Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia

'Ein Cyrff, Ein Bywydau, Ein Hawliau'

International Day Against Homophobia, Biphobia and Transphobia

Sefydlwyd y Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia yn 2004. Nawr, mae dros 130 o wledydd yn nodi’r diwrnod ar 17 Mai i goffáu penderfyniad Sefydliad Iechyd y Byd ym 1990 i ddad-ddosbarthu cyfunrhywiaeth fel anhwylder meddwl. 

Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaethu a'r trais parhaus a brofir gan bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol, rhyngrywiol, a phawb arall sydd â chyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd a nodweddion rhywedd amrywiol.  Mae'n ein hatgoffa bod llawer i'w wneud eto nes eu bod yn rhydd ac yn ddiogel rhag niwed.  

Y thema eleni yw 'Ein Cyrff, Ein Bywydau, Ein Hawliau'.   Mae hyn yn adlewyrchu hawl cymuned LHTDCRh+ i fyw eu cyfeiriadedd rhywiol a'u hunaniaeth neu fynegiant rhyw yn rhydd, mewn urddas, a heb ofni trais. Mae hyn yn cynnwys bod yn rhydd o drais corfforol fel "therapïau" trosi fel y'i gelwir a sterileiddio pobl Traws a Rhyngrywiol.

Mae'r thema'n ein hatgoffa bod llawer o bobl LHTDCRh+ ledled y byd yn byw gyda ffobiâu LHTDCRh+ ac yn wynebu cam-drin eu cyrff sy'n difetha bywydau.  Rhaid i ni gofio bod gan bobl LHTDCRh+ yr hawl i fyw'n rhydd ac mewn urddas!

Ewch i dudalen Mai 17 neu Stonewall am ragor o wybodaeth.

Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel a phleserus i bobl LHTDCRh+ weithio ac i sicrhau bod ardal Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a meithringar ynddo. Os hoffech gymryd rhan yn hyn, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut i wneud pethau'n well, cysylltwch â GLAM, ein Rhwydwaith Staff LHDT+.