Aelodaeth Gorfforaethol ar gael i Staff Cyngor Bro Morgannwg mewn Canolfannau Hamdden Lleol

10 Mai 2022

Yr wythnos hon, mae canolfannau hamdden yn y Fro wedi cyhoeddi aelodaeth gorfforaethol hyblyg newydd ar gyfer holl staff y Cyngor.

Mae'r aelodaeth yn berthnasol i ganolfannau hamdden Penarth, Y Barri, y Bont-faen a Llanilltud Fawr ac mae'n costio £33.50 y mis.

Bydd yr aelodaeth newydd yn caniatáu mynediad i amrywiaeth eang o gyfleusterau a dosbarthiadau, gan gynnwys mynediad i gampfa, cyrtiau badminton a sboncen, pyllau nofio a dosbarthiadau ymarfer corff grŵp.

Yn ogystal â hyn, gall aelodau newydd ddewis derbyn ymgynghoriad ffitrwydd un-i-un a rhaglen ffitrwydd personol 6 wythnos. 

Bydd aelodau hefyd yn gallu manteisio ar fuddiannau ychwanegol, gan gynnwys gostyngiadau unigryw gyda manwerthwyr penodol yn y Fro drwy ddefnyddio app aelodau ar eich ffôn symudol.

Drwy ymaelodi cyn 15 Mai, byddwch yn derbyn aelodaeth am £10 yn unig am weddill y mis. Mae aelodaeth ar gael yn y canolfannau hyn yn unig a bydd angen i chi ddangos prawf o’ch cyflogaeth gyda’r Cyngor.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at wellbeingchampions@valeofglamorgan.gov.uk