Rob's Weekly Round-Up (890 × 170px) (2)

Annwyl Gydweithwyr,

Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn ar ddiwedd wythnos brysur arall.

Roedd yr wythnos hon yn nodi ail Ddiwrnod Myfyrio Cenedlaethol Covid-19.  Wrth iddi nosi, goleuwyd llochesi'r Gorllewin a'r Dwyrain yn Ynys y Barri, ac rwy'n siŵr eich bod i gyd wedi ymuno â mi i gofio'r rhai sydd wedi colli eu bywydau a'u hanwyliaid yn ystod y pandemig.

Nid yn unig y mae'r diwrnod coffa yn gyfle i gofio'r rhai nad ydynt gyda ni mwyach, ond mae hefyd yn gyfle i gofio a bod yn ddiolchgar am ymdrechion rhyfeddol ein hadrannau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Hoffwn gymryd eiliad i dalu teyrnged i'ch ymdrechion.

Gan fod disgwyl i'r cyfyngiadau gael eu llacio unwaith eto Ddydd Llun, hoffwn eich sicrhau y bydd mesurau'n parhau yn swyddfeydd y Cyngor. Cynghorir staff, er nad oes angen, i wisgo mwgwd pan fyddant yn ein hadeiladau er mwyn lleihau lledaeniad y coronafeirws.  Fel bob amser, fy nghyngor i yw parhau i fod yn ofalus ac yn synhwyrol o amgylch eraill.

Rwy'n falch o weld tîm y Fro unwaith eto yn camu i’r adwy i gynnig eu cefnogaeth, y tro hwn i'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y rhyfel  yn Wcráin. Yr wythnos hon, rydym wedi gweld llawer o dimau ac unigolion allan ar hyd y lle - yn cerdded i gopa Pen-y-Fan, o amgylch Ynys y Barri a Cosmeston i gofnodi eu Milltiroedd dros Wcráin.

Hyd yn hyn, rydym wedi cyrraedd dros 700 milltir ac wedi codi £883 ar gyfer Apêl Dyngarol Wcráin y Pwyllgor Argyfyngau Brys. Mae rhagolygon y tywydd ar gyfer yr wythnos i ddod yn edrych yn ogoneddus, felly byddwn yn eich annog i fynd allan a chlocio’r milltiroedd yna - boed hynny er eich lles eich hun neu gyda chydweithwyr. Peidiwch ag anghofio cofnodi eich milltiroedd a rhannu eich lluniau trwy'r Hyb Staffnet+.

Os hoffech annog ffrindiau a theulu i gymryd rhan, gallwch lawrlwytho'r pecyn ased cyfryngau cymdeithasol a rhannu'r rhain ar eich tudalennau Facebook a Twitter personol. Gallwch hefyd ychwanegu dolen i'r dudalen Just Giving.

Gan ganolbwyntio nawr ar rywbeth ychydig yn nes at adref wrth i baratoadau fynd rhagddynt ar gyfer yr etholiadau lleol ar 05 Mai. Mae'r cyfnod cyn yr etholiad yn golygu bod rhai newidiadau i'r ffordd y mae'r Cyngor yn cyfathrebu gwaith ein haelodau etholedig. Hoffwn ddiolch i'r rhai sy'n rhan o'r gwaith paratoi.

Yn olaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i nid un, ond dau uwch aelod o staff a fydd yn ein gadael o fewn yr wythnosau nesaf.

Mae Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Dave Holland, wedi bod wrth y llyw yn y gwasanaeth ers ei sefydlu. Mae wedi profi ei hun yn weithiwr proffesiynol medrus, yn cydlynu gwasanaeth sy'n gweithio ar draws tri sefydliad ar wahân gan feithrin yr hyn sydd bellach yn berthynas wych. Bydd pob sefydliad, yn ogystal â gweddill y sector cyhoeddus, yn gweld ei golli. Mwynhewch eich pennod nesaf, Dave.

Meddai Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai, "Hoffwn ddiolch yn bersonol i Dave am ei gyfraniad i lywodraeth leol ac i ddiogelu trigolion ac ymwelwyr â'r rhanbarth.  Eleni, byddai Dave wedi cwblhau 39 mlynedd o wasanaeth, ac mae pob un ohonynt wedi'u cwblhau gyda phroffesiynoldeb, hiwmor da a gonestrwydd. Byddwn yn gweld eich colli yn fawr Dave.”

 Hoffwn hefyd dalu teyrnged i Carolyn Michaels, sydd wedi gweithio fel swyddog Adran 515 ers nifer o flynyddoedd.  Ers i'n Pennaeth Cyllid ein gadael y llynedd, mae Carolyn wedi aros yn hirach na'r disgwyl.  Mae wedi gohirio ei hymddeoliad haeddiannol iawn i sicrhau bod cyllideb y Cyngor wedi mynd rhagddo a throsglwyddo'n ddi-dor i'n Pennaeth Cyllid newydd, Matt Bowmer - y byddwn yn edrych ymlaen at ei groesawu ddechrau Ebrill.

Diolch Carolyn am eich proffesiynoldeb, eich ymroddiad a'ch dealltwriaeth, eich ymrwymiad i sicrhau bod gan y cyngor adran effeithlon sy'n cael ei rhedeg yn dda.

Yn dymuno penwythnos heulog, gwych i chi i gyd.  Diolch yn fawr.

Rob