Staffnet+ >
Sesiynau Ymwybyddiaeth o'r Menopos
Sesiynau Ymwybyddiaeth o’r Menopos
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i gefnogi staff yn y gweithle ac mae'n cynnig sesiynau Ymwybyddiaeth o’r Menopos dan arweiniad Iechyd Galwedigaethol i bob cyflogai.
Mae'r Cyngor yn cydnabod y bydd cyfran fawr a chynyddol o'i weithwyr yn gweithio drwy'r menopos ac ymhell y tu hwnt i'r menopos ac mae am i bawb ddeall beth yw'r menopos a gallu siarad amdano'n agored a heb embaras.
Mae’r menopos yn gyfnod naturiol ym mywyd pob menyw ac yn ddemograffeg gynyddol o fewn y gweithlu. Er mwyn creu gweithle cynhwysol mae angen i ni gynnwys pawb, mae angen i bawb ddeall beth yw'r menopos, oherwydd dim ond drwy godi ymwybyddiaeth y gallwn normaleiddio'r tabŵ hwn a dechrau cynnig cymorth, dealltwriaeth a derbyn. Mae'r sesiynau hyn wedi'u bwriadu ar gyfer pawb a hoffai wybod mwy am y menopos.
Bydd y sesiynau'n cael eu cyfyngu i 20 person, cysylltwch ag Iechyd Galwedigaethol dros y ffôn neu drwy e-bost i gadw lle.
Amserlen
Dydd Gwener 13 Mai
Ystafell Gorfforaethol
9.30am to 10.30am
Dydd Llun 16 Mai
Ystafell Gorfforaethol
9.30am to 10.30am
11.00am to 12.00pm
14.00pm to 15.00pm
Dydd Iau 16 Mehefin
Siambrau'r Cyngor
09.30am to 10.30am
11.00am to 12.00pm
14.00pm to 15.00pm
Dydd Llun 27 Mehefin
Ystafell Gorfforaethol
09.30am to 10.30am
11.00am to 12.00pm
14.00pm to 15.00pm
Mwy o ddyddiadau i ddod.
Os hoffech gynnal sesiwn adrannol neu sesiwn yn yr Ysgol, cysylltwch â Sharon Williams ar 01446 709883.