Gostyngiad corfforaethol nawr ar gael yng nghanolfannau hamdden y Fro 

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd gostyngiad aelodaeth gorfforaethol ar gael yn awr i holl staff cyngor y Fro mewn canolfannau Hamdden Legacy. 

Bydd aelodaeth gorfforaethol yn cynnwys:  

  • Mynediad i'r gampfa, gan gynnwys ymgynghori ar ffitrwydd a rhaglen bersonol 6 wythnos 
  • Nofio
  • Mynediad i'n campfa Hammer Strength
  • Mynediad i'n hardal swyddogaethol awyr agored NEWYDD (sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd) 
  • Dosbarthiadau ymarfer corff grŵp 
  • Cyrtiau Badminton a Sboncen (tu allan i oriau brig)

Mae aelodau'n elwa drwy ein ap gyda gostyngiadau i fanwerthwyr amrywiol 

Bydd yr aelodaeth yn darparu mynediad i gyfleusterau yng Nghanolfannau Hamdden Penarth, Llanilltud Fawr, a’r Bont-faen. Mae hyn yn cynnwys Ystafelloedd Iechyd yng Nghanolfannau Hamdden Penarth a'r Bont-faen.  

Mae hwn yn gontract hyblyg gyda gofyniad am fis o rybudd o ganslo, am bris o £33.50 y mis.