Mae Golwg ar Fro Morgannwg
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Bro Morgannwg wedi cyhoeddi ei Asesiad Lles diweddaraf yn ddiweddar.
Mae'r Asesiad yn dod â chanfyddiadau data, ymchwil ac ymgysylltu cenedlaethol a lleol ynghyd i wella ymhellach ddealltwriaeth y BGC o fywyd ar gyfer gwahanol ardaloedd, cymunedau a phobl ledled Bro Morgannwg. Mae'n cyflwyno astudiaeth o brofiad bywyd ym Mro Morgannwg yn awr, ond hefyd ddadansoddiad o’r ffactorau gwahanol a allai effeithio ar fywyd yn y dyfodol.

Mae Golwg ar Fro Morgannwg – Asesiad o Les y Presennol a’r Dyfodol yn dwyn ynghyd canfyddiadau pedwar adroddiad allweddol, sy'n cynnig adolygiad manwl o bob pwnc, ond sydd hefyd yn dangos natur gydgysylltiedig lles. Dyma'r pedwar adroddiad manwl:
Adroddiad Demograffig – dadansoddiad manwl o newidiadau a thueddiadau poblogaeth y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Adroddiad Addysg a'r Economi – dadansoddiad o addysg a sgiliau, cyflogaeth ac enillion, twf economaidd a thai.
Adroddiad Iechyd a Chymunedau – dadansoddiad o ddangosyddion iechyd allweddol, ymddygiad iach, lles cymdeithasol a diwylliannol.
Adroddiad yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth – dadansoddiad o'r argyfyngau hinsawdd a natur, cynefinoedd, llifogydd, trafnidiaeth ac ynni.
Sut gall yr Asesiad Lles eich Helpu chi?
Mae'r Asesiad yn rhoi data a gwybodaeth fanwl am fywyd ym Mro Morgannwg gan gynnwys nifer y bobl 65 oed a throsodd yn 2020 (28,638) a phatrymau cymudo manwl ar nifer y bobl sy'n byw ac yn gweithio ym Mro Morgannwg. I gyd-fynd â'r dystiolaeth a'r data, mae'r asesiad yn rhoi naratif o sut y gall profiadau ym Mro Morgannwg gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru neu yn erbyn cyfartaledd cenedlaethol Cymru/y DU. Gellir defnyddio'r mewnwelediad hwn i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau a phrosiectau, o gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb, o gwblhau'r pum ffordd o weithio ac isadrannau amcanion lles adroddiadau pwyllgorau ac o gyflwyno ceisiadau am grantiau.
Er bod llawer o'r data yn yr Asesiad yn cynnig y dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddatblygu adnodd PowerBI rhyngweithiol byw a fydd yn dwyn ynghyd y setiau data allweddol a ddefnyddiwyd yn yr asesiad ac yn sicrhau bod yr asesiad yn parhau’n adnodd byw y gall cydweithwyr ei ddefnyddio.
Beth mae'r Asesiad wedi'i ganfod?
Mae’r asesiad wedi canfod bod lles ym Mro Morgannwg yn dda i lawer o bobl. Dangosir hyn drwy ganlyniadau addysgol da ar y cyfan, enillion sy'n uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru, canlyniadau iechyd da a mynediad i fannau gwyrdd a glas o ansawdd uchel. Fodd bynnag, nid yw'r profiadau hyn yn gyson i bawb. Mae profiadau caledi ariannol, iechyd gwael, cyfraddau trosedd ac anhrefn uwch ac amlygiad anghyfartal i risg amgylcheddol yn parhau i effeithio ar les rhai o’n dinasyddion. Mae'r profiadau hyn wedi'u gwaethygu ymhellach gan bandemig y coronafeirws, sydd, er ei fod wedi effeithio ar bawb sy'n byw ledled y Fro, wedi taro'n arbennig o galed i'r rheiny a oedd eisoes yn cael trafferth oherwydd lles gwael.
Er ei bod yn ymddangos ein bod yn dod allan o'r gwaethaf o'r pandemig, mae’n amlwg y bydd yn parhau i gael effaith hirdymor ar ein bywydau. Gall rhai newidiadau wedi’u gwneud oherwydd y pandemig ein helpu i ymateb i heriau'r dyfodol fel yr argyfyngau hinsawdd a natur, tra bod eraill wedi amlygu ymhellach natur anghyfartal profiadau ym Mro Morgannwg. Yr hyn sy'n amlwg yw y bydd yn allweddol gwneud y newidiadau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur mewn ffordd sy'n helpu i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau mewn profiad a lles ledled Bro Morgannwg.
Bydd yr Asesiad yn llywio'r gwaith o ddatblygu Cynllun Lles newydd y BGC a gyhoeddir ym mis Mai 2023 ac a gaiff ei ddatblygu mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd drwy'r Asesiad Lles ac ymgysylltu pellach â'r gymuned a rhanddeiliaid.
I gael mwy o wybodaeth am yr Asesiad Lles a gwaith y BGC, cysylltwch â Helen Moses, Lloyd Fisher neu Joanna Beynon yn y Tîm Strategaeth a Phartneriaethau.
HMoses@valeofglamorgan.gov.uk
lfisher@valeofglamorgan.gov.uk
jbeynon@valeofglamorgan.gov.uk