Neges o'r Prif Weithredwr

Annwyl Gydweithwyr,

Fel y gŵyr llawer ohonoch, cynhaliwyd yr Etholiadau Lleol ddydd Iau 05 Mai eleni.

Yn dilyn y cyfle i drigolion bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio ar draws y Fro ddydd Iau, aeth staff a gwirfoddolwyr i Ganolfan Gelfyddydau’r Memo ddydd Gwener i gyfrif a datgan y canlyniadau.

Cynhaliwyd y cyfrif ar gyfer pob un o'r 54 sedd ward Sirol ar Gyngor y Fro ac ar gyfer y cynghorau tref a chymuned hynny lle'r oedd seddi'n cael eu herio.

Efallai eich bod eisoes wedi gweld y dadansoddiad llawn o'r canlyniadau ar ein gwefan. Rydym wedi croesawu llawer o Gynghorwyr newydd, gyda 30 o'r 54 aelod yn cael eu hethol am y tro cyntaf.

Canlyniadau Etholiad Llywodraeth Leol
 Plaid Aelodau
 Plaid y Ceidwadwyr Cymreig  13
 Annibynnol  4
 Llafur Cymru  25
 Llanilltud yn Gyntaf  4
 Plaid Cymru – The Party of Wales  8
 Cyfanswm  54

 

Rwy’n falch bod ein cyfansoddiad newydd yn golygu bod Cyngor y Fro yn un o ddau Gyngor yng Nghymru sy’n gwbl gytbwys o ran rhyw, y llall yw Cyngor Sir Fynwy.

Fel y crybwyllais yn fy neges diwedd yr wythnos, mae'r gwaith 'y tu ôl i'r llenni' yn y cyfnod cyn yr etholiadau wedi bod yn gymhleth ac ar raddfa fawr. Hoffwn ddiolch eto i dîm y Gwasanaethau Etholiadol am ei waith caled. Heb anghofio’r staff a ymrwymodd i weithio oriau hir mewn gorsafoedd pleidleisio ac i gyfrif drwy gydol y dydd ac yn hwyr gyda'r nos - Diolch yn fawr pawb.

Roedd yn wych gweld gwaith caled pawb yn dod at ei gilydd.

Yr wythnos hon, mae'r Gwasanaethau Democrataidd yn gyfrifol am gefnogi'r aelodau newydd. Dechreuodd y broses sefydlu ddydd Llun, ac rwyf fi, ynghyd â'r Cyfarwyddwyr, wedi bod yn cwrdd â phob un o'n cynghorwyr newydd.

Mae gwaith ar y gweill i baratoi ar gyfer y Cyfarfod Blynyddol a gynhelir ar 23 Mai. Bydd y cyfarfod yn cadarnhau Arweinydd newydd y Cyngor, aelodau'r Cabinet a pha gynghorwyr fydd yn eistedd ar wahanol bwyllgorau. Rhoddaf y wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Diolch yn fawr bawb.

Rob