Milltiroedd ar gyfer Wcráin

Ukraine - SN Banner

Bythefnos ers dechrau Milltiroedd ar gyfer Wcráin, ac rydym wedi gwneud cynnydd mawr ar ein taith rithwir i Wcráin.

O heddiw, rydym wedi teithio 1,476.86 milltir ar ein taith rithwir i Wcráin.

Hyd yma, mae eich rhoddion a'ch ymdrechion i godi arian wedi codi £1,319 ar gyfer Apêl Dyngarol Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.

Lluniau o Dimau

Mae timau o bob rhan o'r Cyngor wedi bod yn gwneud eu rhan yn ein cenhadaeth i godi arian.

Da iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn!

Ydy eich tîm yn mynd allan i gwblhau rhai milltiroedd? Cofiwch dynnu llun o’r tîm i'w anfon gyda'ch cyflwyniad milltiroedd!

 

Gall unrhyw un gymryd rhan i gwblhau ein taith rhithiwr, boed hynny chi ar eich pen eich hun, gyda'ch tîm, neu fel rhan o ysgol ym Mro Morgannwg.

Cofnodwch eich milltiroedd a gwnewch rodd drwy ein hyb Milltiroedd ar gyfer Wcráin.

Lluniau o'ch taith

Yr wythnos hon, mae llawer ohonoch wedi manteisio ar y tywydd braf i gwblhau milltiroedd.

Rydych chi wedi bod yn brysur yn cerdded, yn beicio, yn chwarae golff, a hyd yn oed yn rhedeg hanner marathonau!

Week 2 Image 1

Week 2 Image 2

Week 2 Image 3

Week 2 Image 4

Week 2 Image 5

 

Cofiwch rannu eich ymdrechion a'r Tudalen Just Giving gyda ffrindiau a theulu!

Bydd yr arian yn helpu i ddarparu lloches, bwyd, dŵr a hanfodion eraill i'r miliynau o bobl sydd wedi gadael eu cartrefi i ddianc rhag y gwrthdaro yn Wcráin.

Gweler y gwahaniaeth y gall eich rhoddion ei wneud:

  • Gallai £10 ddarparu cyflenwadau hylendid hanfodol i un person am fis

  • Gallai £20 ddarparu bwyd brys i un person am fis

  • Gallai £50 ddarparu blancedi i 10 o bobl i’w cadw'n gynnes

  • Gallai £100 ddarparu bwyd brys i ddau deulu am fis