Staffnet+ >
Sesiynau Lles Newydd i Gyd-fynd ag Wythnos Lles y Byd
Sesiynau Lles Newydd i Gyd-fynd ag Wythnos Lles y Byd
Fel rhan o Wythnos Lles y Byd, sy’n para o 27 Mehefin tan 1 Gorffennaf, mae Cyngor Bro Morgannwg am achub ar y cyfle i'ch annog i gymryd rhan yn ein gweithgareddau lles rheolaidd.
Cynhelir sesiynau lles o leiaf unwaith bob chwe wythnos naill ai ym Mhorthceri neu Cosmeston a chaiff staff eu hannog i ymuno mewn gweithgareddau ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol y mae mawr ei angen.
Bydd y sesiwn nesaf yn Cosmeston ar 7 Gorffennaf rhwng 10am a 12pm, lle bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael, gan ddibynnu ar y tywydd, i ni helpu gyda'r gwaith o glirio llwybrau, casglu sbwriel a phaentio.
Mae Wythnos Lles y Byd yn dathlu pedair blynedd ers ei sefydlu ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ledled y byd ddathlu'r agweddau niferus ar les, o waith ystyrlon, pwrpasol i iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol.
Mae croeso i chi rannu eich gweithgareddau trwy gydol yr wythnos ar gyfryngau cymdeithasol – a chynnwys yr hashnod #wythnosllesybyd
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r sesiynau, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw un o'r gweithgareddau lles, cysylltwch â ni trwy e-bost.
Gallwch hefyd ddefnyddio'r dolenni canlynol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau swyddogol Wythnos Lles y Byd eleni ar Facebook.