Yr Wythnos gyda Tom Bowring
Annwyl Gydweithwyr,
Gyda Rob ar ei ail wythnos o bythefnos o wyliau haf haeddiannol, rwy'n falch iawn o gael y cyfle i ysgrifennu'r neges hon ac rwy'n gobeithio eich bod wedi cael wythnos dda.

Yr wythnos diwethaf, soniodd Lance am rai o'r camau pwysig yr ydym ni fel Cyngor yn eu cymryd i gefnogi ein cydweithwyr gyda'r costau byw cynyddol drwy godi cyflogau ar gyfer cydweithwyr gradd un a dau i'r gyfradd cyflog byw gwirioneddol. Fel Tîm Arweinyddiaeth Strategol, rydym wedi bod yn trafod yr effaith y mae'r pwysau hyn yn ei chael ar lawer o'n cydweithwyr ac rydym wedi ymrwymo i wneud mwy i gefnogi pobl.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad ar dîm prosiect Costau Byw i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i ddinasyddion a chydweithwyr. Efallai eich bod wedi sylwi ar y faner costau byw sydd wedi'i ychwanegu at dudalen flaen ein gwefan sy'n rhoi mynediad i'n trigolion at wybodaeth am y gwasanaethau a’r cyngor y gallant eu cyrchu. O'r wythnos hon hefyd, mae mwy o wybodaeth i gydweithwyr ar Staffnet+ ar Gostau Byw a Lles. Gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol a byddwn yn ychwanegu ati yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer pethau eraill y gallem eu cynnwys, byddwn wrth fy modd yn clywed gennych.
Mae’r dull o ddod â phobl ynghyd o bob rhan o'r Cyngor i fynd i'r afael â mater drwy gydweithio yn un o'r pethau mwyaf pwysig rwyf wedi’i ddysgu o'r Coronafeirws – dyma pryd mae Tîm y Fro yn gweithio ar ei orau.

Rydym i gyd wedi gweld pwysigrwydd gofalu am ein lles dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf hefyd. Roedd yn wych clywed gan Sian Clemett-Davies yr wythnos hon am ddigwyddiad a gynhaliwyd gan ein Hyrwyddwyr Lles yn y Pod Bwyd ym Mhenarth yn ddiweddar. Mae’r Hyrwyddwyr Lles yn grŵp arall o bobl sy'n dod at ei gilydd i ddelio â mater penodol. Yn eu hachos nhw, y mater yw gwella cyfleoedd lles i bob cydweithiwr. Dywedodd Sian "Dyma'r tro cyntaf i Hyrwyddwyr a staff weithio ochr yn ochr â'r gymuned mewn gweithgaredd lles ac roedd yn brofiad boddhaol i bawb a gymerodd ran.
"Rydym eisoes yn gwybod y gall bod yn yr awyr agored a gweithio ym myd natur wella ein lles, ond pan fyddwn yn rhoi yn ôl ac yn helpu ein cymuned mae'r buddion yn ddeg gwaith yn fwy". Rwyf wedi clywed adborth rhagorol gan y rhai a oedd yno ar y diwrnod a hoffwn longyfarch y tîm cyfan am eu hymdrechion – ar y prosiect hwn a'r rhaglen ehangach o weithgareddau lles y maent yn gweithio mor galed i'w rhoi ar waith i gydweithwyr.

Lansiwyd yr Arolwg Staff yr wythnos diwethaf ac mae bron i 500 o gydweithwyr eisoes wedi rhannu eu barn ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys lles, trefniadau gweithio, costau byw a Phrosiect Sero. Os nad ydych wedi cael cyfle eto i gwblhau'r arolwg, cymerwch ychydig funudau i rannu eich barn. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth o'r arolwg i lunio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, er enghraifft, sut rydym yn defnyddio ein swyddfeydd. Mae eich barn wir yn cyfrif.
Enghraifft arall o Dîm y Fro ar waith yw cymorth ein timau i ymgartrefu ffoaduriaid o Wcráin yn ddiogel ym Mro Morgannwg. Gwn fod llawer iawn o gydweithwyr ar draws ein gwasanaethau yn ymwneud â'r dasg hynod bwysig hon ac yn mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau yn eu hymdrechion.
Cefais e-bost yn ddiweddar gan fy nghydweithiwr Richard Taylor yn y tîm Rheoli Incwm sydd, ynghyd â chydweithwyr eraill, wedi bod yn gwneud taliadau i deuluoedd o Wcráin. Dywedodd Richard "Mae'r ymateb gan y teuluoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae hyn wedi gwneud y dasg yn werth chweil i gydweithwyr a minnau.
"Mae'n amlwg bod rhai o'r teuluoedd wedi bod mewn amgylchiadau eithaf trawmatig ond maen nhw wedi cael croeso cynnes. Mae fy sgiliau iaith Wcreineg ond yn ymestyn i 'Dobroho ranku' ('Bore da') a 'Dobry den' ('Prynhawn da') ond mae'r teuluoedd wedi gwerthfawrogi fy ymdrechion a dywedwyd wrthyf fod fy ynganiad o enwau/cyfenwau wedi bod yn eithaf da ar y cyfan!"
Rydym hefyd wedi cael adborth hyfryd yr wythnos hon gan un o lywodraethwyr ein hysgolion am y cymorth sy'n cael ei gynnig gan y Cyngor. "Roeddwn i eisiau dweud bod yr adran Derbyn i Ysgolion, ac yn enwedig Rhiannon (Jones), wedi bod yn gymwynasgar ac yn gefnogol wrth ddod o hyd i le i'n gwestai 11 oed o Wcráin. Yn wir, mae'r arweiniad a'r cymorth gan holl adrannau'r Cyngor wedi bod yn ddi-fai. Dechreuodd ein gwestai mewn ysgol leol yr wythnos diwethaf ac mae'r ysgol hefyd wedi bod yn anghredadwy o groesawgar. Mae wedi ymsefydlu, mae’n hapus ac mae’n mwynhau bod yn rhan o gymuned yr ysgol. Felly, da iawn i chi wir, a diolch o galon gan ei fam a minnau".
'Dyakuyu tobi' – diolch – i'r holl gydweithwyr hynny ar draws y Cyngor sy'n ymwneud â chefnogi a chroesawu pobl o Wcráin i Fro Morgannwg.
Wrth i ni ddod at ddiwedd tymor yr haf i'n hysgolion, roedd yn wych cael e-bost gan Paula Ham, y Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, yr wythnos hon yn dweud bod tua thri o'n cydweithwyr wedi cael eu henwebu am wobr fel rhan o Wobrau Addysgu Proffesiynol blynyddol Cymru. Mae Julia Adamson o Ysgol Gynradd Tregatwg wedi'i henwebu am Wobr Disgybl (neu Ddisgyblion) am yr Athro Gorau. Mae Lucy Morgan, o Ysgol y Deri, wedi ei henwebu am Athro'r Flwyddyn mewn ysgol Uwchradd. Mae Nigel Bowie o'r Gwasanaeth Ieuenctid wedi cael ei enwebu am y wobr Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion.
Dywedodd Paula "Rwy'n falch iawn o'r 3 aelod o staff. Mae'n gyflawniad mawr i gael eich enwebu a'ch cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau cenedlaethol pwysig iawn hyn. Mae'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg wedi gwneud sylwadau ar safon eithriadol enwebiadau eleni a phwysigrwydd cydnabod y llu o weithwyr addysg proffesiynol ysbrydoledig sydd gennym yma yng Nghymru. Rydym yn ffodus iawn bod gennym weithwyr proffesiynol mor rhagorol yn gweithio gyda'n plant a'n pobl ifanc ym Mro Morgannwg". Pob lwc i bob un ohonoch ddydd Sul pan, rwy’n gwybod, fydd Paula yn mynychu'r seremoni wobrwyo gan edrych ymlaen yn fawr at ddathlu eich llwyddiannau gyda chi.

Y mis diwethaf oedd Mis Pride sy'n dechrau haf o ddigwyddiadau ledled y wlad. Mae Pride yn ddathliad o bobl yn dod at ei gilydd mewn cariad a chyfeillgarwch i ddangos pa mor bell mae hawliau LHDTC+ wedi dod a sut mae dal gwaith i’w wneud.
Fel Uwch Hyrwyddwr LHDT+ y Cyngor ar yr UDA, cefais gyfle i gwrdd â Tom Narborough, Cadeirydd y Rhwydwaith GLAM a'n Hyrwyddwr aelod etholedig LHDT+, y Cynghorydd Catherine Iannucci yr wythnos hon i siarad am eu syniadau ar gyfer presenoldeb y Cyngor yn Pride Cymru ddydd Sadwrn 27 Awst. Bydd cydweithwyr o GLAM yn rhannu mwy o fanylion yn ystod yr wythnosau nesaf a byddai'n wych gweld llawer o gydweithwyr yn y digwyddiad pwysig a llawn hwyl hwn yng Nghaerdydd.
Gobeithio y cewch benwythnos da ac y mwynhewch yr heulwen. Diolch am bopeth rydych chi’n ei wneud.
Tom