Give us your views on provision for families & children

1

Ydych chi'n gweithio gyda theuluoedd â phlant o oed cyn-geni i 7? 

Os ydych, rydyn ni am glywed eich barn.  

Mae’r Bartneriaeth Ddysgu wedi’i chomisiynu gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o Raglen Trawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar i geisio barn gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi teuluoedd a phlant ifanc yn yr ardal i helpu i ddeall pa rannau o'r system gymorth i deuluoedd sy'n gweithio'n dda gyda'i gilydd a pha feysydd y mae angen eu datblygu ymhellach.  

Bydd cwblhau'r arolwg isod hefyd yn helpu i nodi bylchau neu ddyblygu yn y gwasanaethau a ddarperir.

Mae barn a mewnwelediad gweithwyr proffesiynol yn wirioneddol bwysig, oherwydd drwy eich gwaith bydd gennych brofiad a phersbectif sy'n benodol i'r sector.

Mae'r arolwg, y bydd angen tuag 20 munud i'w gwblhau, yn gyfrinachol a bydd unrhyw ymatebion a ddefnyddir at ddiben trafodaeth a datblygiad proffesiynol yn cael eu defnyddio’n ddienw.

Cwblhewch yr arolwg yma