cost-byw i drigolion y Fro. Mae un taliad sengl o £150 ar gael i bob aelwyd sy'n byw mewn eiddo ym mandiau A-D y Dreth Gyngor, a phawb sy'n derbyn cymorth ar hyn o bryd drwy Gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor. Nid yw dosbarthu degau o filoedd o daliadau o'r fath yn dasg hawdd ond mae'r tîm wedi bod â’u ffocws ar y gwahaniaeth mawr y bydd yr arian hwn yn ei wneud i'r rhai sydd ei angen ac wedi talu £2.555miliwn rhwng 17,034 o ddinasyddion y Fro yr wythnos hon. Ymdrech aruthrol a fydd yn cael effaith uniongyrchol iawn. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi ei gwneud yn bosibl.
Yn olaf, wrth i lawer ohonoch ddarllen hwn brynhawn Gwener bydd dwsinau o staff, a minnau yn eu plith, yn y cyfrif yn yr etholiad lleol yn y Barri, tra bydd llawer mwy yn ymlacio wedi diwrnod hir iawn yn staffio gorsafoedd pleidleisio ac yn cefnogi diwrnod yr etholiad mewn ffyrdd eraill. Mae'r broses etholiadol yn amlwg yn ganolog i'r ffordd yr ydym yn gweithio fel sefydliad. Mae hefyd yn ffordd bwysig sy'n galluogi trigolion Bro Morgannwg i ddweud eu dweud am y modd y caiff y Cyngor ei redeg ac wrth gyfarwyddo’r modd y byddwn i gyd yn gweithio i wneud y Fro yn lle sydd â chymunedau cryf â dyfodol disglair. Mae'n hynod bwysig ac mae diwrnod yr etholiad (a'r noson, a drannoeth, ac yn aml drennydd hefyd) yn benllanw misoedd o gynllunio a gwaith caled gan ein tîm etholiadol, dan arweiniad abl ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Etholiadol. Eleni fu fy nhro cyntaf yn rhan o'r tîm ac mae wedi bod yn wych cael fy amgylchynu gan gynifer o gydweithwyr ymroddedig a gweithio mewn amgylchedd ‘gallu gwneud’ o’r fath. Diolch bawb. Bydd canlyniadau'r etholiadau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan wrth iddynt gael eu datgan o brynhawn Gwener ymlaen nes i ni orffen.
Fel bob amser, diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob.