Cadw'n ddiogel mewn tywydd poeth

Gyda disgwyl i’r tywydd poeth bara wythnosau’n rhagor, mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau i gadw'n ddiogel.

Mae yna awgrymiadau amrywiol ar sut i osgoi'r peryglon sy'n gysylltiedig â thymheredd uchel a chynnal amgylchedd gwaith diogel a chyfforddus.

Peryglon gwres

  • Ar dymheredd uchel gall yr awyrgylch fynd yn drwm, gan achosi i chi deimlo'n gysglyd ac yn llai ymwybodol o beryglon. Gall hyn achosi mwy o risg o ddamweiniau ac anafiadau.

  • Mae anghysur thermol yn arwain at lai o effeithlonrwydd a all arwain at wneud penderfyniadau gwael.

  • Gall gorludded gwres ddigwydd wrth eistedd yn ogystal â gwneud gwaith corfforol. Mae'n digwydd pan nad oes digon o hylif yn eich corff i gymryd lle hylifau a gollwyd drwy chwysu. Mae anghydbwysedd hylifol yn arwain at gyfog, teimlo’n benysgafn, a gwendid cyffredinol gyda thymheredd uwch. Os na chaiff ei drin, gall arwain at lewygu ac o bosibl trawiad gwres.

  • Mae trawiad gwres yn gyflwr sy'n bygwth bywyd lle mae'r corff yn colli'r gallu i reoli ei dymheredd ei hun. Gall deillio o gorludded gwres heb ei drin neu yn sgil amodau lleithder uchel. Mewn tywydd clos iawn ni all chwys anweddu o'r croen felly ni all y corff oeri ei hun yn effeithiol.

Pwy sydd mewn perygl?

  • Y rhai sy'n gweithio yn yr awyr agored

  • Y rhai sy'n gweithio mewn amgylcheddau poeth, fel staff cegin

  • Trigolion oedrannus. Wrth i rywun heneiddio mae ei fecanweithiau rheoli tymheredd yn mynd yn llai effeithlon.

  • Oedolion sy'n agored i niwed

  • Plant ifanc. Ni all plant reoli tymheredd eu corff mor effeithlon ag oedolion yn ystod tywydd poeth gan nad ydynt yn chwysu cymaint ac felly gallant fod mewn perygl o fynd yn sâl achos y gwres.

Cadwch lygad allan am eraill

Mae'n bwysig ein bod yn cadw llygad am bobl oedrannus, sâl a phobl ifanc iawn a sicrhau eu bod yn gallu cadw'n oer ac yn ddiogel yn ystod tywydd poeth.

Os oes gennych gymdogion oedrannus neu fregus, edrychwch arnynt pryd bynnag y gallwch. Os ydych yn pryderu am rywun neu os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch feddyg neu wasanaethau cymdeithasol.

Mae gan GIG Cymru ragor o wybodaeth ar eu gwefan, ynghyd â chanllawiau penodol i'r cyhoedd, y rhai sy'n gofalu am blant, trefnwyr digwyddiadau a gweithwyr iechyd proffesiynol:

 

Rhagofalon i'w cymryd

  • Os yw'n bosibl, ceisiwch osgoi bod allan yn yr haul.

  • Os yw'n bosibl, gwnewch waith awyr agored a gwaith corfforol yn ystod amser oerach o'r dydd, er enghraifft, cyn 11am neu ar ôl 3pm. 

  • Cymerwch seibiannau rheolaidd mewn amgylchedd oer i ffwrdd o'r haul a ffynonellau gwres fel offer coginio.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn awyru’r ystafell drwy agor ffenestri a defnyddio ffaniau, ac unedau aerdymheru.

  • Caewch y llenni neu'r bleinds i gadw golau'r haul allan.

  • Os ydych chi'n gweithio yn yr awyr agored, defnyddiwch eli haul gyda SPF (Ffactor Amddiffyn rhag yr Haul) o 30 o leiaf a gwisgwch hetiau a rhywbeth i ddiogelu’r gwddf. Dylai rheolwr ddarparu hyn os na ellir addasu'r amgylchedd gwaith.

  • Oni bai bod eich dillad gwaith yn cael eu hystyried yn hanfodol i'ch diogelwch, dewiswch ddillad lliw golau a llac i aros yn oer.

  • Yfwch ddigon o ddŵr. Awgrymir y dylai staff sy'n gwneud gwaith corfforol mewn amodau poeth yfed 8 peint o ddŵr y dydd ynghyd â pheint arall am bob awr a weithir. Dylai rheolwr gyflenwi dŵr yfed yn y senario hwn.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau pellach ar weithio mewn tywydd poeth yn nogfen Gweithio mewn Tywydd Poeth - Cwestiwn ac Ateb i Reolwyr:

Gweithio mewn Tywydd / Amgylcheddau Poeth – Cwestiwn ac Ateb i Reolwyr

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Sue Williams: