Cadwch y dyddiad ar gyfer te parti Uni-Tea!

Glam

 

 

 

 

Glam 1Dangoswch eich cefnogaeth i Pride 2022 trwy ymuno â GLAM a Diverse ar gyfer te a chacennau ar 10 Awst.

Bydd y digwyddiad 'Uni-Tea' yn gyfle i staff sydd am fod yn rhan o orymdaith Pride Cymru eleni gwrdd â'u cyd-orymdeithwyr, aelodau a rhwydweithiau.

Byddwch yn ymarfer eich sgiliau celf a chrefft drwy baratoi baneri mawr, baneri bach a baneri llaw ar gyfer y digwyddiadau Pride. 

Bydd ein timau rhwydwaith GLAM a Diverse yno, yn rhannu gwybodaeth ynghylch sut rydym yn cefnogi amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y Cyngor. Gallwch ddysgu sut i fod yn gynghreiriad ac am bwysigrwydd y rôl honno wrth helpu unigolion a chymunedau i fyw eu bywydau gorau.

Gallwch hefyd gofrestru eich diddordeb i ymuno â ni ar gyfer Gorymdaith Pride ar 27 o Awst a chael gwybod pa ddathliadau lleol eraill sydd ar y gweill. 

Cynhelir y noson ar Awst 10, o 3-6pm yn Siambr y Cyngor yn y Swyddfeydd Dinesig. Digwyddiad wyneb-i-wyneb yw hwn.

Glam 2