Diwrnod Windrush
22 Mehefin 2022
Rydym yn dathlu Diwrnod Windrush yn y DU bob blwyddyn ar 22 Mehefin. Mae'r diwrnod hwn yn nodi cyrhaeddiad HMT Empire Windrush ar 22 Mehefin 1948. Dengys cofnodion fod y rhan fwyaf o deithwyr wedi rhoi eu gwlad breswyl ddiwethaf fel rhywle yn y Caribî. Y gwledydd preswyl eraill a gofnodwyd oedd India, Pacistan, Kenya a De Affrica. Rydym yn defnyddio'r diwrnod i gydnabod y rhai a gyrhaeddodd ar Empire Windrush, a adwaenir fel Cenhedlaeth Windrush, a phobl o dros 60 o Wledydd y Gymanwlad yn ogystal â'u disgynyddion am y cyfraniadau a wnaethant at helpu Prydain i wella yn sgil yr Ail Ryfel Byd a'r cyfraniad y maent yn parhau i'w wneud at gymdeithas, diwylliant ac economi Prydain."
Hanes Diwrnod Windrush
Fel arfer, rydym yn meddwl am genhedlaeth Windrush fel y rhai a ymfudodd i Brydain rhwng 1948 a 1973. Dechreuodd gyda llong Empire Windrush a gyrhaeddodd Ddociau Tilbury, Essex ar 22 Mehefin ym 1948 gyda thros fil o deithwyr ar y llong.
Yn dilyn colledion sylweddol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ceisiodd Llywodraeth Prydain recriwtio mudwyr Affro-Caribïaidd i weithio yn y diwydiannau dur, glo, haearn a bwyd, ac i redeg trafnidiaeth gyhoeddus. Ymunodd rhai hefyd â'r lluoedd arfog a'r GIG. Nid oedd yn broses hawdd na llyfn ac roedd llawer o fewnfudwyr yn wynebu trais, anoddefgarwch ac allgau o'r bywyd cymdeithasol ac economaidd o'u cwmpas.
Yn ogystal â chydnabod cyfraniad Cenhedlaeth Windrush at ddiwydiannau hanfodol Prydain, mae Diwrnod Windrush hefyd yn dathlu effaith a dylanwad cyfraniad Cenhedlaeth Windrush ar ddiwylliant, y celfyddydau a cherddoriaeth ym Mhrydain.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn sgil Sgandal Windrush fel y'i gelwir, mae rheolau mewnfudo wedi’u tynhau ac mae llawer o ddisgynyddion cenhedlaeth Windrush yn brwydro dros eu hawl i aros ym Mhrydain, tra bod eraill wedi cael eu halltudio'n anghywir, wedi colli eu cartrefi, wedi cael eu gwrthod rhag derbyn gofal meddygol, neu mae eu pasbortau wedi cael eu hatafaelu. Ymgyrchodd Patrick Vernon yn llwyddiannus yn 2018 dros sefydlu diwrnod i gydnabod pwysigrwydd mudwyr Windrush wrth helpu i lunio amrywiaeth ddiwylliannol Prydain. Mae'r canlyniad, Diwrnod Windrush, yn ein galluogi i ddangos ein parch at Genhedlaeth Windrush ac i wrthwynebu ymddygiadau ac agweddau hiliol.
Windrush yng Nghymru
Roedd Prosiect Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, yn brosiect a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar sail pobl a phrofiadau Cenhedlaeth Windrush a sefydlodd fywydau newydd yng Nghymru yn gweithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau megis dociau, gwaith dur, pyllau glo ac ysbytai'r GIG. Mae'r prosiect wedi'i archifo yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Sefydlodd Mrs Roma Taylor The Windrush Cymru Elders yn 2017 fel rhan o Race Council Cymru. Mae'n grŵp rhagweithiol o dros 50 o bobl hŷn sy'n hyrwyddo dealltwriaeth o bryderon ac anghenion pobl hŷn o leiafrifoedd ethnig wrth ddathlu cerrig milltir allweddol a nodi cyfraniadau pobl o dras Affricanaidd. Mae aelodau'r grŵp yn cwrdd bob wythnos yng Nghaerdydd i fwynhau cwmni ei gilydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol ar hyd a lled Cymru. Mae staff Race Council Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn darparu cefnogaeth a chyfleusterau cyfarfodydd.
Nodau’r Windrush Elders Cymru yw:
- Dod â hen bobl o gymunedau amrywiol Cymru ynghyd a meithrin dealltwriaeth yn eu plith
- Hyrwyddo gweithgareddau cymdeithasol hamdden, cydgefnogaeth a chymorth ar y cyd ymhlith ein haelodau
- Sefydlu ymgysylltiad cymunedol â'r Comisiwn Pobl Hŷn a sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector eraill yng Nghymru fel sy'n berthnasol er budd yr aelodau
- Defnyddio celf, dawns, drama a cherddoriaeth i rannu diwylliant a phrofiad
Ewch i'w gwefan Cenhedlaeth Windrush Cymru | Race Council Cymru (RCC) am ragor o wybodaeth.
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn nodi Diwrnod Windrush trwy godi baner Diwrnod Windrush y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig a goleuo twnnel Hood Road yn lliwiau Windrush.
Gallwch helpu i ddatblygu diwylliant gweithle mwy cynhwysol trwy ymuno â Rhwydwaith Amrywiaeth y Staff. Mae Rhwydwaith Amrywiaeth y Staff (y Rhwydwaith Lleiafrifoedd Ethnig gynt) yn hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol.
Mae croeso i'r holl staff ymuno â'r rhwydwaith a chefnogi ei genhadaeth i helpu'r Cyngor i ddod yn gyflogwr o ddewis i bobl o gymunedau amrywiol.
Fel rhan o'r genhadaeth hon, nod y grŵp yw:
- Cael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y gweithle.
- Codi ymwybyddiaeth gyffredinol o'i waith a'i amlygrwydd.
- Darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol.
Mae sefydlu'r rhwydwaith yn gam tuag at ddechrau'r sgwrs am gydraddoldeb hiliol yn y Cyngor mewn ffordd adeiladol ac agored a dangos y gall sgyrsiau anghyfforddus arwain at newid gwirioneddol.
I ymuno, llenwch y ffurflen aelodaeth ar-lein yma.
Byddwch hefyd yn dod o hyd i gyrsiau am amrywiaeth ar iDev.