The Appointment: Mae Tom Bowring yn angerddol dros arloesedd

Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, rhaid i'r Cyngor addasu i fyd sydd wedi newid yn fawr - yn ffodus, mae gan Tom Bowring awydd am arloesedd (a chyrri!).

Tom Bowring appointment 1

Fel pob sefydliad, mae'r Cyngor yn wynebu tirwedd weithio wahanol iawn ar ôl Covid-19, ac mae newidiadau sylfaenol eraill mewn agweddau traddodiadol a dulliau gweithredu hefyd ar droed.

Mae Tom, sydd newydd ei benodi’n Gyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, yn un o'r ffigurau canolog sy'n gyfrifol am bennu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y dyfodol.

O arwain Prosiect Sero, ymrwymiad yr Awdurdod i fod yn garbon niwtral, i lunio'r Cynllun Corfforaethol newydd, mae Tom wrth wraidd peth o waith pwysicaf y Cyngor.

Ond y tu hwnt i'r mentrau proffil uchel hyn, mae Tom hefyd yn angerddol dros sbarduno newid arall – un yn ymwneud â diwylliant y sefydliad.

Mae am gael gwared ar syniadau hen ffasiwn o hierarchaethau proffesiynol ac annog amrywiaeth, gyda'r nod o greu amgylchedd gwaith lle mae pawb yn teimlo'n gyfforddus ac yn cael eu gwerthfawrogi.

Yn gysylltiedig â hyn mae'r gred y dylai pob aelod staff – ac yn wir holl drigolion Bro Morgannwg – gael eu cynnwys yn llawn yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, yn hytrach na chael eu gwneud yn annibynnol gan uwch reolwyr.

Tom Bowring appointment 6

"Rwy'n falch iawn bod ein Tîm Arweinyddiaeth Strategol yn credu bod y mater o gynnwys cydweithwyr mor bwysig. Mae gwir ymrwymiad i'n gwaith ymgysylltu â staff a chreu gweithle lle mae pawb yn teimlo'n gyfforddus i fod yn nhw eu hunain.

"Rwy'n ddiolchgar i Miles (Punter), sydd wedi bod yn uwch Hyrwyddwr LHDT+ dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae ei gefnogaeth i sefydlu'r rhwydwaith GLAM wedi cael ei werthfawrogi'n fawr. Wrth symud ymlaen, byddaf yn ymgymryd â'r rôl fel uwch hyrwyddwr ar gyfer materion LHDT+ ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr GLAM i sbarduno mwy o newid ochr yn ochr â'r rhwydweithiau amrywiaeth eraill ac i greu rhai newydd.

"Rwyf am chwarae fy rhan wrth fynd â ni ymhellach ar y daith rydyn ni wedi cychwyn arni. Rwyf am i bawb sy'n gweithio gyda ni fod yn nhw eu hunain pan fyddan nhw’n dod i'r gwaith. Rwyf am iddyn nhw wneud gwaith gwych a chael yr amodau cywir i wneud hynny.

"Rwy'n credu bod angen i ni weld ein huwch arweinwyr. Rwyf am fod yn gyfarwyddwr gweladwy a hygyrch. Dydw i, na gweddill y tîm rheoli, ddim yn credu mewn hierarchaethau hen ffasiwn.

"Rydyn ni i gyd yma i wneud swyddi gwahanol. Mae'n fater o barchu bod gan bob un ohonom rolau gwahanol, ond eu bod i gyd yn rolau sy’n effeithio ar ei gilydd.  Yr hyn sy'n gwneud ein sefydliad yn lle mor dda i weithio ynddo yw ein bod yn gweithio gyda'n gilydd fel tîm cyfan.

Tom Bowring appointment 7

"Mae'r gwaith ymgysylltu â staff a wnawn yn bwysig iawn. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Tracy (Dickinson) a'r tîm i ddatblygu rhaglen lles ac ymgysylltu fydd hyd yn oed yn fwy cyfoethog na’r un bresennol.

"Mae angen i ni fod yn agored i wahanol safbwyntiau a gwahanol syniadau.  Does dim rhaid i ni i gyd gytuno ar bopeth ond mae cael y drafodaeth iach ac adeiladol honno'n bwysig iawn."

Dechreuodd Tom ar ei swydd newydd ym mis Ebrill yn dilyn ad-drefnu strwythur yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth lle cafodd Marcus Goldsworthy hefyd ei benodi'n Gyfarwyddwr Lleoedd.

Mae'r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol yn gyfrifol am reoli arian a pherfformiad y Cyngor, am ddarparu'r holl wasanaethau cymorth proffesiynol ac am hyrwyddo gwasanaeth cwsmeriaid.

Bydd Tom hefyd yn arwain ar ddyrannu a blaenoriaethu adnoddau drwy'r broses flynyddol o bennu cyllidebau, gan ymdrechu i sicrhau gwerth am arian a gwelliant parhaus.

Dyma'r cam diweddaraf ar yr ysgol yrfa mae wedi ei dringo’n gyflym ers iddo ymuno â'r Cyngor yn 2005.

Yn wreiddiol, swyddog Cymorth Rhaglenni yn gweithio ar gyflwyno Oracle, cyflogres newydd, systemau Caffael a chysylltiadau cwsmeriaid oedd Tom, cyn dod yn Arweinydd Tîm Ailbeiriannu  Prosesau Busnes (APB) ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ar ôl cyfnod yn gweithio i sefydlu'r ganolfan gyswllt.

Tom Bowring appointment 3

Dilynodd cyfnod oedd yn ffocysu ar Refeniw a Budd-daliadau a Rhaglen Gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol cyn iddo lanio rôl yn rheoli APB, caffael ac yswiriant.

Bryd hynny, dilynodd Tom gwrs gyda Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA), gan gymhwyso drwy arholiad ac ennill cyfres o wobrau ar ôl ennill marciau uchaf y flwyddyn yn nifer o'i bapurau.

Penodwyd Tom yn Rheolwr Gweithredol ar gyfer Polisi a Pherfformiad yn 2015 ac yn Bennaeth Polisi a Thrawsnewid Busnes bedair blynedd yn ddiweddarach.

"Pan ddechreuais gyda'r Cyngor, roedden ni'n gwneud newid mawr i bobl, roedd popeth o'r brig i lawr," meddai. "Dyna un peth rydyn ni wir wedi cefnu arno.  Cynnwys pobl yn y broses yw'r dull gweithredu nawr ac mae hynny’n ganolog i Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau, boed hynny gyda'n cydweithwyr neu gyda dinasyddion.

"Cyn dod yn Rheolwr Gweithredol, roeddwn yn gweithio ar Ail-lunio Gwasanaethau ac yn edrych ar ffyrdd y gallai'r sefydliad drawsnewid yn fewnol, ond yng nghyd-destun gostyngiadau enfawr yn y cyllid sydd ar gael.

"Yna symudais o'r maes cyllid i’r maes newid a gweithio i ddatblygu'r Cynllun Corfforaethol a'r trefniadau perfformiad a aeth gydag ef. Roeddem am symud oddi wrth seilos Cynlluniau Cyfarwyddiaethau i gynllun mwy trawsbynciol gyda ffocws ar les.

Tom Bowring appointment 4

"Gweithiais gyda chydweithwyr i ystyried sut i newid y sgwrs ynghylch ail-lunio i gynnwys ail-lunio ein gwasanaethau ond hefyd ail-lunio ein gweithlu, cyflwyno'r Sgwrs Fawr, yr enghraifft gyntaf o'n prif waith ymgysylltu â staff.

"Roedd gen i ddiddordeb mawr yn y ffordd rydyn ni'n pennu polisi a strategaeth gorfforaethol a sut rydyn ni'n gweithio ochr yn ochr â'n gwleidyddion. Hefyd, sylweddolais mor bwysig yw hi bod diwylliant y sefydliad yn iawn a bod pobl yn teimlo y gallan nhw ddod i'r gwaith a bod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain. Rhaid i ni gael dulliau ar waith i helpu pobl i wneud hynny.

"Mae hon yn swydd newydd sbon felly nid yw'n un y mae'r Cyngor wedi'i chael o'r blaen ac mae’n bosibl oherwydd bod gennym bobl ragorol yn arwain ein gwasanaethau corfforaethol.

"Mae'r gwaith yn ymwneud â dod â'r gwasanaethau craidd corfforaethol rhagorol at ei gilydd mewn ffordd drawsnewidiol fel ein bod yn parhau i fod yn sefydliad sy'n perfformio'n dda."

Cwblhaodd Tom gwrs gradd mewn Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Brighton oedd hefyd yn cynnwys blwyddyn mewn diwydiant, yn gweithio i Sun Microsystems, cwmni sy'n gwneud offer a meddalwedd TG.

Roedd yn rhan o'u Tîm Marchnata Byd-eang yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Asia, ac roedd yn rhannu ei amser rhwng campws modern ar ffurf Google yn Basingstoke a swyddfa ym=n London Bridge.

Ar ôl cwblhau ei radd, cofrestrodd Tom, sy'n hoff iawn o fwyd, ar gynllun masnachu i raddedigion gydag Asda lle bu’n hyfforddi yn Leeds cyn dychwelyd i Dde Cymru.

Ond er bod y brodor o Benarth yn mwynhau bwyta allan, doedd bod yn gyfrifol am y cownter cig a deli mewn archfarchnad ddim yn rhoi’r un wefr.

“I very much like food. I like trying new and interesting restaurants and I like trying food from different parts of the world. But when I was exhausted from working a 70-hour week and my hands were freezing from stacking bacon in a fridge one Saturday night, I thought I can’t do this forever. I want to go into something else,” smiled Tom.

Tom Bowring appointment 2

"Rwy'n hoff iawn o fwyd. Rwy'n hoffi mynd i fwytai newydd a diddorol ac rwy'n hoffi blasu bwyd o wahanol rannau o'r byd. Ond pan oeddwn wedi blino ar ôl gweithio wythnos 70 awr a fy nwylo'n rhewllyd ar ôl symud llwyth o gig moch i oergell un nos Sadwrn, dyma benderfynu na allwn i wneud hyn am byth. Ac fy mod am roi cynnig ar rywbeth arall," dywed Tom.

"Roedd yr ochr fasnachu’n hwyl, ond doedd o ddim yn gweddu gyda fy uchelgeisiau ac roeddwn i’n gweld eisiau’r gwaith cynllunio prosiectau oedd yn rhan o’r gwaith gyda Sun. Roeddwn i wir wedi mwynhau gwaith prosiect, felly fe wnes i gais i ymuno â'r Cyngor."

Y tu allan i'r swyddfa, Tom yw ysgrifennydd CIPFA Cymru, yn gweithio gyda Llywydd Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno digwyddiadau i'w aelodau.

Mae hefyd yn rhedwr brwd, yn gofalu'n rheolaidd am gi o'r enw Milo ac yn coginio llawer, yn aml gyda'i neiaint.

Mae Tom wedi bod i lawer o fwytai ledled y byd, er bod rhai ohonyn nhw’n gofiadwy am resymau rhyfedd!

"Ar fore Sadwrn, rwyf wrth fy modd yn mynd â fy neiaint am grempogau yn Aberhonddu, ac wedn rydyn ni’n mynd am dro ac yn bwydo'r hwyaid ar y gamlas ar y promenâd.

Tom Bowring appointment 5

"Mae'r hynaf yn hoffi mynd i'r farchnad i brynu bwyd rydyn ni wedyn yn ei goginio gyda'n gilydd.

"Fy mhrofiad coginio gwaethaf oedd bwyta gŵydd y môr yn Sbaen, ond dim ond am fod fy ffrind a minnau wedi bwyta'r pen anghywir. Roedd yn erchyll!

"Mae'n debyg mai'r bwyd gorau rwyf wedi'i gael y tu allan i'r DU oedd yng nghanol Marrakesh. Un noson yn y sgwâr yn y medina. A bwyta detholiad anhygoel o fwydydd Morocaidd gan werthwyr bwyd stryd."

Gyda rhan allweddol i'w chwarae yng nghynlluniau'r Cyngor mewn nifer o feysydd, mae gan Tom yn sicr ddigon ar ei blât.

Ac mae wrth ei fodd gyda hynny.

Gellir cyflwyno sylwadau a chwestiynau ar gyfer digwyddiad Holi ac Ateb gyda Tom fydd yn cael ei gynnal am 1pm ar ddydd Mawrth 14 Mehefin.

Submissions can be made for a Question Time event with Tom that is being held at 1pm on Tuesday, June14.