Ymunwch â Thîm y Maer yn 10k Ynys y Barri 2022
Mae gan y Cyngor 10 lle am ddim ar 'Tîm y Maer' ar gyfer 10k Ynys y Barri eleni.
Bydd ras 10k Ynys y Barri ABP yn dychwelyd yn 2022 Ddydd Sadwrn 07 Awst.
Yn enwog am ei llwybr amrywiol llawn golygfeydd, cefnogaeth ddi-guro’r dorf ac awyrgylch braf, mae'r ras 10K a ddarperir gan Run 4 Wales, yn arddangos mannau glan môr mwyaf deniadol y dref a’i thirnodau adnabyddus, gan gynnwys Bae Whitmore, y Cnap, Parc Romilly a Bae’r Tŵr Gwylio.
Bydd Tîm y Maer yn rhedeg i godi arian ar gyfer elusen y Maer. Os hoffech ymuno â Thîm y Maer, anfonwch e-bost at David Knevett erbyn 08 Gorffennaf a nodwch y llinell pwnc yn glir, 'Tîm y Maer'.
Mae cyfleoedd gwirfoddoli hefyd yn y digwyddiad eleni. Os oes diddordeb gwirfoddoli gennych, e-bostiwch David Knevett a nodwch y llinell pwnc yn glir, 'Gwirfoddolwr 10k y Barri'.