Diwrnod y Lluoedd Arfog
25 Mehefin 2022
Ar dydd Sadwrn 25 Mehefin am 12pm, bydd Maer Cyngor Bro Morgannwg, Susan Lloyd Selby, yn ymuno â’r Dirprwy Arglwydd Raglaw, Arweinydd, Lis Burnett, cynrychiolwyr o’r Lluoedd Arfog ac urddasolion eraill am wasanaeth byr codi baner y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig i ddangos eu cefnogaeth i'r Lluoedd Arfog.
Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos ein cefnogaeth i'r dynion a'r menywod sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog: mae hyn yn cynnwys milwyr sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, teuluoedd y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a chadetiaid.
Mae dangos cefnogaeth i’r Lluoedd Arfog yn fodd i godi calon y milwyr a'u teuluoedd.
Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y maent yn ei wneud gartref a ledled y byd drwy ymweld â safleoedd swyddogol y Y Llynges Frenhinol, Byddin Prydain a’rLlu Awyr Brenhinol.