Pythefnos Gofal Maeth

09 i 22 Mai 2022

Foster Wales Logo

Y Pythefnos Gofal Maeth hwn, rydym yn dathlu'r gwahaniaeth y mae gofalwyr maeth wedi'i wneud i fywydau plant ym Mro Morgannwg.  Mae hyn yn cynnwys gofalwyr maeth sydd wedi dangos ymroddiad dros nifer o flynyddoedd yn ogystal â'r rheiny sydd newydd ddechrau ar eu taith faethu i helpu i roi gwell dyfodol i blant.

Pythefnos Gofal Maeth yw’r ymgyrch ymwybyddiaeth gofal maeth fwyaf yn y DU, ac fe'i cynhelir gan yr elusen faethu, The Fostering Network. Y thema eleni yw 'cymunedau maethu', gan ganolbwyntio ar ymrwymiad, brwdfrydedd ac ymroddiad gofalwyr maeth.

Mae'n gobeithio taflu goleuni ar y ffyrdd niferus y mae pobl yn y gymuned faethu wedi cefnogi ei gilydd yn ystod pandemig Covid-19 – a thynnu sylw at yr angen am fwy o ofalwyr maeth ymroddedig.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn un o 22 o dimau awdurdod lleol yng Nghymru sy’n cydweithio dan yr enw Maethu Cymru, rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu dielw.

Mae Maethu Cymru am annog mwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth ar gyfer eu hawdurdod lleol fel y gall plant aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a'u teulu ac aros yn eu hysgol. Gall hyn helpu plant a phobl ifanc i gadw eu hymdeimlad o hunaniaeth yn ystod cyfnod cythryblus.

Gallwch ddysgu mwy am faethu ym Mro Morgannwg ar wefan Maethu Cymru.