Yr Wythnos gyda Rob

24 Mehefin 2022

Annwyl gydweithwyr,

Mae llawer iawn i'w drafod yr wythnos hon, ond dydw i ddim am ymddiheuro bod y neges hon yn hirach nag arfer - mae cymaint o waith da yn digwydd ac mae'n bwysig ei fod yn cael ei rannu.

Hoffwn ddechrau gyda diweddariad pwysig iawn ar y newyddion a rannais ychydig wythnosau'n ôl y byddai'r Cyngor yn cynyddu'r gyfradd cyflog fesul awr ar gyfer staff ar raddau 1 a 2 cyn gynted â phosibl.

Gallaf gadarnhau nawr y bydd y gyfradd newydd o £9.90 yr awr yn cael ei thalu o 1 Gorffennaf 2022. Mae'r gyfradd hon yn cyfateb i'r Cyflog Byw Gwirioneddol a gydnabyddir yn genedlaethol ac a bennir gan y Sefydliad Cyflog Byw. Mae cyfraddau hefyd yn cael eu cynyddu ar gyfer ein gweithwyr asiantaeth.  Rydym bellach yn y broses o ysgrifennu at yr holl staff sy'n derbyn y cynnydd a hoffwn ddiolch i bawb sy'n helpu i wneud i hyn ddigwydd mor gyflym.

Levelling up bid - Barry waterfront

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydw i wedi bod yn lwcus i weld rhywfaint o'n gwaith gwych gyda’m llygaid fy hun. Ddoe bûm yng Nglannau'r Barri ar gyfer lansiad cais y Cyngor am £20m o Gyllid Codi’r Gwastad gan Lywodraeth y DU. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae cydweithwyr wedi bod yn gweithio'n galed i baratoi cais uchelgeisiol ar gyfer y Fro.  Mae'r cynigion, y cytunwyd arnynt gan y Cabinet brynhawn Iau, bellach ar gael i'w gweld ar-lein a bydd cydweithwyr o'n tîm Adfywio yn llyfrgell y Barri yr wythnos nesaf i siarad â thrigolion am y cais cyn iddo gael ei gwblhau. Diolch i bawb a fu'n gweithio ar y Cais, dan arweiniad ein tîm Adfywio a gyda chefnogaeth cydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor.  Rwy'n gwybod faint o waith caled a wnaed i gwblhau'r cais a phapurau'r cabinet – da iawn bawb.

Electoral Registration team presentation

Yn gynharach yn yr wythnos ymunais â chydweithwyr o'r tîm Cofrestru Etholiadol i gyflwyno gwobrau ar gyfer ymgyrch cofrestru i bleidleisio ddiweddar. Gyda phobl ifanc 16 a 17 oed bellach yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau Cymru, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl ifanc yn cael lle ar y gofrestr etholiadol. Roedd yn wych cwrdd â phobl ifanc a oedd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth leol.  Dywedodd un wrthyf ei bod wedi rhyfeddu pan ddaeth y llythyr drwy'r drws gan ei bod wedi bod yn ystyried prynu iPad y noson gynt. Cyd-ddigwyddiad hapus iawn, ac un a sbardunwyd gan ein cydweithwyr yn y tîm Cofrestru Etholiadol a Chyfathrebu a redodd yr ymgyrch. Diolch bawb.

Windrush day - Civic Flag

Ddydd Mercher, cefais chwarae rhan yng ngwaith y Cyngor i nodi Diwrnod Windrush. Nodwyd y dathliad eleni drwy godi baner Diwrnod Windrush y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig a goleuo twnnel Hood Road yn lliwiau Windrush. Roedd yn ddatganiad pwysig wrth gydnabod cyfraniad y genhedlaeth Windrush i fywyd modern yn y DU yn ogystal â dangos ein hymrwymiad i ddatblygu gweithle mwy cynhwysol. Mae hyn yn rhywbeth y gall pob aelod o staff ei gefnogi drwy ymuno â'r Rhwydwaith Staff Amrywiol.

Big fresh free school meals

Gwnaeth hyn gyd-daro â lansiad cynnig prydau ysgol am ddim estynedig yn y Fro gan ein cydweithwyr yn y tîm Dysgu a Sgiliau a Big Fresh. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Llun y bydd disgyblion Derbyn yn cael prydau ysgol yn ddi-dâl o fis Medi ymlaen, gyda disgyblion yn y ddau grŵp blwyddyn nesaf yn ymuno â nhw ym mis Ebrill.  Rwy'n falch iawn y byddwn ni yma yn y Fro yn cyflwyno hyn yn gyflymach o lawer, gyda phob un o'r tri grŵp blwyddyn yn cael cynnig prydau ysgol am ddim o ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd. Dim ond un awdurdod lleol arall yng Nghymru sy'n gallu gwneud yr un peth, ac ni fyddai’n bosibl heb lwyddiant y fenter Big Fresh, a fydd bellach yn gallu cynnig mwy o oriau i staff a chreu nifer o swyddi newydd.

Mae wedi bod yn gyfnod mawr i'r tîm Big Fresh, a berfformiad yn wych hefyd yn her arlwyo 'Bwytewch y Llysiau i’w Llethu' 2022. Yn yr her, gwnaeth timau arlwyo ysgolion o bob rhan o'r wlad greu detholiad o brydau ar gyfer pob wythnos o'r gystadleuaeth.

Hoffwn ganmol Tracey Smart, Rheolwr Cegin yn Ysgol Gynradd Palmerston, a gafodd ei chynnwys yn Rhestr Anfarwolion y gystadleuaeth. Cynorthwywyd Tracey yn fedrus iawn gan Shirley Curnick, Cynorthwy-ydd Arlwyo yn yr ysgol, a gyda'i gilydd derbyniasant wobr o £100 a thystysgrif i gydnabod eu cyflawniad.  Da iawn i'r ddwy ohonoch. 

Tlodi bwyd yw un o'r heriau mwyaf y mae ein cymunedau'n eu hwynebu.  Rwy’n falch o ddweud ei fod hefyd yn faes lle mae cydweithwyr fel y rhai yn Big Fresh, yn ogystal â chynlluniau fel Bocs Bwyd Mawr yn ein hysgolion, yn gwneud pethau anhygoel. Cynllun arall i'w ychwanegu at y rhestr hon yw partneriaeth Bwyd y Fro: partneriaeth o unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau ymroddedig sy'n cydweithio gyda’i gilydd. Dyfarnwyd statws Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Efydd i Fro Morgannwg, gan ddod dim ond yr ail le yng Nghymru i ennill y wobr fawreddog.

Sustainable food places bronze award

Mae'r wobr yn cydnabod gwaith arloesol wrth hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy. Roedd cyflwyniad y Fro ar gyfer y wobr yn canolbwyntio ar y Cynllun Gweithredu Bwyd Cynaliadwy, cynllun her newid hinsawdd y Cyngor ei hun - Prosiect Sero, a phartneriaeth Mynediad Bwyd arloesol yn Llanilltud Fawr. Mae’r wobr yn enghraifft arall o'r ffordd y mae'r Fro yn arwain y ffordd, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, o ran sut yr ydym yn mynd i'r afael â rhai o'r materion mwyaf y mae ein cymunedau yn eu hwynebu.

Mae bob amser yn braf gallu rhannu'r adborth cadarnhaol a gaf ar ein gwaith ac mae gennyf ddwy enghraifft wych yr wythnos hon.

Ysgrifennodd preswylydd o Benarth ataf yn uniongyrchol i ganmol "proffesiynoldeb, dealltwriaeth a gwybodaeth" Ali Saeed yn ein tîm Rheoli Adeiladau.  Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Ali sydd yn amlwg wedi creu argraff ragorol ar y preswylydd hwn a dangos iddo bopeth sy'n dda am y Fro.

Cefais ganmoliaeth wych hefyd am Gwyn Nelson sy'n arwain gwaith Canolfan Monitro Arfordirol Cymru, sydd wedi'i lleoli yma yn y Fro. Yn ddiweddar bu Gwyn yn gweithio gyda disgyblion o nifer o ysgolion yn y Barri. Anfonodd pennaeth Ysgol Gynradd Ynys y Barri, Matt Gilbert, e-bost ataf wedyn i ddweud bod "Gwyn a'i dîm wedi defnyddio eu gwybodaeth a'u cyngor arbenigol i gefnogi cynlluniau gwersi gydag athrawon Blwyddyn 6 yr ysgol. Yn goron ar y prosiect gwych hwn, mae plant nawr yn brolio eu sgiliau newydd fel rhan o arddangosfa i rieni."

Barry Island School Video

Rwyf ar ddeall fod ysgolion bwydo Whitmore eisiau diolch yn fawr iawn i Gwyn a'i dîm am eu holl waith caled. Hoffwn ailadrodd y neges honno. Gallwch weld mwy o sut mae'r Cyngor yn cefnogi addysg disgyblion gyda phrofiadau dysgu bywyd go iawn trwy Brosiect Sero yn y fideo hwn o Ysgol Gynradd Ynys y Barri a grëwyd gan Nia Hicks, athro Blwyddyn 6. 

Youth Work Week

Y dydd Iau hwn oedd dechrau’r wythnos Gwaith Ieuenctid. Mae gennym Wasanaeth Ieuenctid ffyniannus yma yn y Fro, sy'n cefnogi pobl ifanc ledled y sir o 11-25 oed.  Mae eu gwaith yn cynnwys gwasanaethau sy'n agored i bawb fel clybiau ieuenctid a chlybiau ar ôl ysgol, a chymorth targedig i'r rhai sydd ei angen fwyaf, gan ganolbwyntio'n aml ar les, digartrefedd a'r bobl ifanc hynny nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth. Mae'r gwasanaeth yn un o'n hesiamplau gorau o weithio mewn partneriaeth - gyda chydweithwyr mewnol ac allanol. Mae gan y staff gymwysterau proffesiynol ac, yn bwysicaf oll, maent yn angerddol iawn am yr hyn y maent yn ei wneud.

Mae eu gwaith yn ystod y pandemig wedi cael ei gydnabod drwy enwebiadau a gwobrau,  gan gynnwys Nod Ansawdd Efydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru sydd wedi gweld eu gwaith yn cael ei gynnwys fel astudiaeth achos arfer da i wasanaethau ieuenctid eraill ledled Cymru.

Mae cynnig mwy o gyfleoedd i fwy o bobl gymryd rhan mewn penderfyniadau yn un o'n prif flaenoriaethau fel Cyngor ac mae'r Gwasanaeth Ieuenctid wrth wraidd y gwaith hwn.  Yn 2021 dyfarnwyd y Siarter Safonau Cyfranogiad i'r tîm ac ar hyn o bryd maent yn chwarae rhan allweddol yn y rhwydwaith mewnol o swyddogion a fydd yn cyflawni ein hymrwymiadau yn y Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd.

Yn ystod yr Wythnos Gwaith Ieuenctid, bydd gweithgareddau ychwanegol yn cael eu cynnal mewn ysgolion gan y Tîm Lles Ieuenctid ac mewn clybiau ieuenctid fel rhan o gynnig y Tîm Cyffredinol. Dilynwch eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol - Instagram, Facebook a Twitter – i gael gwybod mwy.

Mae yna hefyd ambell i ben-blwydd nodedig yr hoffwn sôn amdano. 

Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant

Dathlodd Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant yn y Barri ei phen-blwydd yn 25 oed yn ddiweddar, er bod hynny flwyddyn yn hwyrach na'r disgwyl. Cynhaliwyd wythnos o ddathliadau a oedd yn cynnwys Eisteddfod, taith ysgol gyfan i Fferm Folly a pharti i’r disgyblion.

Sefydlwyd yr ysgol ym 1996 i gefnogi galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn y Barri.  Wedi'i lleoli mewn caban symudol wrth ymyl Ysgol Sant Curig i ddechrau, daeth yr ysgol o hyd i gartref parhaol yn Gibbonsdown, ger Ysgol Gynradd Oak Field.  Mae bellach yn gwasanaethu 250 o ddisgyblion.

Dywedodd y pennaeth, Rhydian Lloyd, wrthyf yr wythnos hon pa mor falch ydyw o fod yn rhan o dîm gweithgar iawn sy'n darparu addysg ragorol tra hefyd yn paratoi eu disgyblion am ddyfodol dwyieithog. Da iawn Rhydian - rydym i gyd yn falch o'ch cael chi’n rhan o Dîm y Fro.

Mae gwaith Rhydian a'i gydweithwyr i gefnogi plant i ddysgu mewn iaith nad yw llawer ohonynt yn siarad gartref yn cymryd sgil. Mae gwella'r cymorth a gynigiwn i ddisgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn flaenoriaeth i'r Cyngor.  Mae llawer o'n cydweithwyr wrthi’n datblygu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) y Cyngor ac rwy'n falch eu bod yn cael llwyddiant mawr drwy weithio ochr yn ochr â'r timau mewn ysgolion fel Gwaun y Nant a'r Ganolfan Gymraeg a agorwyd yn ddiweddar yn y Barri. 

Oakfield Primary School

O ran hybu’r Gymraeg, roeddwn hefyd wrth fy modd o glywed yr wythnos hon fod ysgol Oakfield yn y Barri wedi ennill y wobr Aur am y Siarter Iaith Gymraeg – Gwobr Aur Cymraeg Campus.  Mae hwn yn gyflawniad gwych ac Oakfield yw'r ysgol gyntaf yn y Fro i ennill y wobr, ac un o ychydig iawn ar draws De Cymru.   Da iawn i'r tîm yn Oakfield – newyddion gwych!

Diane Williams

Yn fy ngyrfa, rydw i wedi bod yn ffodus i weithio ochr yn ochr â llawer o gydweithwyr sydd wedi rhoi eu bywyd gwaith cyfan i wasanaeth cyhoeddus, a bydd ein tîm llyfrgelloedd heddiw yn ffarwelio â chydweithiwr arbennig iawn, Diane Williams. Bydd Diane yn ymddeol o lyfrgell Penarth, dim ond ychydig fisoedd yn fyr o 50 mlynedd o wasanaeth llyfrgell ymroddedig. Ar ôl gweithio mewn llyfrgelloedd ledled Caerdydd a'r Fro ers 1972 rwy'n siŵr bod gwaith Diane wedi dod â gwybodaeth a llawenydd i drigolion di-rif.  Mae ein llyfrgelloedd yn gwasanaethu ystod eang o bobl, o bob oed, a bydd ei gwaith wedi cyffwrdd â chymaint o fywydau.  Diane, ar ran holl Gyngor Bro Morgannwg a phawb rydych chi wedi'u helpu dros y blynyddoedd, hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn. Mwynhewch eich ymddeoliad - mae'n ddi-os yn haeddiannol iawn. 

Green Waste Collections

Mae un diolch arall gennyf i’w wneud yr wythnos hon. Rydw i wedi ysgrifennu sawl gwaith yn ystod y misoedd diwethaf am y cyfnod heriol iawn y mae ein timau gwastraff ac ailgylchu yn ei wynebu oherwydd y prinder cenedlaethol o yrwyr HGV. Diolch i ddull arloesol o recriwtio ac, yn bwysicaf oll, ymdrech aruthrol gan y criwiau a'r timau cymorth, mae cynnydd cyson wedi'i wneud drwy'r ôl-groniadau ac mae’r gwasanaeth casglu normal bellach wedi ailddechrau. Gwaith da bawb. 

Armed Forces Day 2022

Ac yn olaf hoffwn dynnu'ch sylw at seremoni'r Cyngor i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn. Am 12pm y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig, bydd Maer Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Susan Lloyd Selby, yn ymuno â mi, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett, y Dirprwy Arglwydd Raglaw, a chynrychiolwyr o'r Lluoedd Arfog ac urddasolion eraill ar gyfer seremoni fer i godi baner. Mae croeso i'r holl staff ac aelodau o'r cyhoedd ddod. Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos ein cefnogaeth i'r dynion a'r menywod sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog. 

Diolch i chi i gyd, fel bob amser, am eich gwaith yr wythnos hon.  Am y pythefnos nesaf byddaf yn eich gadael yn nwylo dau o'm cydweithwyr ar yr Uwch Dîm Arwain. Mae’n siŵr y bydd ganddynt lu o enghreifftiau o'n cydweithio gwych i'w rhannu.

Diolch yn fawr bawb.

Rob.