Wythnos Gyntaf Milltiroedd ar gyfer Wcráin

Ukraine-SN-Banner-CY

 

Rydych wedi bod yn brysur yn cerdded, beicio a hyd yn oed gwau eich ffordd i Wcráin ar ein taith codi arian rithwir 1,775 milltir o hyd.

O heddiw, rydym wedi teithio 593.3 milltir ar ein taith rithwir i Wcráin - 1,235.7 milltir i fynd!

Hyd yma, mae eich rhoddion a'ch ymdrechion i godi arian wedi codi £663 ar gyfer Apêl Dyngarol Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.

Bydd yr arian yn helpu i ddarparu lloches, bwyd, dŵr a hanfodion eraill i'r miliynau o bobl sydd wedi gadael eu cartrefi i ddianc rhag y gwrthdaro yn Wcráin..

Gweler y gwahaniaeth y gall eich rhoddion ei wneud:

  • Gallai £10 ddarparu cyflenwadau hylendid hanfodol i un person am fis

  • Gallai £20 ddarparu bwyd brys i un person am fis

  • Gallai £50 ddarparu blancedi i 10 o bobl i’w cadw'n gynnes

  • Gallai £100 ddarparu bwyd brys i ddau deulu am fis

Mae timau, unigolion ac anifeiliaid anwes wedi bod yn anfon cipluniau o'u teithiau:

 

Gall unrhyw un gymryd rhan i gwblhau ein taith rhithiwr, boed hynny chi ar eich pen eich hun, gyda'ch tîm, neu fel rhan o ysgol ym Mro Morgannwg.

Cofnodwch eich milltiroedd a gwnewch rodd drwy ein hyb Milltiroedd ar gyfer Wcráin.

Cofiwch rannu eich ymdrechion a'r Tudalen Just Giving gyda ffrindiau a theulu!