Yr Wythnos gyda Lance Carver
01 Gorffennaf 2022
Annwyl Gydweithwyr,
Gyda Rob ar wyliau, rwy'n ysgrifennu neges diwedd wythnos a hoffwn ddechrau drwy ailedrych ar fater y mae wedi'i grybwyll sawl gwaith yn ystod yr wythnosau diwethaf.
O heddiw ymlaen, bydd pob cydweithiwr ar raddau cyflog un a dau yn gweld eu cyflog yn codi i £9.90 yr awr, gan gyfateb i'r gyfradd cyflog byw gwirioneddol a gydnabyddir yn genedlaethol. Bydd cannoedd o'n cydweithwyr yn elwa o hyn, ac mae llawer ohonynt yn gweithio yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dangos yr hyn y mae'r rheiny ohonom sy'n gweithio yn y sector gofal yn ei wybod yn barod, sef bod gwaith y rhai sy'n gofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn aml yn cael ei danbrisio.
Dechreuais fy ngyrfa mewn rôl fel hyn. Gwn yn uniongyrchol fod y swyddi hyn yn cynnig ymdeimlad mawr o foddhad, ond maent hefyd yn golygu gwaith caled iawn. Mae'n waith sy'n gallu bod yn emosiynol ac yn gorfforol galed ar adegau.
Mae ei effaith yn enfawr. Mae miloedd o bobl ym Mro Morgannwg yn gallu byw gydag urddas ac annibyniaeth diolch i ymdrechion ein staff a'n partneriaid. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu cyfrifoldeb a dyletswydd gofal sylweddol dros y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt.
Rwy’n falch bod Cyngor Bro Morgannwg wedi arwain y ffordd yn y sector o ran cydnabod hyn. Mae ariannu'r sector gofal yn fater hynod gymhleth ond rwy'n mawr obeithio y bydd ein hymdrech yn annog cyflogwyr eraill i ddilyn a helpu i gynyddu cyflogau'r rhai sy'n gweithio yn y maes gofal yn nes at yr hyn y maent yn ei haeddu.
Gwn hefyd y bydd cynyddu cyflog staff ar raddau un a dau yn gwneud i rai o'r rheiny a gyflogir ar y graddau yn union uwchlaw deimlo fel eu bod yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am ddim ond ychydig o dâl ychwanegol. Roedd hwn yn fater a drafodwyd yn helaeth yng nghyfarfod yr UDA ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi cydweithwyr ar draws y Cyngor. Am y tro, gobeithiaf y bydd y cydweithwyr hynny'n deall bod hwn yn waith sy’n parhau a hefyd bod angen i ni ddechrau gyda'r graddau isaf.

Bydd pob cydweithiwr yn cael cyfle i rannu eu barn ar gydnabyddiaeth, yn ogystal â nifer o bynciau pwysig eraill, yn ystod Arolwg Staff 2022 a lansiwyd yr wythnos hon. Mae'r arolwg eleni yn agored i fwy o gydweithwyr nag erioed, gan gynnwys pawb sy'n gweithio mewn ysgolion. Gellir ei gwblhau ar-lein gan ddefnyddio dyfeisiau corfforaethol a phersonol a bydd sesiynau ar gyfer staff rheng flaen mewn adeiladau ledled y Fro yn ystod Gorffennaf ac Awst. Bydd rhagor o fanylion am y rhain yn cael eu rhannu yn ystod yr wythnosau nesaf. A fyddech gystal ag ymateb gan y byddwn yn defnyddio unrhyw adborth i geisio gwneud pethau'n well.
Bydd lles yn thema fawr yn yr arolwg ac felly mae'n addas ei fod wedi'i lansio yn ystod wythnos lles. Mae ein Hyrwyddwyr Lles wedi lansio cyfres o weithgareddau newydd, gyda'r cyntaf yn cael ei gynnal ym Mharc Gwledig Cosmeston ar 7 Gorffennaf rhwng 10am a 12pm. Rwy'n gwybod bod y gweithgareddau hyn yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan y rhai sy'n gallu mynychu.

Yr wythnos hon hefyd lansiwyd Haf o Hwyl 2022. Rwy'n gwybod bod y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi chwarae rhan fawr, ochr yn ochr â'r tîm Chwaraeon a Chwarae, i ddod â rhaglen enfawr o sesiynau at ei gilydd ar gyfer plant a phobl ifanc yn y Fro. Mae'n enghraifft wych o sut mae cydweithio'n darparu gwasanaeth gwych i ddinasyddion.
Mewn enghraifft wych arall sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol, rwy'n falch iawn o rannu bod Cadwch Gymru'n Daclus wedi cymeradwyo cais a gyflwynwyd gennym gyda chydweithwyr o’r gwasanaeth Tai i adeiladu gardd gymunedol yn Nhŷ Dewi Sant ym Mhenarth. Ar ôl ei gwblhau, bydd hyn yn darparu lle i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn ein cartref preswyl ei fwynhau ochr yn ochr â'r gymuned leol.
Hoffwn hefyd dynnu sylw at ymdrechion cydweithwyr yn yr adran Adnoddau Corfforaethol sydd wedi bod yn cyhoeddi'r cylch diweddaraf o daliadau cymorth cost byw yr wythnos hon. Cyhoeddwyd 15,800 o lythyrau ddydd Iau diwethaf i'r rhai sy'n gymwys i wneud cais ac yn yr wythnos ers hynny mae ein timau wedi cymeradwyo 7,470 ar gyfer taliad. Ymdrech enfawr ac un sy'n golygu bod cyfanswm o 25,726 o aelwydydd bellach wedi cael rhywfaint o gymorth y mae mawr ei angen diolch i'n cydweithwyr, gyda'r nifer hwnnw'n codi bob dydd.

Yn olaf, gofynnodd Rob i mi rannu un neges yr wythnos hon. Aeth draw i ŵyl fwyd Ynys y Barri ddydd Sadwrn. Dywedodd wrthyf ei fod yn wych gweld trelar ffrwd aer Big Fresh yno ynghyd â nifer o fusnesau lleol, a bod y staff i gyd yn gwenu er gwaethaf y glaw trwm, a’r mellt a tharanau. Mae Rhys Jones yn haeddu sylw arbennig, Rheolwr Ymgysylltu Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor. Gwnaeth waith gwych i sicrhau bod y digwyddiad yn mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad ar ôl ateb cais brys i weithredu fel rheolwr digwyddiadau'r Cyngor ar fyr rybudd. Rhys, diolch oddi wrthym ni i gyd.
A diolch i bawb arall ar ran yr UDA. Mae wedi bod yn wych cael y cyfle i rannu'r diweddariadau hyn. Bydd Tom Bowring yn drafftio'r neges yr wythnos nesaf.
Diolch
Lance