Wythnos Cynhwysiant Pobl Dduon - 'Gyda'n gilydd am well yfory'

9 – 15 Mai 2022

Datblygwyd Wythnos Cynhwysiant Pobl Dduon i adeiladu cymdeithas gryfach a thecach i bawb drwy gefnogi a chydweithio â sefydliadau, unigolion a chynghreiriaid.

Y thema eleni yw 'gyda'n gilydd am well yfory' gan fod angen i bawb weithio gyda'i gilydd i greu dyfodol gwell i bawb. Drwy nodi Wythnos Cynhwysiant Pobl Dduon, gallwn ddangos ein hymrwymiad i gynhwysiant i bawb a chynghreiriaeth.

Dewiswyd y thema eleni '#GydanGilyddAmWellYfory' oherwydd...

  • Bydd y newid y mae angen i ni ei weld yn gofyn am gyfraniad PAWB.
  • Pobl ddu, cynghreiriaid, cymunedau, sefydliadau, ysgolion - pawb mewn cymdeithas - yn dysgu, yn tyfu ac yn gweithredu gyda'i gilydd.
  • I greu gwell yfory i BOB UN ohonom.

Am fwy o wybodaeth ewch i Wythnos Cynhwysiant Pobl Dduon – Arwain cynhwysiant du yn y DU.

Mae Wythnos Cynhwysiant Pobl Dduon hefyd yn gyfle gwych i ddathlu llwyddiannau pobl dduon yn y DU. Dyma rai enghreifftiau: 

BIW Marcus RashfordMarcus Rashford is a successful footballer and anti-poverty campaigner.

BIW Diane AbbotDiane Abbot was the first female Black MP and has served for over 30 years.

 

BIW Ncuti GatwaActor Ncuti Gatwa has just been revealed as the latest Doctor Who.

BIW Beverley KnightFormer pop star Beverley Knight is now a prolific star of many West End musicals.

 

Efallai bod eich arwr Du yn aelod o'r teulu, yn ffrind neu'n aelod o'r gymuned leol. 

Gallwch helpu i ddatblygu diwylliant gweithle mwy cynhwysol drwy ymuno â'r Rhwydwaith Staff Amrywiol.  Mae Rhwydwaith Staff Amrywiol (y Rhwydwaith Lleiafrifoedd Ethnig gynt) yn hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol yn rhagweithiol. 

Mae croeso i bob aelod o staff ymuno â'r rhwydwaith a chefnogi ei genhadaeth i helpu'r Cyngor i ddod yn gyflogwr o ddewis i bobl o gymunedau amrywiol.

Yn rhan o'r genhadaeth hon, nod y grŵp yw:

  • Cael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y gweithle.
  • Codi ymwybyddiaeth gyffredinol o'i waith, a’i wneud yn weladwy.
  • Creu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol.

Mae sefydlu'r rhwydwaith yn gam tuag at ddechrau'r sgwrs am gydraddoldeb hiliol yn y Cyngor mewn ffordd adeiladol ac agored a dangos y gall sgyrsiau anghyfforddus arwain at newid gwirioneddol.

I ymuno, llenwch y ffurflen aelodaeth ar-lein yma.