Diwrnod Dathlu Traws 2022
Cynhelir y Diwrnod Dathlu Traws yn flynyddol ar 31 Mawrth - mae'n gyfle i godi ymwybyddiaeth a dathlu pobl draws ac anneuaidd.
Mae'r gymuned drawsryweddol yn parhau i wynebu gwahaniaethu ac anghyfiawnder ledled y byd, boed hynny yn y gweithle, ysgolion neu gymdeithas. Mae aflonyddu, trais ac anghydraddoldeb i gyd yn brofiadau cyffredin i bobl draws ac anneuaidd.
Mae pobl draws ac anneuaidd yn aml o dan bwysau i fod yn 'fwy' nag y maen nhw. Mae heddiw'n ymwneud â bod yn falch o bwy yw'r gymuned draws, yn union fel y maent!
Beth gallwch chi ei wneud?
Parchu enwau ac ynganiadau - Peidiwch â gofyn i berson traws neu anneuaidd beth yw ei enw "go iawn". Parchwch yr enw a'r rhagenwau y maent wedi gofyn i chi eu defnyddio. Os gwnewch gamgymeriad, ymddiheurwch, cywirwch eich hun a symudwch ymlaen. Os nad ydych yn siŵr pa ragenwau i'w defnyddio, mae'n iawn gofyn - ond rhannwch eich rhagenwau eich hun hefyd.
Osgoi rhagdybiaethau - Nid yw pobl draws ac anneuaidd i gyd o’r un pryd a gwedd, ac nid oes rhaid i chi fod o bryd a gwedd benodol i fod o ryw benodol. Efallai na fydd mynegiant rhyw person – h.y. ei ddillad, ei lais, ei foesau, neu agweddau eraill ar ei ymddangosiad – bob amser yn adlewyrchu ei hunaniaeth rhywedd yn y ffordd y gallech ddisgwyl.
Gwrando ac ymddiried mewn pobl draws ar eu hunaniaeth a'u profiad - Person traws neu anneuaidd yw'r arbenigwr ar ei brofiadau ei hun. Nid oes un ffordd "gywir" o fod yn draws; mae gan bob person traws brofiad unigryw. Mae rhai pobl draws yn profi dysfforia rhyw; dyw eraill ddim. Mae rhai pobl draws am drawsnewid yn feddygol; dyw eraill ddim.
Cefnogi pobl draws sy'n defnyddio'r ystafelloedd ymolchi y maent am eu defnyddio - Mae cefnogi ac eirioli dros ystafelloedd ymolchi sy'n niwtral o ran y rhywiau yn ffordd wych o helpu. Gall ystafelloedd ymolchi niwtral o ran y rhywiau fod yn opsiwn mwy diogel i bobl draws sy'n ofni profi trawsffobia mewn ystafelloedd ymolchi deuaidd; maent hefyd yn gynhwysol i bobl anneuaidd.
Byddwch yn ofalus ynghylch cyfrinachedd a "dod â rhywun allan" - Mae rhai pobl draws yn teimlo'n gyfforddus yn dweud wrth eraill am eu hanes rhyw; dyw eraill ddim. Os bydd rhywun yn dod allan i chi fel rhywun traws neu anneuaidd, peidiwch â rhannu'r wybodaeth hon ag eraill heb eu caniatâd. Gadewch iddyn nhw ddewis os a sut maen nhw am ddweud wrth bobl eraill.
Herio trawsffobia - Os ydych chi'n clywed iaith neu jôcs trawsffobig, heriwch nhw. Os clywch rywun yn cam-ryweddu person traws neu anneuaidd, cywirwch nhw a gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod beth yw'r geiriau cywir i'w defnyddio.