Yr Wythnos Gyda Rob
04 Mis Mawrth 2022
Annwyl gydweithwyr,
Hoffwn ddechrau'r wythnos hon, drwy gyfeirio eto at y golygfeydd ofnadwy a welwn yn y cyfryngau bob dydd. Gwn y bydd gennym gydweithwyr sy'n cael eu heffeithio'n bersonol gan yr hyn y maent yn ei weld ac sydd â ffrindiau a theulu y bydd y rhyfel yn Wcráin yn cael effaith uniongyrchol arnynt.
Mae'r gwrthdaro eisoes wedi arwain at ddadleoli degau o filoedd o bobl o Wcráin o'u cartrefi, ac rwy’n ofni ein bod yn gweld dechrau argyfwng dyngarol ar raddfa nas gwelwyd ers amser hir iawn.
Afraid dweud ein bod i gyd yn cefnogi pobl Wcráin. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl hefyd yn gofyn sut y gallan nhw a'u timau helpu. Ynghyd â Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru, mae'r Cyngor yn gweithio i gyfeirio pobl at y pethau mwyaf effeithiol y gallant eu gwneud.
Gyda llawer o lwybrau logistaidd ar gau a systemau trafnidiaeth o dan bwysau sylweddol, gallai anfon nwyddau corfforol ychwanegu mwy o straen at y sefyllfa. Mae gwneud rhoddion arian parod, i sefydliadau sy'n ymateb i'r argyfwng yn Wcráin yn caniatáu i nwyddau rhyddhad brys gael eu cyrchu'n lleol.
Gall unrhyw un sy'n gallu helpu ystyried gwneud rhodd ariannol i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau. Mae manylion am sut i wneud hynny, ac asiantaethau rhyngwladol eraill sy'n gweithio i gefnogi pobl Wcráin ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Hoffwn hefyd ailadrodd y pwynt a wneuthum yn gynharach yn yr wythnos am y cymorth sydd ar gael drwy Gofal yn Gyntaf i staff yr effeithir arnynt mewn unrhyw ffordd gan y gwrthdaro. Mae yna hefyd gamau ymarferol y gallwn ni i gyd eu cymryd, fel diffodd neu dawelu hysbysiadau appiau newyddion ar ein ffonau, i roi seibiant i ni'n hunain o'r darlledu.
Mewn datblygiad cyffrous yn ein gwaith i weithredu’r Prosiect Sero, rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod y Cyngor heddiw wedi derbyn ein ceir cronfa trydan cyntaf. Bydd rhagor o fanylion am sut y gall staff archebu car yn ogystal â'r effaith fawr yr ydym yn disgwyl iddynt ei chael ar ein hallyriadau carbon yn dilyn ar ôl i’r cerbydau trydan newydd gael eu hintegreiddio i'r fflyd. Am y tro, hoffwn ddiolch i bawb sy'n ein helpu unwaith eto i arwain ar y gwaith o weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn y Fro.
Yn wir, efallai fod rhai ohonoch wedi gweld darllediadau newyddion yr wythnos hon o'n sefydliad yn gwneud hynny ar raddfa fwy fyth. Ynghyd â thîm o gydweithwyr, yn ystod y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn ymwneud â’r cynllun busnes a gynhyrchwyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i brynu Gorsaf Ynni Aberddawan. Er bod llawer i’w wneud o hyd, gallai gorsaf ynni newydd greu miloedd o swyddi gwyrdd yn y Fro. Gyda'r safle wedi'i leoli yn y Fro, mae ein Cyngor wedi bod yn bartner allweddol ac fel y dywedodd y Dirprwy Arweinydd wrth BBC News yr wythnos hon mae ein hymglymiad yn sicrhau y bydd pobl leol hefyd yn cael dweud eu dweud ac y gallwn, gyda'n gilydd, sicrhau bod y math cywir o ddatblygiad yn dilyn.
Yn olaf, hoffwn dynnu sylw pob un ohonoch sy'n gweithio i gefnogi teuluoedd a phlant ifanc at gyfle pwysig iawn i gymryd rhan yn y gwaith o helpu i lunio gwell gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Mae Rhaglen Trawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar am glywed gan weithwyr proffesiynol ynghylch pa rannau o'r system gymorth i deuluoedd sy'n gweithio'n dda gyda'i gilydd a pha feysydd y mae angen eu datblygu ymhellach.
Diolch yn fawr am eich gwaith caled parhaus.
Rob.