Mae Haf o Hwyl yn ôl ar gyfer 2022

Summer Of Fun Logo

Ar ôl bod yn boblogaidd mewn blynyddoedd blaenorol, mae tîm Chwaraeon a Chwarae'r Cyngor wedi gweithio gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y Fro a sefydliadau cymunedol amrywiol i gydlynu amserlen haf llawn hwyl, yn llawn gweithgareddau am ddim i bobl ifanc ledled y Fro.

Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru a'i nod yw cefnogi lles plant a phobl ifanc i barhau i adfer yn sgil y cyfyngiadau Covid dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda'r fantais ychwanegol o gefnogi teuluoedd gyda chostau gweithgareddau dros wyliau'r haf.

Bydd Yr Haf o Hwyl yn rhedeg o 01 Gorffennaf i 30 Medi, ac yn cynnig dros gant o weithgareddau am ddim, sy'n addas i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed.

Mae rhai o'r gweithgareddau'n cynnwys hela ffosiliau, saethyddiaeth, dosbarthiadau dawnsio a gweithdai radio. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnig gweithgareddau cynhwysol i blant ag anghenion ychwanegol, megis sesiynau fflotiau dŵr a theganau.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a manylion archebu ar y dudalen Haf o Hwyl.

Haf o Hwyl

Bydd yr amserlen yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda gweithgareddau newydd, cyffrous, felly cofiwch wirio!