Staffnet+ >
Y Gweithiwr Ieuenctid Cyfrifol, Peter Williams yn cael ei ganmol yn fawr mewn gwobrau rhanbarthol
Y Gweithiwr Ieuenctid Cyfrifol, Peter Williams yn cael ei ganmol yn fawr mewn gwobrau rhanbarthol
2 March 2022
Yn ddiweddar, cynhaliodd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro ei seremoni Gwobrau Cydnabod Diogelu flynyddol lle cafodd nifer o grwpiau ac unigolion y Cyngor eu coffáu.
Ymhlith y rheiny a ganmolwyd am eu gwaith caled oedd Peter Williams, Gweithiwr Ieuenctid Cyfrifol a gafodd ei ganmol yn fawr yn y categori Ymrwymiad Eithriadol i Ymarfer a Ddangoswyd yn ystod Cyfyngiadau Covid.
Mae Peter Williams wedi gweithio i Wasanaeth Ieuenctid y Cyngor ers y 14 mlynedd diwethaf, gan ddechrau mewn clwb ieuenctid lleol cyn symud i'w rôl bresennol 7 mlynedd yn ôl.
Prif rôl Peter yw goruchwylio'r prosiectau Ysbrydoli i Gyflawni ac Ysbrydoli i Weithio, sy'n cynnwys gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed yn y Fro nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Mae'r tasgau o ddydd i ddydd sy'n gysylltiedig â'r swydd hon yn cynnwys rhoi cymorth i bobl ifanc yn yr ysgol, gan wella ymddygiad a lles. Gallai Peter helpu’r rheiny 16-25 oed i gael mynediad at hyfforddiant neu i gael addysg neu gyflogaeth.
Wrth siarad am y gwaith a arweiniodd at y gydnabyddiaeth hon, dywedodd Peter:
"Yn y gwasanaeth ieuenctid, rydym yn gweithio'n rheolaidd gyda phobl ifanc sy'n agored i niwed ac mae'r pandemig wedi gwaethygu rhai o'r pethau sy’n eu gwneud yn agored i niwed.
"Pan roddwyd y cyfyngiadau ar waith, dechreuodd tîm ohonom roi prydau ysgol am ddim i bobl ifanc yn y Fro gan hefyd cynnal archwiliadau lles ar blant a phobl ifanc nad oedd ysgolion wedi gallu cysylltu â nhw yn ystod yr wythnos.
"Yna gwnaethon ni edrych ar sut y gellid symud ein darpariaethau naill ai ar-lein neu i leoliadau fel sesiynau stepen drws i barhau i roi cymorth i'r bobl ifanc."
"Gwnaethon ni nodi darnau eraill o waith angenrheidiol, fel prynu eitemau i greu pecynnau lles ar gyfer pobl ifanc a hefyd greu pecynnau gweithgareddau yn llawn gemau y gallai pobl ifanc eu cwblhau y tu allan i'w gwaith ysgol, tra roeddent gartref."
Mae pandemig Covid-19 wedi creu nifer o wahanol heriau i lawer o bobl ledled y Fro. Bu'n rhaid i Peter a'r tîm ailystyried sut y byddai llawer o'r gwaith yn cael ei wneud ac roedd angen llawer o gynllunio ac adnoddau ychwanegol.
Yr her fwyaf oedd cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfyngiadau newidiol a sicrhau bod ymarfer y tîm yn cyd-fynd â'r newidiadau hyn.
"Y rhan fwyaf gwerthfawr o'm rôl a'r gwaith a wnaed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw'r teimlad o wneud gwahaniaeth i bobl ifanc a theuluoedd," ychwanegodd Peter.
"Ychydig iawn o gymorth y mae rhai o'r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw yn ei gael gan bobl eraill yn eu bywydau, felly mae cynnig cyfleoedd a ffyrdd y gallant symud ymlaen a datblygu yn golygu bod diben i'r gwaith sy'n cael ei wneud."
Mae canmoliaeth Peter yn cydnabod yr holl waith caled y mae ef a gweddill y tîm wedi'i wneud drwy gydol y pandemig.